Cymraeg Ail Iaith
Meysydd i'w Datblygu
- Byddai pob ysgol yn elwa o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o botensial TGCh mewn perthynas â dysgu ac addysgu Cymraeg Ail Iaith, gan gynnwys defnyddio'r Grid Dysgu Cenedlaethol.
- Mae angen i arweinwyr cwricwlaidd ac athrawon Bl5/Bl6 mewn rhai ysgolion ddarparu amrywiaeth ehangach o dasgau ysgrifennu ar ben uchaf CA2.
- Mae angen i rai ysgolion gael cefnogaeth ac arweiniad mewn perthynas â Safonau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ym Ml5/Bl6 gan ddefnyddio O.A.M. ACCAC ar gyfer Cymraeg Ail Iaith.
- Mae angen i swyddogion perthnasol yr AALl, gan weithio gyda TG Baglan, ELRS ac yn enwedig San Helen, gefnogi ysgolion i ddelio â'r materion uchod a pharhau i rannu arfer da, yn enwedig yn y meysydd canlynol a nodwyd gan ysgolion yn ystod yr adolygiad:
- Portffolio o waith disgyblion ar draws yr AALl – gan gynnwys dangos safonau llafar ar fideo.
- Hunanwerthuso ysgolion o ran Cymraeg Ail Iaith.
- Strategaethau trawsgwricwlaidd.
- Mentrau trosglwyddo pellach o ran CA2/CA3.
Dangosodd pob ysgol dystiolaeth o ddathliadau Gŵyl Ddewi. Yn yr arfer gorau, trefnwyd cystadlaethau eisteddfod ar gyfer pob maes pwnc, a gwireddwyd perthnasedd a photensial y Cwricwlwm Cymreig yn llawn ar gyfer athrawon a disgyblion. Roedd llawer o ddisgyblion yn awyddus iawn (hyd yn oed yn benderfynol) i rannu eu profiadau Gŵyl Ddewi gyda ni.
Yn ôl i'r Adolygaidau Pwnc |