Ffocws ar Hanes
Hanes - Trosglwyddo
- Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy ceir ychydig o gyfleoedd i gynorthwyo'r trosglwyddo o ran dysgu disgyblion yn hanes. Dim ond rhai ysgolion sydd wedi datblygu prosiectau gyda'u hysgolion cyfun lleol ac mae'r rhain wedi'u cyfyngu i ddatblygiadau fel Artistiaid Preswyl (Y Blits) a chynllun y sachau stori.
- Ni chafwyd tystiolaeth o rannu arbenigedd athrawon, adnoddau, prosiectau traws-gyfnod nac o ddilyniant a pharhad sgiliau, cofnodion cwricwlwm, a chynlluniau gwaith traws-gyfnod. Nid oedd gan gydlynwyr/arweinwyr pwnc cynradd fawr o wybodaeth ynghylch sut mae hanes yn cael ei ddysgu yn ystod CA3 nac i'r gwrthwyneb chwaith. Ar hyn o bryd nid oes cyfle i weithio ar y cyd mewn Hanes wedi'i ddatblygu yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy.
- Mae marcio gwaith disgyblion Bl.7 ymlaen (CA3) yn wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd yn y sector cynradd.
- Nid yw'r agweddau trawsgwricwlaidd a geir yn yr holl ysgolion cynradd mor amlwg ar y lefel uwchradd ac mae hynny'n newid sylweddol i ddisgyblion o ran dysgu ac addysgu. Yn y lefel uwchradd, mewn arfer gorau, parheir â'r ymagwedd ymchwiliol, ymholi mewn cyd-destun pwnc penodol.
Meysydd i'w Datblygu
- Mae'r 'Cwricwlwm Cymreig' mewn ysgolion cynradd yn aml yn cael ei ddehongli mewn ffordd gul drwy gynnwys pobl enwog (Dewi Sant, Caradog, Mari Jones). Dylai ysgolion ystyried sut mae datblygiadau hanesyddol yn rhan o ddarlun ehangach hanes Cymru e.e. cymharu materion lleol ag ardal arall yng Nghymru, agweddau diwylliannol ac ieithyddol yr ardal drwy astudio tirnodau ac enwau lleoedd ac effaith ac ymateb pobl Cymru i oresgyniadau.
- Dylai ysgolion ganolbwyntio ar ddiffiniad Estyn o'r hyn yw sgiliau allweddol a sicrhau bod y rhain yn cael eu datblygu'n gynyddol ar draws y cyfnodau allweddol a'r cyfnod cynradd ac uwchradd.
- Mae trosglwyddo o ran hanes heb ei ddatblygu'n ddigonol ar hyn o bryd. Dylai ysgolion hybu hyn drwy ganolbwyntio ar rannau datblygu'r materion canlynol:
- 'unedau pontio' neu bynciau cyffredin i'w hastudio o fewn y clwstwr (e.e. Mynachlog Nedd, Datblygiad Diwydiannol etc.)
- llunio polisïau marcio traws-gyfnod cyffredin i'r athrawon a fyddai o fudd i ddysgu'r disgyblion
- egluro a chytuno ar natur a chwmpas y cofnodion cyrhaeddiad sy'n ddymunol ar gyfer trosglwyddo
- rhannu cynlluniau gwaith ac arbenigedd addysgu (gwybodaeth/strategaethau) yn ogystal ag adnoddau ac arteffactau hanes
- canolbwyntio'n fwy cyson ar ddatblygu sgiliau hanes disgyblion – y 'sut a pham' yn ogystal â 'beth'
- Dylai ysgolion ystyried natur a diben defnyddio taflenni gwaith i blant CA1 a CA2 yn y cwricwlwm hanes.
- Yn yr un modd, dylai ysgolion osgoi cadw cofnodion sy'n cynnwys cofnodi'r hyn a astudiwyd ac sy'n ailadroddus a braidd yn ddiwerth o ran codi safonau. Dylid sicrhau bod sylwadau marcio athrawon wedi'u seilio ar amcanion y gwersi a lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Yn ôl i'r Adolygaidau Pwnc |