Rhoi D&Th ar Waith
Safonau o Ran Dylunio a Thechnoleg
"Mae dylunio a thechnoleg yn ymwneud â deall a gwella'r byd gwneuthuredig ac un o swyddogaethau pwysicaf cwricwlwm yr ysgol gynradd yw sicrhau bod disgyblion yn datblygu'n well ac yn well wrth wneud yr union beth hynny."
- Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy, roedd safonau cyflawniad o ran dylunio a thechnoleg yn foddhaol yn gyffredinol ac yn dda weithiau. Barnwyd bod safonau'n dda iawn mewn un lleoliad CA3.
- Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion yng Nghyfnodau 1 a 2 afael da ar y broses ddylunio. Maent yn gallu cofnodi syniadau mewn ffordd strwythuredig, mae eu sgiliau gwneud yn dangos tystiolaeth o fireinio a gwella, ac mae'r disgyblion yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gwerthuso fel diweddglo i brosiect.
- Defnyddir amrywiaeth dda o weithgareddau i gefnogi dysgu ac addysgu dylunio a thechnoleg. Mae disgyblion yn y ddau gyfnod allweddol yn elwa o brofiadau mewn technoleg bwyd a gweithio gyda deunyddiau a thecstilau gwrthiannol. Cynigir amrywiaeth briodol o brofiadau yn CA3.
- Gwelwyd enghreifftiau da o'r disgyblion yn defnyddio citiau adeiladu i adeiladu prototeipiau o'u syniadau dylunio cychwynnol e.e. wrth wneud modelau symudol o gerbydau.
- Mae cyflwyniad y gwaith yn foddhaol yn gyffredinol, ond yn y mwyafrif helaeth o ysgolion cynradd yr ymwelwyd â hwy mae gorddibyniaeth ar daflenni gwaith a fframweithiau a ddyluniwyd yn wael sy'n aml yn rhwystro creadigrwydd y disgyblion mwy galluog ac yn atal y disgyblion llai llythrennog rhag cyfleu eu syniadau mewn ffordd sy'n cyfateb i'w potensial.
- Yn gyffredinol mae gan y disgyblion wybodaeth a dealltwriaeth dda o'r gwaith y maent wedi'i wneud. Gallant ddisgrifio'r prosiectau y maent wedi ymgymryd â hwy yn ystod y flwyddyn a chymhwyso'r profiadau hyn yn benodol at dair agwedd y broses ddylunio.
- Mewn llawer o'r ysgolion yr ymwelwyd â hwy mae gan y disgyblion afael da ar y sgiliau gwneud sy'n cyfrannu at gyflawni rhagoriaeth mewn dylunio a thechnoleg. Yn CA1 mae'r disgyblion yn dechrau dangos ymwybyddiaeth o'r angen am fesur a thorri'n gywir ac mae'r sgiliau hyn yn cael eu datblygu'n briodol ac yn systematig drwy gydol CA2 ac i mewn i CA3. Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy mae'r disgyblion yn dangos ymwybyddiaeth dda o arferion cyfuno a chydosod ac maent yn gallu esbonio'r penderfyniadau a wnaed i ddefnyddio techneg gyfuno benodol dros un arall, e.e. pwytho yn hytrach na gludo. Mae'r disgyblion CA3 yn dangos ymwybyddiaeth dda o ddewis defnyddwyr a sut y gall hyn ddylanwadu ar y broses ddylunio.
- Mae'r holl ddisgyblion yn gallu defnyddio offer yn briodol ac yn ddiogel a gwneud penderfyniadau call am yr offer y mae ei angen i gwblhau eu prosiectau.
- Nid yw gallu'r disgyblion i fireinio eu dyluniad wrth iddo ddatblygu wedi cael ei ddatblygu digon. Mae'r disgyblion yn dueddol o ddylunio a gwneud drwy lynu'n agos at eu syniadau cychwynnol. Ychydig iawn o dystiolaeth a welwyd o'r disgyblion yn gwerthuso eu prosiectau wrth iddynt ddatblygu a gwneud nodiadau gweithio am eu cynlluniau cychwynnol.
- Yn gyffredinol mae'r disgyblion yn gallu cymhwyso technegau gorffen priodol wrth ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a chydrannau.
Safonau Cyflawniad yn y Sgiliau Allweddol o Ran Dylunio a Thechnoleg
- Mae'r defnydd cynyddol o TGCh i gefnogi dysgu o ran dylunio a thechnoleg yn amrywiol, gan nad yw'r safonau a gyflawnwyd mewn rhai dosbarthiadau bob amser yn cael eu datblygu'n systematig neu eu defnyddio'n effeithiol. Yn CA2 cafwyd rhai enghreifftiau da o ddisgyblion yn defnyddio taenlen i gofnodi a dadansoddi casgliadau eu hymchwil. Mewn ysgol arall roedd y disgyblion yn gwneud defnydd effeithiol o'r rhyngrwyd i ymchwilio i bwnc cyn gwneud eu dyluniadau cychwynnol. Mewn rhai achosion roedd defnydd amhriodol neu ddyfeisiedig o raglenni cyfrifiadurol yn aml yn rhwystro creadigrwydd y disgyblion, e.e. defnyddio pecyn graffeg i dynnu llun cerbyd, defnyddio LOGO i ddylunio poster.
- Gwelwyd enghreifftiau da o'r disgyblion yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a defnyddio geirfa dylunio a thechnoleg yn briodol ac yn gywir. Ond, yn CA3 gwelwyd peth ddiffyg hyder gan y disgyblion wrth ddefnyddio geiriau allweddol DT a geirfa sy'n benodol i'r pwnc.
- Mewn rhai ysgolion mae gwaith grŵp yn cyfrannu'n effeithiol at ddysgu'r disgyblion. Maent yn cyfathrebu'n dda ac yn trafod syniadau, gan wrando ar gyfraniadau a syniadau ei gilydd. Yn aml rhoddir cefnogaeth i syniadau ac mae hyn yn dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir. Gwelwyd peth waith grŵp da iawn mewn un wers CA3. Ond yn y rhan fwyaf o ysgolion mae gwaith grŵp yn dueddol o fod yn llai deinamig ac nid yw'n caniatáu i'r holl gyfraniadau gael eu gwerthfawrogi'n ddigonol. Yn aml rhoddir cyfle i'r disgyblion siarad am eu dyluniadau gyda'u cyfoedion fel gweithgaredd sesiwn lawn, er bod cyfleoedd i drafod a chwestiynu syniadau mewn ffordd systematig yn cael eu colli weithiau.
- Mae tystiolaeth yn awgrymu bod effaith rhifedd fel sgil allweddol yn cael ei ddatblygu'n dda ym mhob cyfnod allweddol. Mae'r disgyblion yn mesur yn gywir gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol unedau, maent yn defnyddio graffiau a siartiau i gofnodi eu hymchwil ac maent yn dangos ymwybyddiaeth o waith graddfa.
Parhau: Safon y Dysgi |