Ffocws ar Hanes
Safon y Dysgu
- Yn gyffredinol, mae safon y dysgu o ran Hanes yn dda ac yn aml yn dda iawn.
- Mae disgyblion yn ddysgwyr brwdfrydig yn y pwnc hwn ac mae eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gyfnodau gwahanol, digwyddiadau a phobl mewn hanes yn aml yn rhagorol. Maent yn mwynhau bod yn 'dditectifs hanes' ac yn gofyn cwestiynau priodol ac yn llunio barn wybodus yn aml. Mae un ysgol wedi ffurfio perthynas ag Amgueddfa Caerdydd ac wedi defnyddio gwasanaethau curadur yno er mwyn gwneud ymchwiliadau sy'n ymwneud ag archeoleg yn eu hardal leol.
- Mae cysylltiadau trawsgwricwlaidd gyda phynciau eraill hefyd wedi'u datblygu'n dda iawn. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio grwpiau theatr megis Theatr Na'n Og a Chwmni Theatr Chance Encounters ar gyfer drama hanesyddol a chwarae rôl. Mae un ysgol wedi sicrhau arian y Loteri ar gyfer prosiect hanes lleol ('Ddoe a Heddiw') ar y cyd â'r fenter 'Dysgu fel Teulu'. O ganlyniad cynhyrchwyd llyfr hanes lleol i'w ddefnyddio yn yr ysgol ac ar gyfer y cyhoedd.
- Mae'r holl ysgolion yn cynllunio ymweliadau hanesyddol i fannau o ddiddordeb hanesyddol. Cysylltir yr ymweliadau hyn â phynciau sy'n cael eu hastudio yn yr ysgol. Gwneir tasgau fel arfer yn dilyn yr ymweliadau a'r rheiny wedi'u seilio ar gynlluniau gwaith yr ysgol.
- Mewn arfer gorau, bydd ysgolion yn defnyddio taflenni gwaith fel 'fframiau ysgrifennu' sy'n galluogi disgyblion i gynhyrchu enghreifftiau ardderchog o ysgrifennu estynedig. Serch hynny, mewn sawl ysgol ceir gormod o bwyslais ar gwblhau taflen waith syml nad yw'n caniatáu i'r plant ddatblygu syniadau a mynegi barn.
- Un nodwedd dda iawn a welwyd yng ngwaith ysgrifennu'r plant oedd y plant yn defnyddio amcan y wers fel pennawd/teitl i'w gwaith. O ganlyniad, mae'r athrawon yn marcio yn ôl y meini prawf hynny gan ychwanegu sylwadau addas er mwyn hybu'r dysgu.
- Mae plant ac athrawon yn defnyddio'r Rhyngrwyd yn hyderus wrth ymchwilio i wybodaeth hanesyddol. Mae rhai o'r gwefannau defnyddiol a ddefnyddir gan ysgolion yn cynnwys:
Safon yr Addysgu
- Mae safon yr addysgu'n dda ac yn aml yn dda iawn yn yr holl ysgolion yr ymwelwyd â hwy. Mae gwybodaeth athrawon am y pwnc, yn arbennig ar y lefel gynradd yn nodwedd amlwg. Mae'r wybodaeth hon yn eu galluogi i ddod â hanes yn 'fyw' nid yn unig o ran astudiaethau lleol ond hefyd o ran agweddau ehangach a chenedlaethol hanes.
- Ceir tystiolaeth gref fod athrawon cynradd yn haneswyr lleol brwdfrydig sy'n mwynhau addysgu'r agwedd hon ar y cwricwlwm.
- Roedd y gwersi a arsylwyd wedi'u cynllunio'n dda ac wedi'u strwythuro'n ofalus gyda'r rhan fwyaf o ysgolion yn dilyn cynllun gwaith yr AALl gan gynnwys mapiau/cylchau'r cwricwlwm a fframwaith gweithgareddau.
- Roedd pob ysgol yr ymwelwyd â hwy yn cynllunio'n ofalus i sicrhau eu bod yn cynnwys y pum agwedd ar hanes h.y:
- ymwybyddiaeth gronolegol
- gwybodaeth a dealltwriaeth
- dehongli
- ymholi
- trefn a chyfathrebu
- Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn llunio ac yn cadw cofnodion sylfaenol o gynnydd disgyblion mewn hanes. Ond gwelwyd un cynllun mewn un ysgol sy'n cynnwys datblygu system o hunanasesu syml i'r disgyblion. Mae hyn yn cynnwys y plant yn ysgrifennu er enghraifft pum ffaith a wyddant am bwnc ymlaen llaw. Ar ôl astudio'r pwnc maent yn dychwelyd at eu rhestr gan ychwanegu'r wybodaeth a gafwyd wedyn. Mae rhai ysgolion yn cadw cofnodion ysgrifenedig sy'n golygu cofnodi 'yr hyn a astudiwyd' o'r cwricwlwm hanes ar gyfer pob plentyn. Mae hyn yn aml yn ailadroddus ac yn waith diangen.
- Mae ysgol fabanod yn cadw 'Cofnodion Lefelau Asesu' ar gyfer yr holl ddisgyblion ymhob maes cwricwlaidd o'r meithrin tan Flwyddyn 2. Gosodir meini prawf penodol ar gyfer pob grŵp blwyddyn. Ar gyfer disgyblion Bl.2 bydd athrawon yn canolbwyntio ar y canlynol;
- a yw plant yn dechrau holi pam roedd pethau yn digwydd yn y gorffennol; ac
- a yw plant yn ymwybodol o'r ffyrdd o ddod o hyd i wybodaeth am y gorffennol.
Mae eu cofnodion yn cael eu trosglwyddo i'r ysgol iau ar ddiwedd y cyfnod allweddol.
- Mae athrawon yn defnyddio ystod dda o adnoddau yn y cwricwlwm hanes, llawer ohono o eiddo'r ysgol neu wedi'i roi gan aelodau'r gymuned a rhywfaint wedi'i fenthyg o amgueddfeydd a llyfrgelloedd.
- Mae pob ysgol bron yn defnyddio staff arbenigol llyfrgelloedd ac amgueddfeydd i gefnogi'r dysgu a'r addysgu yn y dosbarth. Gwahoddir rhieni a llywodraethwyr i gyfrannu at brofiadau dysgu'r disgyblion mewn meysydd fel Oes Victoria, yr Ail Ryfel Byd a bywyd yn y 1950au.
- Yn yr arfer gorau a arsylwyd, roedd sylwadau marcio'r athrawon wedi'u seilio ar amcanion y gwersi a disgrifiadau lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Serch hynny nid yw hyn yn gyffredin mewn ysgolion. Mae'r marcio'n aml yn canolbwyntio ar yr hyn a astudiwyd gan y plant yn hytrach na lefelau eu cyrhaeddiad.
- Er gwaethaf y cyfyngiadau, mae arweinwyr pwnc hanes wedi parhau i gynnal a datblygu portffolios gwaith a wnaed gan ddisgyblion ar draws yr ysgol a'u hasesu. Serch hynny, prin yw'r rhai a gafodd gyfle i gymryd rhan mewn HMS diweddar yn y maes cwricwlaidd hwn.
Parhau: Hanes - Trosglwyddo |