Rhoi D&Th ar Waith
Meysedd i'w Datblygi
- Ychydig iawn o dystiolaeth sydd o waith technoleg reoli yn CA1 neu 2. Mae hyn yn groes i ofynion statudol y Cwricwlwm Cenedlaethol. Yn CA2 profiadau eithaf cyfyngedig sydd gan y disgyblion o ddefnyddio cydrannanu trydanol i gyflawni canlyniadau swyddogaethol. Tra bo tystiolaeth o'r disgyblion yn defnyddio mecanweithiau syml i gynhyrchu gwahanol fathau o symudiad, mae'r profiadau hyn yn fwyaf effeithiol pan fydd y disgyblion yn defnyddio cydrannau cit masgynnyrch i ategu eu syniadau eu hunain yn hytrach na mynd trwy'r broses lafurus o wneud eu cocs a'u gerau eu hunain nad ydynt yn gweithio'n gywir yn aml.
- Mae'r ymarfer gwerthuso bob amser yn digwydd ar ddiwedd gweithgaredd dylunio yn seiliedig ar yr hyn y mae'r disgyblion yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi am y cynnyrch gorffenedig. Dylai gwerthuso effeithiol fod yn broses barhaus sy'n rhoi cyfle i'r disgyblion werthuso yn ystod y cyfnodau adeiladu i brofi theoriau, syniadau a deunyddiau. Dylai gwerthuso effeithiol ganiatáu i'r disgyblion farnu pa mor ymarferol yw eu cynhyrchion a pha mor effeithiol yw'r canlyniad o ran y meini prawf a osodwyd yn y brîff dylunio cychwynnol.
- Mae tuedd gref i'r gwaith yr arsylwyd arno ym mhob cyfnod allweddol gael ei gyfarwyddo gormod gan yr athro. O ganlyniad mae elfennau allweddol ymholi a chreadigrwydd, sy'n cyfrannu'n fawr at ddysgu dylunio a thechnoleg effeithiol, yn aml yn cael eu rhwystro. Mae dysgu o safon uchel fel arfer yn digwydd trwy ganiatáu i'r disgybl gyfrannu at y broses, ac mae'n bosib na fydd hyn o reidrwydd yn cael ei adlewyrchu yn safon y cynnyrch. Yn yr ysgolion a farnwyd orau gennym ni o ran darparu profiadau dylunio a thechnoleg, caniatawyd i'r disgyblion fethu ac roedd briffiau dylunio'n aflwyddiannus weithiau.
- Nid yw gwneud prototeipiau i brofi meddyliau cychwynnol ac fel sbardun i greadigedd y disgyblion yn cael ei ddatblygu'n ddigonol.
- Nid yw'r trefniadau i asesu cynnydd y disgyblion o ran dylunio a thechnoleg yn y cyfnod cynradd wedi'u datblygu'n ddigonol ar hyn o bryd, ac maent yn rhwystro cydweithwyr rhag nodi cyrhaeddiad blaenorol er mwyn gosod gwaith sy'n cynnig her briodol. Argymhellir yn gryf defnyddio deunydd asesu dewisol ACCAC yn CA2.
- Roedd diffyg her a chyflymder mewn rhai gwersi yr arsylwyd arnynt yn CA2 a CA3 a gellid gosod rhai gweithgareddau ystafell ddosbarth fel tasgau gwaith cartref i gefnogi gweithgaredd dosbarth mwy heriol.
- Yn aml mae perthynas agos rhwng pynciau dylunio a thechnoleg y CC a chelf. Ond mae peth tystiolaeth sy'n awgrymu bod cynhyrchion addurnol, y gellir eu disgrifio orau fel gweithiau celf, yn cael eu gwneud dan gochl dylunio a thechnoleg. Mae angen i'r disgyblion ystyried ymarferoldeb eu cynhyrchion ac a yw'r broses ddylunio yn caniatáu iddynt wneud cynnyrch arall unfath neu debyg. Mae hefyd angen i'r disgyblion ddeall anghenion y defnyddiwr wrth ymchwilio, dylunio a gwneud eu cynhyrchion.
- Mae safon y gwaith grŵp yn amrywio'n eang yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy. Mewn rhai enghreifftiau ysgogodd y ddeinameg grŵp ar drafodaeth fywiog, ond yn amlach na pheidio mae gwaith grŵp yn cynnwys pedwar neu bump unigolyn yn gweithio ar wahân ar aseiniad cyffredin ac yn cymryd tro i wneud tasgau penodol mewn perthynas â'r aseiniad hwnnw.
- Mae angen i'r ysgolion sicrhau bod y disgyblion yn cael cyfle i gofnodi eu gwaith mewn sawl ffordd er mwyn rhoi dewis i'r disgyblion o ran cyfleu eu syniadau mewn ffordd nad yw'n cyfyngu ar eu brwdfrydedd dros y pwnc.
Yn ôl i'r Adolygaidau Pwnc |