Arolwg Trosglwyddo (CA2-3)
Canlyniadau o'r Holiadur Ysgol Gynradd
Dosbarthwyd arolwg trosglwyddo i'w gwblhau gan benaethiaid/athrawon Bl6 yr holl ysgolion cynradd. Yr amcan oedd nodi arferion cyfredol o fewn Castell-nedd Port Talbot a gwerthuso eu heffeithiolrwydd neu fel arall.
Y gyfradd ddychwelyd ar gyfer yr holiadur oedd 69% felly roedd yn sampl cynrychioliadol digon mawr i lunio casgliadau am yr amcanion a amlinellwyd uchod.
Cafwyd amrywiaeth o ymatebion i'r cwestiynau, fel a nodir isod.
Yr hyn sy'n amlwg yw cysondeb y gefnogaeth fugeiliol. Mae amrywiadau cynnil o ran math a safon y ddarpariaeth wrth reswm, ond byddai pawb yn cytuno ei bod yn cael ei chynnal a bod y disgyblion yn hapus â'r broses symud i'r ysgol uwchradd ar y cyfan.
Mae trosglwyddo data yn eithaf unffurf ei natur hefyd, er bod yr amrediad a'r effeithiolrwydd yn amrywio.
"Pa weithgareddau cyswllt sy'n cael eu cynnal gydag athrawon CA3 ar hyn o bryd?"
- Trosglwyddo canlyniadau TASau i Bennaeth Blwyddyn 7
- Ymweliadau bugeiliol
- Trosglwyddo data
- Samplau o waith
- Cyfarfodydd pwnc craidd ar ôl sesiynau clwb ysgol
- Prosiectau ar y cyd
- Cyfarfodydd CAAA ac ymweliadau gan y CAAA i drafod plant Bl6
- Twrnameintiau chwaraeon
- Diwrnodau cynefino
- Prosiect CATs
- Arsylwi athrawon CA2/CA3
- Cylchgrawn "Waterwheel"
- Cyfarfodydd cydlynydd TGCh
- Pecynnau pontio (a gynhyrchwyd gan ysgolion a/neu'r QCA)
- Cefnogaeth drawsgyfnod gan Gynorthwywyr Cefnogi Dysgu
- Clybiau Sbaeneg a Ffrangeg a ariennir gan arian trosglwyddo
- HMS ar y cyd ar gyfer athrawon Bl6/Bl7
- Prosiectau dylunio a thechnoleg
- Prosiectau 'Smoke Buster'/ABCh
"Pa mor ymwybodol ydych chi o raglenni astudio a disgrifwyr lefel CA3?"
- ymwybodol iawn
- cymharol ymwybodol 2%
- ymwybyddiaeth gyfyngedig 98%
Mae'r ffigurau hyn yn amlwg yn hunanesboniadol.
"Disgrifiwch unrhyw ganlyniadau cadarnhaol o gyfarfodydd cyswllt a gynhaliwyd rhwng CA2 a CA3."
- Mwy o ddealltwriaeth o raglenni astudio a chynlluniau gwaith yn CA3
- Dealltwriaeth gliriach o sefyllfa Bl7
- Trefniadau HMS (clwstwr trawsgyfnod)
- Y gallu i weld gwaith disgyblion ym Ml7
- Mwy o gywirdeb o ran lleoli disgyblion Bl6
- Cynllunio gwneud penderfyniadau ar brosiectau trawsgyfnod
- Empathi athrawon CA3 tuag at gwricwlwm CA2
- Mwy o ymwybyddiaeth o orgyffwrdd rhwng CA2/CA3
- Disgyblion yn fwy brwdfrydig dros fynd i'r ysgol uwchradd
- CA3 yn arsylwi cydweithwyr CA2 yn addysgu
- Cyswllt ar waith cartref
- Diwrnodau sgiliau allweddol (Cwmtawe)
- Canlyniadau TGAU plant cynradd yn cael eu bwydo'n ôl i'r cynradd
- Cydnabyddiaeth o'r diwedd o'r angen am wybod mwy o ran safonau cyflawniad ym Ml6
- Hyrwyddo dysgu carlam
- Rhyddhau cydlynwyr
"Pa awgrymiadau sydd gennych ar gyfer hyrwyddo cysylltiadau dilyniant da rhwng CA2 a CA3?"
