Adroddiad Goldilocks: Adolygiad o arferion dilyniant a phontio cyfredol yn yr un grwp partner ar ddeg yn Awdurdod Addysg Lleol Castell-Nedd Port Talbot.
Cyflwyniad
Lluniwyd yr adroddiad hwn yn dilyn ymarfer ymgynghorol cynhwysfawr gyda phenaethiaid cynradd ac uwchradd yn ein hawdurdod ni ac, mewn rhai achosion, trwy ymgynghori ag ysgolion mewn awdurdodau eraill. Prif ffocws yr adroddiad yw dilyniant y cwricwlwm a phontio rhwng cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. Rydym o'r farn bod agwedd fugeiliol pontio wedi cael ei datblygu'n effeithiol ym mhob grŵp clwstwr yn yr awdurdod. Mae pob ysgol uwchradd yn darparu rhaglen gynefino dda a drefnwyd yn bennaf yn nhymhorau'r hydref a'r haf cyn trosglwyddo ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a'u rhieni.
Mae hyn yn adleisio casgliadau astudiaeth gymharol ddiweddar gan Maurice Galton, John Gray a Jean Ruddock o Brifysgol Caergrawnt. Mae ymchwil Caergrawnt yn dangos bod y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd bellach yn dda iawn am dawelu pryderon a helpu'r plant i ymgartrefu; y llinynnau academaidd sy'n torri. Ein canfyddiad ni oedd nad oedd y camau a gymerwyd i ddatblygu parhad y cwricwlwm wedi datblygu cymaint a bod tystiolaeth yn ymddangos o ymweliadau MSP yn ystod y ddwy neu dair blynedd diwethaf i gefnogi'r farn hon.
Am fod datblygu pontio yn un o nodau ein CSA cyfredol, roedd angen i ni fesur effaith cefnogaeth gyfredol yn uniongyrchol a sut y gall y Gwasanaeth Datblygu Addysg gefnogi ysgolion ymhellach i sicrhau bod pontio'n gwneud cyfraniad pwysig i wella ysgolion ar lefel gynradd ac uwchradd. Yn ogystal â hyn, ymatebwyd i un o flaenoriaethau'r ddogfen ymbaratoi 'Gwlad sy'n Dysgu'; sicrhau gwell pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn iddo gyfrannu at godi safonau ar gyfer plant 11 i 14 oed a'r canlyniadau a gyflawnir ganddynt yn sylweddol; cyd-fynd â hwb i ychwanegu gwerth sylweddol at yr hyn a gyflawnir rhwng 7 ac 11 oed; a chysylltu â chytundebau clir rhwng ysgolion ac AALlau o ran canlyniadau a chefnogaeth gysylltiedig.
Penderfynwyd ymweld â phob ysgol uwchradd ac anfon holiaduron at ein cydweithwyr cynradd. Ymwelwyd â dwy ysgol uwchradd yng Ngheredigion y clywsom bod arfer da canfyddedig ynddynt. Rydym yn cyfaddef ein bod wedi mynd i'r afael â'r ymarfer gyda rhai syniadau rhagdybiedig, ond yn ystod ein hymweliadau cafodd y brwdfrydedd a'r egni a oedd yn amlwg ym mwyafrif helaeth y grwpiau partner argraff wirioneddol dda arnom. Fe'n calonogwyd hefyd gan y ffaith fod llawer o grwpiau partner yn ceisio datblygu'r ymagwedd pontio bugeiliol draddodiadol a ymgorfforwyd i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ymagweddau dysgu ac addysgu ar draws cyfnodau allweddol.
Dyma lle rydym yn credu y gellir darganfod pontio ystyrlon. Pwysleisiwyd dau wendid allweddol mewn adroddiad Ofsted diweddar ar bontio yn seiliedig ar ymweliadau â 32 ysgol gynradd ac 16 ysgol uwchradd. Roedd un yn ymwneud â safon yr addysgu, '...ac mae'r llall yn ymwneud â disgwyliadau. Mewn geiriau eraill, nid yw ysgolion uwchradd yn gwneud digon o ddefnydd o wybodaeth ysgolion cynradd am gynnydd disgyblion. Yn gyffredinol nid oedd ysgolion cyfun yn gwybod, yn ddigon manwl, beth y gallai eu disgyblion newydd ei wneud, ac nid oeddent wedi gosod targedau i wella cyrhaeddiad yn ystod Blwyddyn 7.'
