Cymraeg Ail Iaith
Safon Dysgu
- Arsylwyd dysgu o safon dda iawn. Pan fydd yr athrawon yn rhoi amcanion clir a chyflwyniadau brwdfrydig mae'r disgyblion yn ymateb yn dda i dasgau ac yn gweithio gyda'i gilydd ar gyflymder da.
- Ysgogir y disgyblion i gymryd rhan mewn tasgau siarad a gallant weithio'n effeithiol mewn grwpiau a pharau.
- Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud defnydd da o adnoddau ac yn defnyddio cardiau awgrym ieithyddol a geiriaduron i wella eu sgiliau ieithyddol.
Safon Addysgu
- Mae safon gyffredinol yr addysgu'n dda gyda pheth addysgu da iawn yn amlwg mewn rhai dosbarthiadau.
- Mae bron pob athro/athrawes a arsylwyd wedi defnyddio hyfforddiant iaith addas.
- Mae amseru a safon mewnbwn gan athrawon yn dda yn gyffredinol. Mae'r gwersi wedi'u cynllunio'n dda ac yn rhoi cyfle i'r disgyblion ddatblygu sgiliau ieithyddol.
- Mae llawer o'r addysgu'n ysgogi'r holl ddisgyblion. Arsylwyd gwahaniaethu effeithiol, yn enwedig o ran y disgyblion hynny sy'n 'hwyr-ddyfodiaid' i astudio Cymraeg.
- Yn yr addysgu gorau, anogir y disgyblion yn gyson i roi ymatebion llafar amgen a mwy estynedig. Mae'r disgyblion hefyd yn cael eu herio i wella safon eu gwaith llafar ac ysgrifenedig.
- Mewn lleiafrif o achosion, nid yw'r athrawon yn gwneud defnydd sylweddol o'r iaith darged ac mae rhai o'r cyflwyniadau gan athrawon yn rhy hir.
Parhau: Enghreifftiau o Arfer Da |