- Mwy o ryngweithio i'r disgyblion drwy gydol y flwyddyn
- Mwy o ffocws ar ddysgu ac addysgu ym Ml6/7
- Mwy o brosiectau Bl6/7, yn enwedig yn y pynciau sylfaen
- Disgyblion Bl6 yn treulio mwy o amser mewn amgylchedd Bl7 ar ddiwedd y flwyddyn
- Rhannu agenda gyffredin ar arddulliau dysgu ac addysgu
- Sesiynau HMS ar y cyd
- Mynediad i offer arbenigol yn CA3
- Llunio polisi ar y cyd ar gyfer trosglwyddo
- Cyfarfodydd cydlynydd trawsgyfnod ar gyfer pob maes
- Cyfarfodydd tymhorol rheolaidd
- Mwy o rannu gwaith y plant
- Llythyr newyddion trosglwyddo a gynhyrchir gan yr AALl
- Cyfnewid athrawon yn gysylltiedig â phrosiectau arbennig
- Mwy o gyfleoedd am ddiwrnodau cau ar draws yr AALl yn hytrach na chyfarfodydd clwstwr yn unig
- Athrawon Bl6 yn cysgodi Bl7 am hanner diwrnod y tymor ac fel arall
"Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw wahaniaethau o ran arddulliau addysgu rhwng CA2 a CA3?"
- Mae CA3 yn ymddangos yn fwy traddodiadol o ran ei ymagwedd
- Mae addysgu Bl6 wedi datblygu i fod yn fwy traddodiadol hefyd
- Nid yw strwythur gwersi mathemateg yn CA3 yn ymddangos fel petai'n adlewyrchu arweiniad gan yr AALl ar y strategaeth rifedd
- Mwy o bwyslais ar waith ysgrifenedig yn CA3
- Cwricwlwm CA3 yn cael ei gyflwyno mewn meysydd arwahanol
- Ychydig o waith trawsgwricwlaidd sy'n amlwg yn CA3
- Mwy o ddefnydd o grwpiau gallu yn CA3
- Cynradd: canolbwyntio ar y plentyn; Uwchradd: canolbwyntio ar y pwnc
- Arddull ddysgu gwerslyfr a mwy strwythuredig
- Anymwybodol o strategaeth lythrennedd CA3
- Dim gwaith ymarferol mewn gwyddoniaeth, dim ond arddangosiadau gan yr athro/athrawes
"Ydych chi'n gwneud unrhyw beth yn benodol i baratoi eich plant ar gyfer trosglwyddo i'r ysgol uwchradd?"
- Annog a meithrin annibyniaeth a sgiliau ymchwil
- Defnyddio pecynnau trosglwyddo Cymraeg
- Defnyddio amser cylch
- Mae athrawon Bl7 yn cyflwyno gwersi i ddisgyblion Bl6 weithiau
- Mae disgyblion Bl6 yn mynychu clybiau ar ôl ysgol yn yr ysgol uwchradd
- Addysgu'r plant sut i ddarllen amserlen
- Trefnu ymweliadau chwaraeon/academaidd
- Prosiectau pontio
- Annog cymryd nodiadau
- Cynlluniau i CA3 addysgu Ffrangeg yn ystod tymor yr haf
- Gosod gwaith cartref rheolaidd
- Mwy o gyfrifoldeb
- Diwrnodau cynefino
"Beth yw'r canlyniadau pwysicaf i ddisgyblion Bl6 yn eich barn chi?"
- Unigolion cyflawn a hyderus
- Agweddau cadarnhaol, hyderus wrth drosglwyddo
- Meddu ar y sgiliau i fod yn ddysgwyr annibynnol sy'n gyfrifol am eu cyflawniad eu hunain
- Wedi derbyn cwricwlwm eang a chytbwys
- Ychwanegu gwerth drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Mwynhau'r ysgol a dysgu
- Ennyn adnabyddiaeth ac ymdeimlad o ddiogelwch
- Ymwybyddiaeth o arferion a rheolau'r ysgol
- Cyflwyno i athrawon newydd
- Mwy o wybodaeth am lefelau cyrhaeddiad i osgoi ailadrodd gwaith
Darllen Pellach
- Symud Ymalen
Trosglwyddo'n Effeithiol o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3 (Estyn – Ionawr 2004)
- Crossing The Bridge
Astudiaethau Achos o ran trosglwyddo o CA2 i CA3 (Cymdeithas Arolygwyr ac Ymgynghorwyr Asesu)
- Changing Schools
Evaluation of the effectiveness of transfer arrangements at age 11 (Ofsted – Mehefin 2002)
Yn ôl i'r Trosglwyddiad |