Adolygu Addysg Grefyddol
Meysydd i'w Datblygu
- Mae'r amser addysgu ar gyfer AG yn anghyson weithiau. Dylid neilltuo 5% o amser y cwricwlwm i'r pwnc yn wythnosol. Nid yw hyn yn cynnwys Cydaddoli.
- Nid yw'r trefniadau i asesu cynnydd disgyblion o ran AG yn y cyfnod Cynradd wedi'u datblygu digon ar hyn o bryd. Mae angen i ysgolion sicrhau bod marcio'n gysylltiedig ag amcanion gwersi, gan alluogi'r disgyblion i gael targedau clir ar gyfer gwella eu gwaith.
- Mae diffyg manyldeb o ran y trefniadau pontio rhwng CA1 a 2 a dylid eu datblygu ymhellach. Gallai ysgolion ganolbwyntio ar y materion canlynol:
- Ysgolion Babanod a Iau i gydweithio ar gynllun gwaith a rennir
- osgoi dyblygu themâu crefyddol cyffredin ar draws dosbarthiadau a chyfnodau e.e. mae angen cynllunio ymweliad â synagog yn ofalus er mwyn osgoi ailadrodd
- caniatau staff o ysgolion partner i gwrdd ac arsylwi dulliau addysgu ei gilydd a rhannu adnoddau ac arbenigedd
- darparu cyfleoedd a gynlluniwyd i drafod materion sy'n ymwneud â chynnydd a dilyniant
- Mae angen i ysgolion barhau i ddatblygu rôl y Cydlynydd AG wrth gynllunio monitro a gwerthuso ac adrodd, gan gynnwys cyd-gysylltu â'r Corff Llywodraethu.
- Byddai'r Cydlynwyr yn elwa o sicrhau cyllideb flynyddol reolaidd i brynu adnoddau perthnasol.
- Mae angen i athrawon sicrhau bod ffocws crefyddol clir i wersi AG.
- Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer delio â'r sgiliau sylfaenol wrth addysgu AG, sy'n cynnwys:
- arsylwi
- holi
- empathi
- dealltwriaeth
- adfyfyrio
- barn
- mynegiant
- Yn yr un modd mae angen sicrhau bod ysgolion yn cynllunio ar gyfer addysgu agweddau sylfaenol o ran AG, e.e:
- gofal
- chwilfrydedd
- sensitifrwydd
- unplygrwydd
- gwerthfawrogiad
Yn ôl i'r Adolygaidau Pwnc |