Datblygiad Proffesiynol

Rheoli Eich Datblygiad Proffesiynol Eich Hun
Mae cyflymder diweddar y newidiadau o ran addysg yn gyffredinol, a'r newidiadau i'r cwricwlwm yn arbennig, yn golygu ei fod yn angenrheidiol i athrawon ddiweddaru hen sgiliau a datblygu sgiliau newydd. Ni fydd datblygiad proffesiynol yn effeithiol os yw'r cyfranogwyr yn oddefol ac mae'r blaenoriaethau'n cael eu pennu gan yr ysgol neu'r gwasanaeth yn unig. Gellir dangos bod datblygiad a gynlluniwyd ac a gyfeiriwyd gan y person ei hun yn cael mwy o effaith ar ansawdd gwaith yn yr ystafell ddosbarth. Bydd defnyddio portffolio yn cefnogi ymagwedd ragweithiol tuag at ddatblygiad proffesiynol.

Bydd manteision datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cael ei ddiffinio a'i dargedu'n gywir yn galluogi athrawon i:

Y Portffolio Tystiolaeth
Beth yw portffolio? Casgliad cyfrinachol a gwirfoddol o ddeunyddiau sy'n cofnodi ac yn adlewyrchu eich gwaith yw portffolio datblygiad proffesiynol. Mae'n ffordd o ddefnyddio profiadau'r gorffennol a gweithgareddau'r presennol i ddangos ac adlewyrchu'r sgiliau a ddysgwyd, nodi anghenion a blaenoriaethau dysgu yn y dyfodol a hysbysu a chynllunio datblygiad disgwyliedig. Mae'n darparu mecanwaith ar gyfer ystyried eich arferion mewn ffordd systematig a gynlluniwyd.

Mae portffolio'n cysylltu ar draws yr holl fentrau DPP gan gynnwys y Fframwaith Safonau, sy'n darparu 'man cychwyn' er mwyn i athrawon gydnabod y sgiliau amrywiol y mae eisoes ganddynt ac y gallai fod eu hangen arnynt ar gyfnodau gwahanol yn eu gyrfa. Mae'r fframwaith yn galluogi athrawon i gynllunio hyfforddiant a datblygiad er mwyn gwneud y defnydd gorau o'u doniau o fewn y proffesiwn addysgu a chefnogi rheoli perfformiad.

Mae rhan gyntaf portffolio'n cynnwys tystiolaeth o 'gyflawniadau' fel tystysgrifau, cymwysterau, cyrsiau perthnasol a fynychwyd, swyddi a chyfrifoldebau penodol.

Mae'r ail ran ar gyfer portffolio datblygiad lle y gallwch:

Pam Cadw Cofnod?
Bydd y broses yn eich annog i adfyfyrio ar eich profiadau ac fe fydd hyn yn gwella eich dysgu. Mae cofnod o'ch DPP yn debygol o fod yn ofyniad cyffredin ar gyfer athrawon a rheolwyr.

Yn y dyfodol mae'n bosib y bydd angen cofnod o'r fath arnoch mewn sawl sefyllfa:

Sut i Ddechrau?
Yr Awdit – Ymgymryd ag awdit o'ch sgiliau a'ch galluoedd proffesiynol personol.

Byddwch yn nodi'r canlynol o'r awdit:

  1. cryfderau
  2. meysydd y mae angen eu gloywi
  3. meysydd nad oes gennych lawer o brofiad neu ddim profiad ynddynt ac y bydd angen i chi gael profiad ynddynt
  4. hyfforddiant a datblygiad pellach

Gallech ddefnyddio'r canlynol fel rhestr wirio:

  1. eich disgrifiad swydd
  2. y Fframwaith Safonau
  3. dadansoddiad SWOT
  4. offerynnau hunanadolygu eraill

Gan ddefnyddio'r uchod i'ch hysgogi, efallai yr hoffech adfyfyrio ar:

.