Rhoi Cyfeiriad i Ddaearyddiaeth
Safonau Daearyddiaeth
- Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae safonau cyflawniad o ran daearyddiaeth o leiaf yn foddhaol ac yn aml yn dda.
- Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 1 a 2 yn datblygu ymwybyddiaeth dda o'u hardal eu hunain a natur newidiol yr amgylchedd. Mae disgyblion blwyddyn 7 yn ehangu eu gwybodaeth o Gymru trwy astudiaethau achos amrywiol. Ond nid yw'r cysylltiadau o'r lleol a'r penodol i astudio ardal De Cymru wedi'u datblygu'n ddigonol yn CA3 isaf.
- Mae gwaith ardal gwrthgyferbyniol yn parhau i wella, gyda pheth gwaith da iawn ar St. Lucia a Phorthcawl, y mae llawer ohono o natur trawsgwricwlaidd.
- Fel arfer mae'r disgyblion yn defnyddio sgiliau map, ffotograffig ac atlas yn hyderus. Ond mae'r disgwyliadau'n amrywiol, gyda disgyblion mewn sawl dosbarth blwyddyn 6, ond nid ymhob un, eisoes yn defnyddio cyfeiriadau grid 6 ffigur yn gywir ac yn gyfarwydd â phatrymau cyfuchlineddau syml. Ar hyn o bryd mae'r amrywiaeth hwn yn rhwystro dilyniant effeithiol.
- Mae cyflwyniad y gwaith yn foddhaol yn gyffredinol, ond mewn sawl achos yn y cyfnod cynradd mae cofnod gwaith y disgyblion yn ddigyswllt ac nid yw'n caniatáu ar gyfer portread cydlynol o'r ddaearyddiaeth a wnaed.
- Yn gyffredinol mae gan y disgyblion wybodaeth a dealltwriaeth dda o'r gwaith y maent wedi'i wneud. Mae'r ansicrwydd pennaf ymhlith disgyblion wrth roi esboniadau am ffenomena pan nad yw'r gwaith wedi'i seilio'n ddigon cadarn ar y cwestiynau daearyddol allweddol fel a nodwyd yn nisgrifwyr lefel y CC e.e. Ble mae e? Beth yw e fel? Sut y daeth i fod fel hyn? Sut a pham mae'n newid? Beth allai ddigwydd nesaf? Beth yw fy marn amdano?
- Roedd y gwaith gorau'n defnyddio'r ymagwedd ymholi hon yn rheolaidd ac yn systematig, gan roi cyfle i'r disgyblion ddatblygu fel daearyddwyr wrth ystyried patrymau, prosesau a materion sy'n benodol i'r pwnc. Mae'r ymagwedd hon yn sicrhau bod y disgyblion yn ymwneud â'r broses gynllunio ac yn llunio eu hymholiadau eu hunain erbyn Blwyddyn 6.
- Er bod y cwestiynau ymholi allweddol yn arwain y gwaith ym Mlwyddyn 7 gyda'r disgyblion yn defnyddio'r ymagwedd ymholi wrth gynnal ymchwiliadau e.e. wrth gael mynediad i'r rhyngrwyd i ymchwilio nodweddion folcanig, anaml iawn y byddant yn dyfeisio eu dilyniannau ymholi eu hunain.
Safonau Cyflawniad yn y Sgiliau Allweddol mewn Perthynas â Daearyddiaeth
- Mae'r defnydd cynyddol o TGCh yn amrywiol. Nid yw'r safonau da a gyflawnwyd mewn rhai dosbarthiadau bob amser yn cael eu datblygu'n systematig na'u defnyddio'n effeithiol.
- Gwelwyd enghreifftiau da o ddisgyblion yn datblygu eu sgiliau llythrennedd o fewn daearyddiaeth, defnyddio geirfa ddaearyddol yn briodol ac yn gywir e.e:
Siarad | Dadlau ynghylch lleoli cronfa ddŵr yng Nghanolbarth Cymru; a gwesty moethus ger safle treftadaeth fyd-eang yn Ynysoedd Windward. |
Ysgrifennu | Ysgrifennu adroddiadau dychmygus o ganlyniadau gweithgaredd folcanig; ysgrifennu llythyrau perswadiol i'r AS lleol ynglŷn â lleoli gorsaf bŵer arfaethedig yn yr ardal. |
Darllen | Dehongli mapiau wrth ymchwilio ardal wrthgyferbyniol yng Nghymru, a nodweddion ardal yr ysgol. |
Gwrando | Wrth gyfrannu mewn dadl yn y dosbarth ar gynaliadwyedd twristiaeth. |
- Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw effaith rhifedd fel sgil allweddol wedi'i datblygu'n ddigonol yn gyffredinol ym mhob cyfnod allweddol.
- Roedd enghreifftiau da o'r disgyblion yn defnyddio Cymraeg fel ail iaith fel cyfrwng dysgu o fewn daearyddiaeth mewn mwy nag un achos yng nghyfnod allweddol 1 a 2.
Parhau: Ansawdd Dysgu |