Yr Hyn y Gallai Eich Portffolio Gynnwys
Manylion Personol:
- enw
- cyfeiriad
- ffôn/ffacs
- e-bost
- rhif DfES
- rhif Yswiriant Gwladol
- cyfeirnod GTC(W
- cymwysterau
- profiad addysgu
- profiad gwaith arall
Cerrig milltir arwyddocaol o ran yr ysgol neu'r gwasanaeth (diweddar a pherthnasol):
- rhestr o flaenoriaethau cyfredol y CDY
- materion allweddol arolygiad
- data cyd-destunol yr ysgol gyfan - % Prydau Ysgol am Ddim/ % AAA/ Gwybodaeth feincnodi / unrhyw faterion arwyddocaol eraill, e.e. rhyw / presenoldeb / ffactor symudedd
Yna gallech drefnu eich profiadau datblygiad i'r adrannau canlynol:
Adran Bortffolio | Ffynonellau Tystiolaeth Posib |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth Meddu ar wybodaeth drylwyr a diweddar o addysgu eich pwnc/pynciau ac ystyried datblygiadau'r cwricwlwm ehangach sy'n berthnasol i'ch gwaith. |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth Monitro data (cofnodion cynllunio, arsylwi ar wersi) Tystiolaeth arfarnu Tystiolaeth allanol – Estyn / AALl Trafodaethau gydag arweinwyr tîm, uwch staff Cynlluniau gwaith yn gysylltiedig â'r CDY, e.e. yn dangos defnydd o TGCh Cofnodion DPP gan gynnwys ffurflenni gwerthuso |
Addysgu ac Asesu
|
Addysgu ac Asesu Monitro data (gan gynnwys arsylwi ar wersi) Tystiolaeth arfarnu Tystiolaeth allanol - Estyn/AALl Cofnodion cynllunio sy'n dangos cefnogaeth briodol/Estyn/defnydd o CAU Trafodaethau gydag arweinwyr tîm, uwch staff Cofnodion DPP |
Cynnydd Disgyblion Tystiolaeth o gynnydd disgyblion – perfformiad eich disgyblion chi mewn profion neu arholiadau cenedlaethol, neu asesiadau'r ysgol (dylai'r dystiolaeth gyfeirio at gynnydd a wnaed o'i gymharu â chyflawniad blaenorol y disgyblion, gan nodi cynnydd yn dda neu'n well na disgyblion tebyg yn genedlaethol. Dylid dangos hyn o ran marciau neu raddau mewn unrhyw brofion neu arholiadau cenedlaethol, neu asesiadau'r ysgol lle nad yw profion neu arholiadau cenedlaethol yn cael eu cynnal.) |
Cynnydd Disgyblion Data perfformiad yr ysgol Data perfformiad y dosbarth, asesiadau'r athro/athrawes Dadansoddiadau'r AALl o ddata Adroddiadau disgyblion, proffiliau disgyblion Cyfraddau symudedd, presenoldeb Adborth o arsylwi ar wersi Tystiolaeth arfarnu Asesiad sylfaen |
Effeithiolrwydd Proffesiynol Ehangach Canlyniadau datblygiad proffesiynol a wnaed o ran gwelliannau addysgu neu ddisgyblion yn dysgu Cyfraniadau at bolisiau a dyheadau'r ysgol Cyfrifoldebau rheoli |
Effeithiolrwydd Proffesiynol Ehangach Cofnodion DPP Ymchwil bersonol / defnydd o fwrsariaethau proffesiynol HMS yn yr ysgol ac allanol, cofnodion cyfarfodydd staff Nodiadau hyfforddi / mentora Arsylwi ar wersi (gan gynnwys gwersi model) Defnyddio mentrau cenedlaethol a lleol (o ran e.e. llythrennedd, rhifedd, TGCh etc) Gwaith cysgodi Tystiolaeth arfarnu Cyfrannu at weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol (e.e. nosweithiau rhieni, gweithgorau, ymweliadau ysgol) CDY, cynlluniau gweithredu, dogfennau SSE |
Nodweddion Proffesiynol Ennyn ymddiriedolaeth a hyder Datblygu ymroddiad tîm Cymell disgyblion a'u hysgogi Meddwl yn ddadansoddol Cymryd camau cadarnhaol er mwyn gwella dysgu disgyblion |
Nodweddion Proffesiynol Monitro data (gan gynnwys arsylwi ar wersi) Tystiolaeth arfarnu Tystiolaeth allanol – Estyn / AALl Cynlluniau gwersi Trafodaethau gyda staff, disgyblion a rhieni Cofnodion DPP |
Gallai pob adran gynnwys blaenddalen sy'n cyfeirio at gyfres o daflenni gwerthuso neu dystiolaeth arall.
Parhau: Cofnodi Cyflawniadau – Ffynonellau Tystiolaeth |