Gwelwyd hefyd bod materion yn codi o ran trosglwyddo data a defnyddio data i effeithio ar gynnydd ym Mlwyddyn 7 yn yr ysgolion uwchradd yr ymwelwyd â hwy. Mae ymchwil academaidd a phrofiadau ymarferol athrawon wedi dod i'r casgliad bod angen ymagweddau radicalaidd er mwyn:
- datrys diffyg parhad o ran addysgu
- ystyried y bwlch rhwng disgwyliadau disgyblion o'r cyfnod addysg nesaf a realiti'r disgwyliadau hynny
- helpu athrawon i ddatblygu strategaethau ar gyfer helpu disgyblion i reoli eu dysgu eu hunain
Mae'r cysyniad o ddilyniant parhaus yn golygu ei fod yn hollbwysig ein bod yn ystyried symudiad plant o un ysgol i'r llall fel newid o ran cyd-destun dysgu yn hytrach nag ymyrraeth. Yn gyffredinol fe'n calonogwyd gan y pethau a welsom ac a glywsom mewn cyfarfodydd â phenaethiaid uwchradd ac, mewn rhai achosion, eu cydlynwyr pontio. Ein bwriad yn y ddogfen hon yw:
- rhannu darlun 'fel y mae' o'n casgliadau
- darparu rhai canllawiau ymarferol i ysgolion er mwyn cynorthwyo wrth sicrhau bod trosglwyddiad disgyblion o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd mor 'ddi-fwlch' ac adeiladol â phosib
- cyfeirio ysgolion tuag at y farn gyfredol ar faterion pontio
- sicrhau bod y ddogfen hon yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau adeiladol o fewn grwpiau partner trwy seminarau a drefnwyd gan yr AALl
Hoffem ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn cwrdd â ni neu'n cwblhau'r holiadur pontio. Hoffem ddiolch hefyd i aelodau Grŵp Gwella Ysgolion yr AALl a roddodd ganllawiau penodol i ni o ran sut yr hoffent weld yr adolygiad yn cael ei gynnal, ei ledaenu a'i weithredu.
Yn olaf hoffem rannu un casgliad gyda chi a gafwyd mewn dogfen yn seiliedig ar astudiaeth ar bontio gwyddoniaeth o'r cynradd i'r uwchradd a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Addysgu Gwyddoniaeth AstraZeneca:
'y neges bwysicaf sy'n ymddangos yw mai athrawon sy'n cydweithredu, yn rhannu ac yn adfyfyrio ar y cyd ar brofiadau dysgu ac addysgu gwyddoniaeth sy'n fwyaf tebygol o arwain at newidiadau pedagogaidd ac felly cynnydd o ran cytgord.'
Penderfynwyd ar y teitl Adroddiad Goldilocks oherwydd yr hyn a ddaeth yn amlwg o'r rhan fwyaf o'r adborth o'r grwpiau partner oedd bod gennym dystiolaeth o ysgolion yn gwneud naill ai dim digon neu ormod i hwyluso dilyniant a phontio yn y cwricwlwm. Mae pryderon yn gysylltiedig â'r ddau eithaf. Os na wneir digon ni fydd y dilyniant yn cael fawr o effaith ar safonau, ond os gwneir gormod bydd y broses gyfan yn mynd yn feichus ac yn anhylaw ac yn aml yn golygu bod egni'n cael ei gyfeirio at feysydd nad ydynt bob amser yn hwyluso dilyniant ystyrlon. Mae angen i ni gael y cydbwysedd yn gywir.
Parhau: Arferion Cyfredol o Fewn Grwpiau Partner Castell-Nedd Port Talbot |