Swansea Bay Online Learning PartnershipSwansea Bay Online Learning Partnership 

Gwerthuso'r Modiwl
 

Modiwl: Cyfathrebu (lefel uwch)

 

Dyddiad: 12/06/2000

(Cyfeiriwch at lawlyfr hyfforddi'r Gronfa Cyfleoedd Newydd (NOF), Strategaethau Addysgu)

 

Roedd creu llyfr electronig wedi ennill sylw a brwdfrydedd y plant, ac wedi cefnogi'r weithgaredd. Roedd digon o wybodaeth ar y we - tudalennau Clipart addas a lluniau symudol (Animations) gwych. Llwyddodd pawb i gael cyfle i wneud copi ac achub lluniau a chreu border hynod o effeithiol. Roedd gwario'r holl amser yn creu'r border wedi bod yn werth chweil. Roedd trefnu grwpiau gallu cymysg yn golygu bod pawb yn cyfrannu, ac yn cadw'r plant yn brysur. Roedd y grwpiau yn awyddus iawn i wella'r cyflwyniad ac yn medru achub ac adfer gwaith a gwneud y newidiadau angenrheidiol. Roedd y plant wedi dysgu nifer o sgiliau newydd ac wedi cyfarwyddo a'r teclynnau - er bydd eisiau dal ati i atgyfnerthu  rhain. Roedd rhoi cyfarwyddiadau llafar yn fwy effeithiol na rhai ysgrifenedig. Efallai byddai creu banc o gardiau syml Cymraeg fel sydd yn y llawlyfr Textease yn disgrifio`r teclynnau o fudd erbyn y tro nesaf. Cafwyd peth trafferth gyda Textease yn cloi o bryd i`w gilydd. Roedd y plant yn gorfod achub y gwaith yn achlysurol (rhag ofn!). Roedd angen tipyn o sylw'r athro drwy gydol y weithgaredd. Roedd yn rhaid creu`r cysylltiadau electronig ar y tudalennau gyda'n gilydd gan taw Bl 3/4 oedd y plant. Defnyddiwyd y Camera Digidol i dynnu lluniau yn y gerddi gwahanol.  Dewisodd y plant y lluniau i'w cynnwys. Penderfynwyd creu tudalen maint y sgrin a nid A4 er mwyn osgoi rholio i fyny ac i lawr. Cafodd dau grwp y cyfle i greu lluniau symudol. Danfonwyd e-bost a`r tudalennau fel "attachments".

Edrychwch ar waith y plant

Nol

New Opportunities Fund