Rhoi D&Th ar Waith
Safon y Dysgu
- Mae gan y disgyblion agwedd gadarnhaol iawn tuag at ddysgu. Maent yn dangos diddordeb ac fel arfer yn mwynhau eu gwaith dylunio a thechnoleg. Mae'r disgyblion yn dangos llawer o frwdfrydedd dros y pwnc ym mhob cyfnod allweddol.
- Mae'r berthynas rhwng y disgyblion yn dda iawn, ac felly hefyd y berthynas rhwng y staff a'r disgyblion, ac mae hyn yn cyfrannu'n sylweddol at safon dysgu'r disgyblion. Mae'r disgyblion bob amser yn ymwybodol o faterion iechyd a diogelwch.
- Lle mae'r safon dysgu'n dda, mae'r disgyblion yn ymateb yn hyderus i dasgau heriol sy'n gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau ac adnoddau, cydweithio i ddatrys problem a chynhyrchu canlyniadau sy'n adlewyrchu'r brîff dylunio cychwynnol yn gywir.
- Lle mae'r safon dysgu yn dda iawn, mae'r disgyblion yn datblygu syniadau'n gydlynol trwy drafodaethau grŵp ac yn cynhyrchu dilyniant o ddyluniadau a diweddaru dyluniadau'n annibynnol, maent yn cyfleu penderfyniadau mewn ffordd strwythuredig ac yn adfyfyrio ar y gwaith a wnaed. Mewn un dosbarth CA2 roedd safon y brasluniau a gynhyrchwyd gan y disgyblion yn cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu eu syniadau – ymatebodd y disgyblion i'w brîff drwy gynhyrchu cyfres o luniadau 3D anodedig a oedd yn dangos y canlyniad a fwriadwyd o sawl ongl.
- Mewn rhai ysgolion mae tystiolaeth fod y gwaith sy'n cael ei wneud yn dibynnu gormod ar arweiniad athrawon sy'n arwain at syniadau ac arferion unffurf.
- Mae'r parhad o ran dysgu o fewn a rhwng gwersi'n dda. Mae'r gwersi'n cael eu strwythuro'n dda, gan roi digon o gyfle i'r disgyblion gymryd rhan ymarferol yn y broses dylunio a gwneud. Mae safon y cynllunio mewn ysgolion yn dda yn gyffredinol ac yn dda iawn yn aml. Mae safon y mapiau cwricwlwm a gynhyrchir mewn llawer o ysgolion, sy'n pwysleisio dilyniant sgiliau dylunio ar draws y cyfnodau allweddol, yn cyfrannu'n effeithiol iawn at barhad a dilyniant o fewn y pwnc.
- Mae'r dilyniant o ran dysgu rhwng ysgolion yn llai cadarn. Nid yw cydymwybyddiaeth o'r profiadau a gafwyd a'r gweithgareddau y cynlluniwyd ar eu cyfer bob amser yn amlwg ac nid yw'r athrawon bob amser yn ddigon ymwybodol o ddysgu blaenorol a'r pynciau a astudiwyd yn y cyfnod allweddol blaenorol. Teimlodd disgyblion Blwyddyn 7 nad oedd y profiadau a gawsant yn CA2 yn eu paratoi'n ddigonol am y ffordd y mae prosesau dylunio a thechnoleg yn cael eu haddysgu yn CA3.
Mae safon profiadau dysgu'r disgyblion yn gwella pan fyddant yn cael eu hategu gan gwestiynau heriol fel: 'Beth yw'r bwriad y tu ôl i ddyluniad y cynnyrch?' 'Beth yw'r ffordd orau o gyflawni'r diben hwn a sut gall y dyluniad ei helpu i wneud hynny?' 'Pwy yr anelir y cynnyrch ato?' 'Sut y gellir dylunio'r cynnyrch er mwyn iddo berfformio mor dda â phosib?' 'Pa mor esthetig ddeniadol yw dyluniad arfaethedig y cynnyrch?' 'Ydy'r deunyddiau'n bwysig i greu'r cynnyrch?' 'Sut y gellir monitro'r gwneuthuriad (gwneud), ac, yn y cyfnodau cynharach, y broses ddylunio ei hun?' 'Ydy'r cynnyrch yn cyfateb i'r meini prawf cychwynnol a osodwyd yn y brîff dylunio?'
Safon Addysgu
- Mae'r safon addysgu yn aml yn dda, ac arsylwyd ar rai enghreifftiau o arfer da iawn. Mae'r cyfleoedd am waith trawsgwricwlaidd yn aml yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn cyfrannu'n dda at ddealltwriaeth y disgyblion o sut mae dylunio a thechnoleg yn effeithio ar y byd o'u hamgylch.
- Mae'r rhan fwyaf o wersi'n cael eu strwythuro'n dda i gynnwys amrywiaeth o weithgareddau. Mae llawer o ysgolion yn cynllunio gwersi 'annibynnol' sy'n rhoi cyfle penodol i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau gwneud e.e. technegau torri a chysylltu.
- Mae'r cynllun gwaith a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad ag EDS yn cyfrannu'n dda at safon cynllunio'r pwnc. Mae llawer o ysgolion wedi addasu'r cynllun ar gyfer eu hanghenion eu hunain ac yn dangos yn glir y sgiliau dylunio i'w datblygu o un tymor ac un flwyddyn i'r nesaf. Mae'r arweinwyr pwnc ym mhob cyfnod allweddol yn dylanwadu'n gadarnhaol ar ddarpariaeth a chanlyniadau ac mae'r penaethiaid adrannau'n darparu arweinyddiaeth dda.
- Mae nifer o athrawon yn archwilio ac yn datblygu dealltwriaeth y disgyblion trwy holi medrus, gyda phwyslais ar werthfawrogiad y disgyblion o'r broses ddylunio.
- Defnyddir amrywiaeth dda o adnoddau'n effeithiol i gefnogi dysgu. Mewn llawer o ysgolion defnyddir citiau adeiladu yn effeithiol i gefnogi dysgu'r disgyblion. Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion stoc priodol o offer a deunyddiau sy'n caniatáu i'r disgyblion brofi amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau. Gwneir defnydd da o gyfleusterau Pro/desktop yn CA3.
Parhau: Meysydd i'w Datblygi |