Rhoi Cyfeiriad i Ddaearyddiaeth
Ansawdd Dysgu
- Mae ansawdd cyffredinol dysgu o ran daearyddiaeth yn dda ym mhob un o'r ysgolion yr ymwelwyd â nhw.
- Mae gan y disgyblion agwedd gadarnhaol iawn tuag at ddysgu. Maent yn dangos diddordeb ac fel arfer yn mwynhau eu gwaith daearyddiaeth.
- Mae'r berthynas rhwng y disgyblion yn dda iawn, ac mae'r un peth yn wir am y berthynas rhwng y staff a'r disgyblion, ac mae hyn yn cyfrannu'n sylweddol at ansawdd dysgu'r disgyblion.
- Lle mae ansawdd y dysgu'n dda iawn, mae'r disgyblion yn ymateb yn hyderus i dasgau heriol y mae gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau ffynhonnell, gweithio'n gydweithredol i ddatrys problem, a chyflwyno atebion rhesymol i gwestiynau daearyddol allweddol.
- Mewn rhai ysgolion mae gorddibyniaeth ar daflenni gwaith i hwyluso gweithgareddau dysgu. Mae hyn yn arwain at waith sy'n aml heb gyd-destun ac nad yw'n caniatáu i'r disgyblion ymateb i ysgogiadau yn fanwl nac yn llawnach.
- Mae parhad o ran dysgu o fewn a rhwng gwersi'n dda. Mae gryfaf pan fydd gan ysgolion gynllunio tymor canolig a thymor hir effeithiol.
- Mae'r dilyniant o ran dysgu rhwng ysgolion yn llai sicr. Mae ailadrodd gormodol weithiau'n amlwg, ac nid yw'r athrawon bob amser yn cymryd digon o sylw o ddysgu blaenorol yn y cyfnod allweddol blaenorol.
Ansawdd Addysgu
- Mae ansawdd cyffredinol yr addysgu'n dda, ac arsylwyd ychydig o arfer da iawn.
- Mae'r rhan fwyaf o'r gwersi wedi'u strwythuro'n dda i gynnwys amrywiaeth o weithgareddau. Yn yr achosion gorau, mae'r sesiynau pwrpasol a gynlluniwyd yn dda yn caniatáu i'r disgyblion:
- ddatblygu eu sgiliau ymholi
- dehongli gwybodaeth
- datrys problemau
- a chydweddu gwybodaeth ddaearyddol yn gyflym
- Yn y rhan fwyaf o achosion mae cynllunio tymor canolig yn parhau i wella. Mae arweinwyr pwnc ym mhob cyfnod allweddol yn dylanwadu ar y ddarpariaeth a'r canlyniadau'n gadarnhaol ac yn darparu arweinyddiaeth dda.
- Mae'r rhan fwyaf o athrawon yn ymchwilio ac yn datblygu dealltwriaeth y disgyblion trwy holi'n fedrus, gyda phwyslais ar y defnydd cywir o eirfa a therminoleg ddaearyddol o fewn ymatebion llafar ac ysgrifenedig y disgyblion. Mae'r rhan fwyaf o athrawon yn dangos gwybodaeth ddaearyddol dda ac yn rhoi cyfle i'r disgyblion ddatblygu sgiliau dysgu.
Mewn un ysgol rhoddir blaenoriaeth i'r cwestiynau daearyddol allweddol fel ysgogiad cychwynnol i ymagwedd y disgyblion at bwnc. Defnyddir siart gynllunio A1 i gofnodi syniadau, damcaniaethau ac ymatebion greddfol y disgyblion. Yna arddangosir y siart fel atgof o waith y tymor a chaiff ei hategu neu ei datblygu gyda 'gwybodaeth newydd' wrth i'r cwestiynau allweddol gael eu hymchwilio'n fanwl.
- Defnyddir amrywiaeth dda o adnoddau'n effeithiol i gefnogi dysgu. Roedd y cynllun adnodd dwyieithog 'Stori Gerry' wedi galluogi disgyblion CA1 mewn un ysgol i ddefnyddio ffynonellau eilaidd i werthuso gwybodaeth am ardal wrthgyferbyniol, a datblygu eu llythrennedd a'u dealltwriaeth. Dangosodd disgyblion mewn un dosbarth Blwyddyn 6 sgiliau da iawn o ran dehongli map pan oedd angen iddynt gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ar gyfer ardal anghyfarwydd a ddangoswyd ar fap 1:50,000 yr Arolwg Ordnans a bwrdd gwyn rhyngweithiol. Roedd disgyblion Blwyddyn 7 yn cyfuno gwybodaeth a gyflwynwyd mewn fformatau amrywiol yn hyderus wrth ymchwilio i leoliad cronfa ddŵr yng Nghanolbarth Cymru.
- Mae ymagweddau dysgu ac addysgu a drefnwyd yn dda yn galluogi'r staff i ymyrryd er mwyn darparu cefnogaeth ac adborth o fewn gwersi. Er bod mynediad yn cael ei sicrhau ar gyfer pob disgybl, byddai'r disgyblion mwy disglair yn elwa o fwy o gyfleoedd i estyn y gwaith ymhellach.
Gwelwyd gwaith da iawn mewn astudiaeth Blwyddyn 6 o effaith twristiaeth yn St. Lucia. Roedd y disgyblion yn ymwybodol o'r materion a'r gwrthdrawiadau, a'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â chyrraedd ateb boddhaol. Roedd y disgwyliadau uchel hyn a'r tasgau a gyfatebwyd yn ofalus yn galluogi pob disgybl i wneud ei orau a chyrraedd lefel arbennig o ddealltwriaeth.
Parhau: Meysydd i'w Datblygi |