Swansea Bay Online Learning PartnershipSwansea Bay Online Learning Partnership 
 

Astudiaeth Achos: Cyfathrebu Uwch

Amrediad Oedran:  Blwyddyn 3/4

Modiwl:  Creu llyfr electronig

 

Amlinelliad o'r Weithgaredd

Cynlluniwyd y weithgaredd hwn i gefnogi'r thema o bethau byw, yn enwedig planhigion. Nododd yr athrawes y sgiliau TG a oedd yn angenrheidiol ar gyfer y weithgaredd, ac fe osodwyd y rhain fel amcanion dysgu ac addysgu. Dysgodd y plant sut i greu tudalennau unigol mewn Textease a'u cysylltu i ffurfio llyfr electronig.

Rhoddodd yr athrawes nifer o dasgau i'r dosbarth. Roedd yn rhaid i'r plant:

  • Ysgrifennu disgrifiadau o erddi'r ysgol ar dudalennau unigol mewn Textease
  • Defnyddio'r camera digidol a'r Rhyngrwyd i gael delweddau er mwyn gwella eu hysgrifennu
  • Cysylltu'r tudalennau unigol, gyda chymorth yr athrawes, i greu llyfr electronig

Gofynnwyd i'r plant ysgrifennu am "Blanhigion". Anogwyd hwy i ddefnyddio CD Rom fel deunydd cyfeirio yn ogystal â'r Rhyngrwyd i gynnal eu hymchwil. Dangosodd yr athrawes i'r plant sut i gael delweddau a thestun o'r Rhyngrwyd, sut i achub y wybodaeth honno i'w plygellau eu hunain a sut i brintio'u gwaith. Hefyd dangoswyd iddynt sut i gymryd delweddau o'r camera digidol er mwyn eu cynnwys gyda'u gwaith ysgrifennu. Gofynnwyd i'r plant ystyried eu cynulleidfa ac addasu cyflwyniad eu gwaith yn unol â hynny. Dangosodd yr athrawes i'r plant sut i ychwanegu effeithiau gwahanol at y testun a chreu fframiau testun.

Athrawes: Llinos Scourfield, Y.G.G. Lôn-las.

Cynllunydd

New Opportunities Fund