Asesu yng Nghastell-Nedd Port Talbot
"Mae'n rhaid i addysg plant dderbyn y gofal a sylw mwyaf egniol athrawon – nid eu cynlluniau gwersi neu eu cynlluniau gwaith, na'u darpariaeth gyfoethog a chyffrous – ond y dysgu sy'n tarddu o bopeth a wnânt (ac na wnânt) yn yr ysgol a'r dosbarthiadau. Y broses o asesu plant – drwy edrych arno'n ofalus ac ymdrechu i'w ddeall – yw'r unig ffordd sicr o ddiogelu plant rhag methu, yr unig warant pendant o ran gynnydd a datblygiad plant"
(Drummond 1993)
Y Sefyllfa Bresennol
Yn ystod blwyddyn academaidd 2003-04, bu Swyddogion Datblygu Cynradd yn cynnal arolwg asesu er mwyn canfod yr arferion a'r tueddiadau cyfredol. Gweler crynodeb o'r materion a drafodwyd gyda phenaethiaid a chydlynwyr asesu isod. Ar ddiwedd y ddogfen hon, gwneir argymhellion i ddatblygu arfer effeithiol.
- Defnyddio profion safonedig
- Mae pob ysgol yn defnyddio profion wedi'u safoni; NFER mathemateg a darllen gan fwyaf.
- Nid yw nifer fechan o ysgolion Cynradd yn defnyddio prawf mathemateg NFER.
- Mae un clwstwr o ysgolion yn defnyddio profion CAT ym mlwyddyn 5 ac mae'r canlyniadau'n cael eu trosglwyddo i'r ysgol uwchradd dderbyn.
- Mae rhai ysgolion yn defnyddio profion ychwanegol e.e. Cynnydd yn Saesneg a sillafu NFER.
- Mae'r mwyafrif o ysgolion yn dadansoddi'r canlyniadau ac yn gwneud defnydd pwrpasol o'r data.
- Mae'r mwyafrif llethol o ysgolion yn defnyddio profion wedi'u safoni yn flynyddol, fel arfer ym mis Mai, ond mae nifer fechan yn cynnal profion yn fwy aml.
- Defnyddio profion nad ydynt wedi'u safoni
- Defnyddir ystod ac amrywiaeth eang iawn o brofion; mae'r rhan fwyaf ohonynt yn brofion diwedd modwl o fewn cynlluniau masnachol.
- Defnyddir profion nad ydynyt wedi'u safoni'n bennaf yn y pynciau craidd.
- Mae ysgolion sydd â lefelau uchel o ddisgyblion AAA yn tueddu i ddefnyddio profion Mynegai Aston.
- Ychydig iawn o asesu sydd yn y pynciau sylfaenol, gydag enghreifftiau prin o ysgolion yn defnyddio deunyddiau asesu dewisol ACCAC.
- Defnyddio systemau olrhain
- Mae gan y mwyafrif o ysgolion system olrhain; naill ai â llaw neu electronig.
- Mae rhai systemau da iawn yn bodoli, sy'n gwneud defnydd da o'r wybodaeth i dargedu cefnogaeth.
- Mae llawer o ysgolion yn ystyried systemau TG drwy Assessment Manager. Bydd y gweithgor, sydd bellach wedi ei sefydlu, yn mynd i'r afael â hyn.
- Yn bennaf, mae systemau olrhain yn canolbwyntio ar ganlyniadau ym mhrofion safonedig y pynciau craidd. Pan gyflawnir arfer gorau maent yn rhagweld lefelau disgwyliedig ar gyfer disgyblion unigol, erbyn diwedd y cyfnod allweddol.
- Ffeiliau Cofnodion Cyrhaeddiad neu Ffeiliau ROPA
- Mae llawer o ysgolion yn dal i gadw ffeiliau unigol ar gyfe disgyblion, a elwir yn ffeiliau ROPA yn aml, i gasglu detholiad o waith a chofnodi cyflawniadau y tu hwnt i'r cwricwlwm.
- Mae rhai ysgolion yn defnyddio rhestrau gwirio "Modbury", sy'n dangos y lefelau ym mhob pwnc unigol.
- Mae llawer o enghreifftiau o bortffolios ysgol gyfan. Yn yr enghreifftiau gorau, mae'r gwaith yn cael ei lefelu a'i anodi.
- Mewn llawer o ysgolion, mae cadw cofnodion yn golygu ymdrin â'r cynnwys yn hytrach na chyflawniadau'r disgyblion. Yn aml mae lefel uchel o ddyblygu rhwng cynllunio, llyfrau'r plant a chadw cofnodion.
- Defnyddio disgrifwyr lefel
- Gwneir defnydd llai o ddisgrifwyr lefel, er bod y rhan fwyaf o ysgolion yn honni i fod yn ymwybodol ohonynt wrth lunio cynlluniau gwaith.
- Mae rhai ysgolion yn defnyddio amcanion allweddol y cynlluniau gwaith, yn enwedig ym mathemateg.
- Mewn rhai dosbarthiadau mae disgrifwyr lefel yn cael eu harddangos er mwyn darapru'r meini prawf i ddisgyblion werthuso eu gwaith eu hunan.
