Cymraeg Ail Iaith
Enghreifftiau o Arfer Da
- Wrth farcio gwaith y disgyblion – mae sylwadau'r athrawon yn cyfeirio at y targedau cychwynnol a rennir gyda'r disgyblion: "Da iawn/Rydych chi wedi defnyddio patrymau iaith addas i fynegi hoff bethau a chas bethau".
- Mae'r Arweinydd Cwricwlaidd yn ymwybodol iawn o'r safonau disgwyliedig ar gyfer yr holl grwpiau oedran ac mae dogfen hunanwerthuso gryno ar gyfer Cymraeg yn amlinellu targedau tymor byr a hir ar gyfer gwella.
- Mewn lleiafrif o ysgolion mae cynllun llyfr Cartref/Ysgol – gan ddefnyddio Tedi Twt, yn rhoi cyfle i rieni ddarllen mewn Saesneg a Chymraeg gyda'u plant a rhoi sylwadau ar eu cynnydd. Mewn nifer o achosion, mae'r disgyblion yn esbonio'r deunyddiau darllen Cymraeg i'w rhieni.
- Mewn rhai dosbarthiadau Bl 5/6 gall y disgyblion fynegi barn a hoffterau ar amrywiaeth o bynciau, e.e. - "Fy hoff chwaraewr pêl-droed i ydy Ryan Giggs achos mae e'n cicio'n dda".
- Mewn rhai ysgolion, mae llawer o ddisgyblion B5 a Bl6 yn ysgrifennu'n eithaf helaeth am eu gweithgareddau hamdden. Maent yn ymwybodol o'r safonau sy'n ofynnol ac yn gwneud defnydd effeithiol o ferfau presennol, amherffaith a gorffennol ac amrywiaeth da o batrymau iaith sy'n gysylltiedig â phynciau.
- Mae'r holl ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o ganeuon a gêmau i atgyfnerthu patrymau iaith yn effeithiol iawn. Mae cyfeiriadau at chwaraewyr pêl-droed a rygbi mewn deunyddiau addysgu yn boblogaidd iawn gyda'r disgyblion.
- Mae'r athrawon a'r disgyblion yn defnyddio Bwrdd Gwyn rhyngweithiol i ddangos strwythur brawddegau mewn pynciau penodol i baratoi ar gyfer tasgau ysgrifenedig. Defnyddir 'Dewi Dewin' a llyfrau electronig eraill yn llwyddiannus i hyrwyddo sgiliau darllen.
- Mewn rhai ysgolion, addysgir Cymraeg fel pwnc arwahanol, yn ogystal ag mewn cyd-destun trawsgwricwlaidd, e.e. mewn gwers hanes, gofynnir i'r disgyblion baratoi holiadur Cymraeg ar gyfer Harri Tudur
:
- Pwy ydy dy fam di?
- Lady Margaret Beaufort ydy hi ac ati.
- Mewn gwers AG disgrifir cymeriadau Stori'r Nadolig yn y ddwy iaith:
- Mae'r bugeiliaid yn hapus.
- Mae Mair wedi blino.
- Dydy hi ddim yn byw mewn tŷ.
- Mae cyflwyno Cymraeg mewn cyd-destun trawscwricwlaidd yn cynyddu'r amser cwricwlaidd ar gyfer Cymraeg yn sylweddol iawn gan sicrhau safonau da neu dda iawn. Mewn rhai ysgolion yr amser wythnosol a neilltuir ar gyfer Cymraeg ym Ml1 – 5 yw 110 o funudau y dosbarth yr wythnos.
- Mae rhai athrawon yn defnyddio Cymraeg a Saesneg i hyrwyddo sgiliau llythrennedd y disgyblion e.e. 'The Owl Who Was Afraid Of The Dark' a 'Plop y Gwdihŵ' ac mae dwyieithrwydd y disgyblion yn gysylltiedig â'u hoedran yn cael ei ddathlu.
- Defnyddir deunydd fideo Cymraeg – Stabec, Bobol Bach ac ati, yn helaeth mewn llawer o ysgolion i hyrwyddo sgiliau gwrando a siarad y disgyblion. Mewn rhai achosion mae gorddibyniaeth ar y taflenni gwaith a ddarperir gyda'r fideos hyn o AALlau eraill.
Parhau: Meysydd i'w Datblygu |