Rhoi Cyfeiriad i Ddaearyddiaeth
Meysydd i'w Datblygi
- Byddai pob ysgol yn elwa o sicrhau trefniadau trosglwyddo cytûn sy'n cynnwys:
- rhannu gwybodaeth am allu a chyflawniad wrth drosglwyddo
- caniatáu i staff o ysgolion partner gwrdd er mwyn arsylwi ar ddulliau addysgu ei gilydd
- trafod materion sy'n ymwneud â pharhad
- rhannu arfer da
- Mae lle i athrawon pob cyfnod allweddol ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o sut yr addysgwyd y disgyblion yn flaenorol er mwyn hwyluso continwwm dysgu mwy cydlynol.
- O fewn y cyfnod uwchradd, byddai darparu uned ranbarthol ragarweiniol yn rhoi cyd-destun daearyddol ar gyfer datblygu sgiliau map ymarferol a phriodol. Fe fyddai hefyd yn datblygu astudiaethau ardal y mae'n debygol y byddai'r disgyblion wedi'u gwneud yn ystod CA2, a chynorthwyo'r staff i wneud asesiad diagnostig o'r hyn y mae'r disgyblion yn ei wybod, ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Fe fyddai hefyd yn helpu i gynnal ymroddiad y disgyblion at ddysgu a gwella eu cynnydd.
- Byddai ysgolion yn elwa o sicrhau ymagwedd at y pwnc sy'n seiliedig ar ymholi, gan ddefnyddio'r cwestiynau a bwysleisiwyd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol/Cynllun Gwaith yr AALl fel mannau cychwyn ar gyfer dysgu. Mae disgyblion yn ymateb orau pan fydd angen iddynt ymchwilio a llunio'u hymatebion eu hunain. Byddai gofyn iddynt lunio a chynnal eu dilyniant ymholi eu hunain yn gwella parhad, datblygu sgiliau ymchwilio'r disgyblion ac annog dysgu annibynnol. Fe fyddai hefyd yn caniatáu ar gyfer cymhwyso sgiliau daearyddol ac allweddol, yn enwedig TGCh y mae ei ddatblygiad yn amrywiol ar hyn o bryd.
- Mae ysgolion cynradd bron yn ddieithriad yn addysgu daearyddiaeth fel gwers “annibynnol” yn ystod sesiynau prynhawn, gan neilltuo'r bore ar gyfer dysgu'r pynciau craidd. Rydym yn gwerthfawrogi'r rhesymeg dros drefnu'r cwricwlwm ysgol yn y modd hwnnw, ond teimlir bod cyfleoedd yn cael eu colli'n aml i ddefnyddio llythrennedd a rhifedd fel modd o gyflwyno'r cwricwlwm daearyddiaeth ac fel arall.
- Er y darperir ar gyfer datblygiad graffigol a rhifiadol, gallai'r disgyblion ym mhob cyfnod allweddol gael cysylltiad cynyddol â data daearyddol a'i gynrychioliad mewn amrywiaeth o fformatau.
- Mae angen i ysgolion ddatblygu portffolio pwnc sy'n dangos ymagwedd gyson at ddysgu daearyddiaeth ar draws yr ysgol. Dylid lefelu ac anodi'r gwaith yn y portffolio a'i rannu ar draws y cyfnodau allweddol. Dylid defnyddio gwaith y disgyblion fel ffocws ar gyfer trafodaethau ynglŷn â dilyniant ac ymagweddau at ddysgu wrth i ddisgyblion drosglwyddo.
- Nid yw'r trefniadau i asesu cynnydd disgyblion o ran daearyddiaeth yn y cyfnod cynradd wedi'u datblygu'n ddigonol ar hyn o bryd, ac maent yn rhwystro cydweithwyr rhag nodi cyflawniad blaenorol er mwyn gosod gwaith sy'n cynnig her briodol. Argymhellir yn gryf y dylid defnyddio deunydd asesu dewisol ACCAC yn CA2.
Bwrdd cynllunio a ddefnyddiwyd mewn dosbarth Blwyddyn 3 fel ysgogiad cychwynnol ac yna fel cofnod ymholi yn ystod astudiaeth o ardal y disgyblion.
Yn ôl i'r Adolygaidau Pwnc |