Adolygu Addysg Grefyddol
Ansawdd Dysgu
- Mae gan y disgyblion agwedd gadarnhaol iawn at ddysgu ar draws pob cyfnod allweddol.
- Maent yn ddysgwyr awyddus a brwdfrydig ac maent yn ymateb i dasgau penodol yn gall ac mewn ffordd aeddfed.
- Mae'r berthynas rhwng y disgyblion yn dda iawn. Roedd hyn yn amlwg mewn ysgolion sydd â disgyblion o wahanol ffydd. Roedd y disgyblion hyn yn 'adnodd dynol'. Fe'u hanogwyd i rannu eu gwybodaeth ac roedd y lleill yn ymateb mewn modd sympathetig a deallgar.
- Yn yr un modd, mae'r berthynas rhwng y disgyblion a'r staff yn dda iawn.
- Mae'r disgyblion yn hyderus wrth ofyn cwestiynau perthnasol a threiddgar am faterion sy'n ymwneud â ffydd. Wrth astudio gwyliau crefyddol maent yn hapus i drafod pam, er enghraifft nad yw Iddewon na Moslemiaid yn dathlu'r Nadolig. Maent yn dangos angen am wybod beth y mae'r bobl hyn o ffydd arall yn ei wneud adeg y Nadolig.
- Mae sawl ysgol yn defnyddio pobl o'r gymuned leol sy'n dod i'r ysgol i rannu profiadau bywyd gyda'r disgyblion.
- Mae dilyniant dysgu mewn a rhwng gwersi'n dda. Mae'n gryf pan fydd gan yr ysgolion:
- gynllunio tymor canolig a thymor hir effeithiol
- gwaith sy'n cael ei farcio'n rheolaidd a sylwadau defnyddiol a thargedau'n cael eu gosod
Ychydig o ysgolion sy'n gwneud sylwadau marcio sy'n ymwneud ag amcanion a osodwyd ac nid oes gan unrhyw ysgolion ddisgrifwyr lefel ar gyfer cyrhaeddiad disgyblion.
Ansawdd Addysgu
- Yn y rhan fwyaf o ysgolion mae cynlluniau athrawon yn fanwl ac yn darparu safonau da.
- Yn y gwersi gorau mae'r athrawon yn cynllunio amcanion gwersi clir sy'n cael eu rhannu gyda'r disgyblion.
Yn aml rhoddir amcanion gwersi ar y bwrdd du / gwyn a chyfeirir atynt yn ystod y wers a'r sesiwn lawn.
- Defnyddir amrywiaeth dda o adnoddau'n effeithiol i gefnogi dysgu. Mae gan bob ysgol focsys arteffactau sy'n cynnwys adnoddau am y crefyddau a astudir a defnyddiwyd y rhain yn helaeth gan y staff y mae eu gwybodaeth am y pwnc yn dda iawn hefyd.
- e.e. storiwyd y Quran yn uwch na'r holl lyfrau eraill ac fe'i harddangoswyd ar gau yn hytrach nag ar agor.
- Cyn trin y Quran, gofynnwyd i'r disgyblion olchi eu dwylo.
- Pan fydd y disgyblion yn astudio Iddewiaeth ac yn trin y Sgroliau Tora, dim ond rhannau bach o'r Sgrôl sy'n cael eu datgelu a defnyddir yad fel ffon bwyntio (roedd y disgyblion yn gwybod pam y defnyddiwyd yr yad).
- Pan fydd gwersi wedi'u cynllunio'n dda, mae'r disgyblion yn cael amrywiaeth o brofiadau sy'n eu galluogi i ddatblygu sgiliau o ran:
- datrys problemau
- dehongli gwybodaeth wahanol o amrywiaeth o ffynonellau ysgrifenedig ac electronig
- defnyddio sgiliau holi ac ymchwilio
- caffael a defnyddio geirfa grefyddol briodol
- dysgu a datblygu gwybodaeth grefyddol am gredoau amrywiol
- Yn yr arfer gorau, mae tasgau a wahaniaethwyd yn addas yn galluogi'r disgyblion i ddatblygu ar eu lefel eu hunain gyda gweithgareddau ymestyn wedi'u cynllunio ar gyfer disgyblion mwy galluog. Yn aml mae'r tasgau'n golygu bod y disgyblion yn gwneud prosiectau ymchwil gan ddefnyddio cyfleusterau'r llyfrgell a'r rhyngrwyd.
- Roedd defnyddio ymagweddau dysgu ac addysgu a gynlluniwyd yn ofalus yn aml yn galluogi staff addysgu i ymyrryd a chefnogi disgyblion ar y lefel briodol.
Parhau: Meysydd i'w Datblygi |