Ffocws ar Hanes
Safonau Hanes
- Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy, roedd safonau cyflawniad hanes yn dda ac yn aml yn dda iawn.
- Mae gan ddisgyblion Cyfnod 1 a 2 ddealltwriaeth dda o gronoleg. Maent yn gallu dilyniannu digwyddiadau a gwrthrychau a chreu llinellau amser. Gallant gysylltu ffotograffau â chyfnodau arbennig a chydweddu'r rhain yn gywir ar linellau amser.
- Mae gwybodaeth plant a'u dealltwriaeth ohoni ynghylch y gorffennol yn aml yn dda iawn. Rhai o'r ffactorau arwyddocaol yn y cyflawniad hwn yw gwybodaeth dda'r athrawon yn y pwnc, y gwaith trawsgwricwlaidd sy'n digwydd a'r prosiectau creadigol a dychmygus a ddatblygir gan ysgolion. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio Parc Margam (Oes Victoria), Theatre Na'n Og (Terfysgoedd Beca), Cwmni Theatr Chance Encounters (enwogion o Gymru), Titch Theatre, Cwmni Theatr Kinetic, Triawd Pres Cymru, Telynores, Artist Preswyl (Y Blits), Sachau Stori, cyngherddau dathlu, gwefannau a chyhoeddiadau hanes lleol a gynhyrchwyd gan ysgolion.
- Mae'r holl ysgolion yr ymwelwyd â hwy yn defnyddio cynllun gwaith yr AALl ar hyn o bryd. Yn aml, ychwanegir at hyn drwy ddeunyddiau eraill o gynlluniau cyhoeddedig megis QCA, ESIS, a ffeiliau adnoddau hanes LCP.
- Mae'r plant yn gwneud cynnydd da wrth ddehongli ffeithiau o'r gorffennol. Maent yn defnyddio amrywiaeth eang o arteffactau a darluniadau ac yn ymweld ag amgueddfeydd a mannau o ddiddordeb hanesyddol. Yn aml bydd arteffactau megis tai crwn Celtaidd a thlysau'n cael eu cynhyrchu fel rhan o waith trawsgwricwlaidd ac mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio drama a chwarae rôl i alluogi plant i ddehongli digwyddiadau o'r gorffennol.
- Mae sgiliau ymholi plant yn dda a gallant gyrchu ystod eang o ffynonellau hanesyddol gan gynnwys defnyddio oedolion yn siarad â phlant ifanc am ddigwyddiadau yn y gorffennol a'r gêmau a chwaraeid amser maith yn ôl. (Mae'r plant wedyn yn rhoi cynnig ar chwarae'r gêmau eu hunain). Yn eu hastudiaethau o fywyd yn y 1950au, gall disgyblion gyrchu ffilmiau, hysbysebion teledu, cerddoriaeth bop, ffilmiau newyddion ac ystod eang o ffynonellau ysgrifenedig. Mae rhai ysgolion yn defnyddio'r wybodaeth hon mewn cynyrchiadau i ddathlu 50 mlwyddiant yr ysgol.
- Mae'r disgyblion yn cyrraedd safonau da o ran sgiliau trefnu a chyfathrebu. Defnyddir Drama a TGCh yn effeithiol iawn i alluogi plant i gyflwyno eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r gorffennol. Mae plant yn ailberfformio golygfeydd hanesyddol, yn gofyn cwestiynau hanesyddol ac yn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth drwy ddarllen, ysgrifennu, trafod, cyflwyno, canu a thrwy ddefnyddio TGCh.
Safonau Cyflawniad yn y Sgiliau Allweddol
- Yn gyffredinol mae safonau cyrhaeddiad yn y sgiliau sylfaenol yn dda ond prin yw'r ysgolion sy'n cynllunio ar gyfer hybu'r sgiliau hyn yn effeithiol ac yn gynyddol ar draws y cwricwlwm. Mae rhywfaint o ddryswch ynghylch yr hyn yw sgiliau sylfaenol a hynny'n cael ei gymhlethu gan ddiffiniadau gwahanol gan asiantaethau eraill ac ansicrwydd y timau arolygu gwahanol.
- Mae'r disgyblion yn cyflawni safonau da mewn llafaredd ac ysgrifennu. Lle bo gan ysgol lawer o blant ag AAA, rhoddir blaenoriaeth yn aml i ddatblygu sgiliau siarad a gwrando drwy hanes. Yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy, mae'r plant yn aml yn darllen ac yn gwerthuso ystod eang o dystiolaeth hanesyddol. Cânt gyfle i lunio, trafod a dehongli atebion i gwestiynau hanesyddol. Maent yn datblygu amrywiaeth dda o eirfa hanesyddol.
- Caiff sgiliau mathemategol y disgyblion eu datblygu ymhellach drwy'r cwricwlwm hanes pan fyddant yn astudio adroddiadau'r cyfrifiad a data ystadegol. Yn aml mae hyn yn digwydd drwy astudiaethau lleol megis Parc Margam neu ardal yr ysgol. Maent yn defnyddio graffiau, mapiau a chofnodion yn gywir ac yn datblygu eu sgiliau drwy gymharu a gwrthgyferbynnu data. Yn yr holl ysgolion yr ymwelwyd â hwy, mae'r plant yn llunio llinellau amser drwy ddefnyddio Tedi Bers (hen a newydd), agweddau ar Gymru'r Tuduriaid, yr Ail Ryfel Byd a'r 1950au. Mae hyn yn galluogi plant i ddeall amser a phellter wrth lunio barn ar gyfnodau gwahanol yn y gorffennol.
- Mae defnyddio TGCh yn yr ysgolion yr ymwelwyd â hwy yn nodwedd dda iawn o'r cwricwlwm hanes. Mewn arfer da, bydd plant yn llunio llyfrau electronig; yn cyrchu'r Rhyngrwyd ar gyfer ymchwil, yn defnyddio fideos, CD-ROMs ac efelychiadau a chronfeydd data hanesyddol amrywiol. Maent yn tynnu ffotograffau digidol ac yn eu defnyddio mewn cyflwyniadau 'PowerPoint' yn eu prosiectau hanes lleol. Mewn un ysgol mae disgyblion yn defnyddio 'Textease Presenter' i fewnfudo delweddau a ffeithiau a gwneud sleidiau ar gyfer cyflwyniadau. Mae'r gwaith hwn yn aml yn drawsgwricwlaidd ac wedi'i gynllunio yn y pen draw ar gyfer cynulleidfaoedd ehangach e.e. eu defnyddio mewn cyngherddau ysgol, dathliadau a chyhoeddiadau.
Parhau: Safon y Dysgi |