Sut Ydw i'n Lawrlwytho'r Ffeiliau Hyn?

Mae'r rhan fwyaf o ffeiliau ar gael mewn fformat Word a PDF.

Eicon Microsoft Word   Eicon PDF

Microsoft Word
I weld dogfennau Word rhaid i chi gael Microsoft Word wedi'i osod ar eich cyfrifiadur neu ar raglen prosesu geiriau gydnaws.

Os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer fel eich porwr, cliciwch ar eicon Word y ddogfen yr ydych yn dymuno edrych arni a bydd yn cael ei dangos yn y ffenestr bori fel gwe-dudalen arferol.

Yna gallwch gadw'r ddogfen ar eich cyfrifiadur drwy ddewis File>Save o'r fwydlen ar frig y sgrin.

 

Portable Document Format (PDF)
Mae PDF yn datblygu'n fformat safonol ar gyfer dosbarthu dogfennau electronig ac mae llawer o'r dogfennau sydd ar gael i'w lawrlwytho o'r we i'w gweld fwyfwy yn y fformat hwn.

I weld dogfennau PDF rhaid i chi feddu ar Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Mae hwn ar gael am ddim gan Adobe a gallwch ei lawrlwytho yma:

Lawrlwytho Acrobat Reader

Cliciwch ar eicon PDF y ddogfen rydych am edrych arni a bydd yn cael ei dangos yn y ffenestr bori.

Yna gallwch arbed y ddogfen ar eich cyfrifiadur drwy ddewis File>Save o'r fwydlen ar ben y sgrin.

EiconEicon
Mae'r eiconau uchod ar gyfer amlffeiliau mewn fformat Word neu PDF sydd wedi cael eu sipio neu eu cywasgu. Cliciwch ar yr eicon priodol i lawrlwytho'r ffeiliau sip i'ch cyfrifiadur. Unwaith maent wedi'u lawrlwytho, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd fel Winzip i ddadsipio'r ffeiliau i'w defnyddio. Os nad oes gennych Winzip ar eich cyfrifiadur yn barod, gallwch lawrlwytho copi gwerthuso am ddim o Winzip

.