- Yn yr enghreifftiau gorau o arfer da, defnyddir disgrifwyr lefel o fewn amcanion dysgu, fel penawdau ar gyfer darnau unigol o waith, gyda sylwadau marcio'n gysylltiedig â nhw.
- Cynnwys disgyblion mewn hunan-asesiad
- Ychydig iawn o athrawon sy'n cynnwys disgyblion yn y broses o asesu eu gwaith eu hunain.
- Mewn rhai ysgolion, mae athrawon yn gofyn i ddisgyblion nodi'r hyn y maent yn ei wybod am uned newydd o waith a chymharu hyn gyda'r hyn y maent wedi ei ddysgu erbyn diwedd y testun.
- Asesiada'n gysylltiedig âgwneud gwelliannau dysgu
- Mae rhai enghreifftiau o arfer da yn amlwg wrth bennu targedi ansoddol sy'n cael eu trosglwyddo i ddisgyblion a rhieni ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Pennir targedau yn y pynciau craidd yn bennaf, er bod rhai'n fwy generig eu natur.
- Ceir tystiolaeth o werthuso gwersi'n fyfyriol mewn rhai ysgolion a ddefnyddir i hysbysu cynllunio i'r dyfodol.
- Mewn llawer o achosion, mae marcio'n methu â rhoi cyngor i ddisgyblion o ran sut i wella'u gwaith. Mae marcio yn y rhan fwyaf o ysgolion yn glercaidd yn bennaf ac yn canolbwyntio ar gyflwyniad a sillafu yn hytrach na chynnydd disgyblion yn erbyn amcanion dysgu.
- Cymedroli neu lefelu gwaith
- Ychydig iawn o ysgolion sy'n hwyluso cymedroli gwaith ymhlith athrawon.
- Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn anfon cynrychiolydd i gyfarfodydd safoni'r AALl ar gyfer athrawon Bl2.
- Mewn rhai ysgolion, mae cymedroli'r ysgol gyfan yn cael ei hwyluso gan bortffolios pynciau, sy'n cael eu lefelu a'u hanodi.
- Mae nifer fach o ysgolion wedi dechrau cyfnewid llyfrau er mwyn lefelu gwaith. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan nad oes digon o arbenigedd gan yr ysgol mewn maes penodol, ac mae'n datblygu sgiliau athrawon ac yn rhannu arfer da.
- Trosglwyddo cofnodion
- Mae trosglwyddo cofnodion o ddosbarth i ddosbarth yn dda yn y rhan fwyaf o ysgolion, gyda'r athrawon yn cwrdd wyneb yn wyneb a'r disgyblion yn cwrdd â'u hathro/athrawes nesaf.
- Mae trosglwyddo cofnodion o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd yn amrywio'n fwy, ac yn aml nid yw'n cael llawer o effaith ar ddysgu'r disgyblion (Gweler adroddiad Estyn ar drosglwyddo o Ysgolion Cynradd i Ysgolion Uwchradd).
Argymhellion Allweddol
- Bydd angen i ysgolion ochel rhag gor-brofi disgyblion, yn enwedig drwy ddefnyddio profion heb eu safoni, nad oes iddynt bob amser ddefnydd neu ddiben clir.
- Bydd angen i lawer o ysgolion docio'r cofnodion y maent yn eu cadw, a chanolbwyntio ar gyrhaeddiad disgyblion, yn hytrach nag ymdrin â'r cynnwys.
- Bydd angen datblygu portffolios pynciau'r ysgol gyfan, sydd â dealltwriaeth gytunedig o'r safonau.
- Bydd angen datblygu cymedroli a lefelu gwaith, yn enwedig yn sgîl adroddiad Richard Daugherty.
- Bydd angen i'r rhan fwyaf o ysgolion ddatblygu asesu pynciau sylfaen, drwy farcio sylwadau sy'n gysylltiedig â disgrifwyr lefelau ac amcanion dysgu.
- Bydd angen i ysgolion cynradd gytuno pa cofnodion fydd yn cael eu trosglwyddo i'r ysgolion uwchradd fesul clwstwr.
Argymhellion y Grŵp Diwygio Asesu:
- darparu adborth effeithiol i'r disgyblion
- ymglymiad gweithgar y plant yn eu dysgu eu hunain
- addasu'r addysgu yn unol â'r canlyniadau asesu
- cydnabod dylanwad dwys asesu ar ysgogiad a hunan-barch disgyblion
- yr angen i ddigyblion fedru asesu eu hunain a deall sut i wella
Darllen a Argymhellir
- Targedu Asesu yn y Dosbarth Cynradd
Shirley Clarke - Datgloi Asesu Ffurfiannol
Shirley Clarke - Asesu Dysgu Plant
Mary Jane Drummond - Asesu i Ddysgu
Paul Black et al - Archwilio Asesu Ffurfiannol
Harry Torrance/John Pryor - Deunyddiau Asesu Opsiynol
ACCAC - Gwneud Defnydd Effeithiol o Asesu
ACCAC - Asesu i Ddysgu
Y Grŵp Gwella Asesu - Gweithio o Fewn y Bocs Du
Y Grŵp Gwella Asesu - Profi, Yscogi a Ddysgi
Y Grŵp Gwella Asesu
Yn ôl i'r Pynciau Asesu |