Adolygu Addysg Grefyddol
Safonau Addysg Grefyddol
- Mae disgyblion Cyfnodau Allweddol 1 a 2 yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn am gredoau ac arferion Cristnogaeth a chrefyddau eraill.
- Mae gwyliau Cristnogol yn cael eu cynnwys yn dda ac mae testunau Beiblaidd yn cael eu defnyddio i gefnogi gwersi.
- Mae thema gŵyl yn cael ei datblygu yng Nghyfnod Allweddol 3 pan fydd crefyddau eraill yn cael eu hastudio.
Yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 y crefyddau mwyaf cyffredin a astudir yw Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam.
- Mae'r disgyblion fel arfer yn defnyddio testunau Beiblaidd yn hyderus ac yn ymateb yn frwdfrydig pan gofynnir iddynt ddarllen eu gwaith ysgrifenedig yn uchel.
- Hyrwyddir safonau da trwy ddefnyddio portffolios cydlynwyr o waith y plant ar draws yr ysgol. Mae'r rhain yn adlewyrchu ehangder y cwricwlwm AG a addysgir.
- Mae cyflwyniad gwaith yn foddhaol yn gyffredinol. Yn y rhan fwyaf o ysgolion ceir cydbwysedd da rhwng adroddiadau ysgrifenedig a thaflenni gwaith.
- Mae'r disgyblion yn defnyddio'r rhyngrwyd a CD Roms yn aml i gael gwybodaeth. Mae'r staff yn defnyddio camerâu digidol i annog astudio eglwysi lleol a datblygu ymwybyddiaeth o agwedd y Cwricwlwm Cymreig o fewn y pwnc.
- Yn gyffredinol mae gan y disgyblion wybodaeth a dealltwriaeth dda o'r gwaith y maent wedi ei wneud.
- Mae'r disgyblion yn sicr wrth roi esboniadau am bynciau penodol. Roedd un ysgol wedi dadansoddi gweddio ac roedd y disgyblion yn ymateb yn frwdfrydig drwy ysgrifennu gweddi diolch a gofyn.
Safonau Cyflawniad yn y Sgiliau Allweddol o Ran AG
- Mae'r disgyblion yn defnyddio sgiliau TGCh i chwilio'r rhyngrwyd i gefnogi eu gwaith.
- Defnyddir cyfrifiaduron yn eang gan alluogi'r disgyblion i gofnodi eu gwaith a chynhyrchu llyfrau electronig. Lle y bo'n briodol, mae'r disgyblion yn gallu cael gwybodaeth o CD ROMs er mwyn ymchwilio ac ateb cwestiynau ar bynciau penodol.
- Mae gan y disgyblion sgiliau siarad a gwrando da ac mewn un ysgol gwnaethant wrando'n astud wrth i un o'u cyfoedion siarad am y Quran. Roeddent yn gallu trafod pwysigrwydd y Llyfr Sanctaidd hwn a'r rhesymau pam y dylid ei drin yn gywir. Mae'r disgyblion yn holi'n dda yn aml ac maent yn gallu ymateb yn briodol i'r pynciau a astudir.
- Mae'r disgyblion yn ysgrifennu amrywiaeth eang o ryddiaith sy'n ymwneud ag AG gan gynnwys adroddiadau, adrodd yn greadigol, traethodau disgrifiadol a barddoniaeth.
- Mae gan y disgyblion fynediad i amrywiaeth eang o ddeunyddiau darllen yn yr ysgol a ffynonellau allanol amrywiol fel llyfrgelloedd, eglwysi a synagogau.
- Gall y disgyblion ddehongli lluniau o arteffactau a gwyliau a chyferbynnu gwahaniaethau rhwng amrywiaeth o adeiladau crefyddol a'u cynnwys. Mae'r disgyblion yn gallu dehongli cynlluniau o adeiladau crefyddol ac maent yn gwybod yr enwau technegol am rannau o'r adeiladau.
- Mewn un ysgol cyfrwng Saesneg benodol, astudiodd dosbarth stori'r Nadolig yn hollol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynhyrchu gwaith ysgrifenedig o safon dda.
Roedd y portffolios mwyaf effeithiol yn cynnwys enghreifftiau o waith y disgyblion, cynllunio trawsgwricwlaidd a thargedau ar gyfer gwella gwaith. Roedd y rhain yn cynnwys cynhyrchu crogluniau sy'n dangos themâu Beiblaidd, cardiau, cacennau, bara ac ati.
Parhau: Ansawdd Dysgu |