Cymraeg Ail Iaith
Safonau Cymraeg Ail Iaith
- Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy, mae'r safonau cyflawniad o ran Cymraeg fel Ail Iaith yn dda yn gyffredinol.
- Mewn rhai dosbarthiadau, yn CA1 a Bl3 a Bl4, mae digon o dystiolaeth o safonau da a da iawn – yn enwedig gwaith llafar y disgyblion.
- Mae sgiliau gwrando'r disgyblion wedi'u datblygu'n dda. Mae'r disgyblion yn gwrando'n astud ac yn ymateb yn briodol mewn sefyllfaoedd strwythuredig.
- Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn siarad yn glir ac yn rhoi ymatebion llafar cywir ac eithaf estynedig. Mae tonyddiaeth ac ynganiad yn gyson dda. Yn yr arfer gorau mae'r disgyblion yn chwarae rôl mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan ddefnyddio iaith briodol. Mewn rhai ysgolion mae'r disgyblion yn gweithio'n hyderus heb unrhyw giwiau na sgriptiau gan yr athro/athrawes.
- Mae defnydd 'Helpwr Heddiw' yn effeithiol iawn ym mhob ysgol i hyrwyddo hyder llafar unigolion.
- Mae'r disgyblion yn darllen gydag eglurder ac ystyr yn eu Hail Iaith. Mae'r disgyblion yn darllen llyfrau mawr 'Acen' yn frwdfrydig ac yn deall llyfrau darllen Paent Gwlyb yn llawn. Mae sgiliau darllen a deall wedi'u datblygu'n dda, yn enwedig yn CA1. Mae llawer o ysgolion yn defnyddio llyfrau electronig i hyrwyddo a chyfnerthu sgiliau darllen y disgyblion.
- Mae'r disgyblion yn ysgrifennu at ddibenion amrywiol ac yn gallu strwythuro eu gwaith ysgrifenedig yn effeithiol. Mewn rhai achosion, ym Ml5 a Bl6, nid yw amrywiaeth a safon gwaith ysgrifenedig y disgyblion yn cydymffurfio'n llawn â gofynion y Rhaglen Astudio.
Parhau: Safon Dysgu |