AsesuHanes

Lefel 1
Bydd y disgyblion yn dangos ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth rhwng y presennol a'r gorffennol yn eu bywydau eu hunain ac ym mywydau pobl eraill. Dangosant eu hymwybyddiaeth gynyddol o gronoleg drwy osod ychydig o ddigwyddiadau a gwrthrychau mewn dilyniant, a thrwy ddefnyddio termau bob-dydd am dreigl amser. Gwyddant am ddigwyddiadau mewn storïau am y gorffennol a gallant eu disgrifio. Byddant yn dechrau adnabod cynrychioliadau o'r gorffennol, ac yn dechrau dod o hyd i atebion i gwestiynau am y gorffennol o ffynonellau. Byddant yn adnabod ac yn grwpio darn o wybodaeth i gyfleu eu hymwybyddiaeth o'r gorffennol.

Lefel 2
Bydd y disgyblion yn dangos eu hymwybyddiaeth gynyddol o gronoleg drwy ddefnyddio termau sy'n gysylltiedig â threigl amser, drwy osod digwyddiadau a gwrthrychau yn eu trefn a thrwy wahaniaethu rhwng agweddau ar eu bywydau eu hunain ac adegau yn y gorffennol. Dangosant wybodaeth o agweddau ar y gorffennol ac o rai o'r prif ddigwyddiadau a phobl y maent wedi eu hastudio. Byddant yn dechrau sylweddoli bod rhesymau sy'n esbonio pam y gweithredodd pobl yn y gorffennol fel y gwnaethant a bod gwahanol ffyrdd o gynrychioli'r gorffennol. Atebant gwestiynau am y gorffennol drwy wneud arsylwadau syml o ffynonellau hanesyddol. Byddant yn dechrau dewis a threfnu a throsglwyddo darnau o wybodaeth am y gorffennol.

Lefel 3
Bydd y disgyblion yn dangos eu dealltwriaeth o gronoleg gan eu bod yn fwyfwy ymwybodol o'r ffaith fod modd rhannu'r gorffennol yn wahanol gyfnodau amser, a'u bod yn adnabod rhai o'r nodweddion tebyg a gwahanol rhwng y cyfnodau hynny. Dangosant wybodaeth o rai o'r prif ddigwyddiadau, pobl a newidiadau a dynnir o'r rhaglen astudio briodol. Byddant yn dechrau rhoi ychydig o resymau dros y prif ddigwyddiadau a newidiadau, a'u canlyniadau. Nodant rai o'r gwahanol ffyrdd o gynrychioli'r gorffennol. Byddant yn gofyn ac yn ateb cwestiynau am y gorffennol drwy ddefnyddio ffynonellau hanesyddol, ac yn dewis, yn trefnu ac yn cyfleu gwybodaeth hanesyddol mewn amrywiol ffyrdd.

Lefel 4
Bydd gwaith y disgyblion yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o agweddau ar hanes Cymru a Phrydain a meysydd cynnwys eraill a dynnir o Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 2. Defnyddiant hynny i ddisgrifio nodweddion cymdeithasau a chyfnodau yn y gorffennol ac i nodi newidiadau o fewn ac ar draws cyfnodau. Disgrifiant rai o'r prif ddigwyddiadau, pobl a newidiadau. Rhoddant rai o achosion a chanlyniadau'r prif ddigwyddiadau a newidiadau. Dangosant sut mae rhai agweddau ar y gorffennol wedi cael eu cynrychioli a'u dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Dechreuant ddethol a chyfuno gwybodaeth o ffynonellau hanesyddol. Dechreuant gynhyrchu gwaith strwythuredig, gan ddefnyddio dyddiadau a thermau'n briodol.

Lefel 5
Bydd gwaith y disgyblion yn dangos dyfnder cynyddol o wybodaeth a dealltwriaeth o agweddau ar hanes Cymru a Phrydain ac o feysydd cynnwys eraill a dynnir o Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 2. Defnyddiant hynny i ddisgrifio nodweddion cymdeithasau a chyfnodau yn y gorffennol, ac i ddechrau nodi'r cysylltiadau rhyngddynt. Disgrifiant ddigwyddiadau, pobl a newidiadau. Disgrifiant achosion a chanlyniadau perthnasol digwyddiadau a newidiadau, a nodant gysylltiadau rhyngddynt. Gwyddant fod rhai digwyddiadau, pobl a newidiadau wedi'u dehongli mewn gwahanol ffyrdd ac awgrymant resymau posibl dros hynny. Gan ddefnyddio'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth, bydd y disgyblion yn dechrau gwerthuso ffynonellau hanesyddol a nodi'r rhai sy'n ddefnyddiol wrth ateb cwestiynau penodol. Byddant yn dewis a threfnu gwybodaeth i gynhyrchu gwaith strwythuredig, gan ddefnyddio dyddiadau a thermau'n briodol.

Mae'r dudalen hon ar gael fel taflen waith a gellir ei lawrlwytho isod. Sut ydw i'n lawrlwytho'r ffeiliau hyn?

Fersiwn Word (27k) Fersiwn PDF (31k)
Asesu - Hanes

.