Arferion Cyfredol o Fewn Grwpiau Partner Castell-Nedd Port Talbot
- Cydnabyddir bod yr holl grwpiau partner wedi sefydlu cysylltiadau bugeiliol da iawn sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion Blwyddyn 7 wrth iddynt drosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys wythnos breswyl yng Nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog, rhaglen ddwys o weithgareddau ar ôl ysgol wythnosol yn ystod tymor yr Hydref a'r Gwanwyn ac amrywiaeth o ymweliadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 ac, mewn rhai achosion, disgyblion Blwyddyn 5 gan athrawon ysgol uwchradd. Mae'r holl grwpiau partner wedi sefydlu cyfarfodydd cynnar i siarad â rhieni disgyblion Blwyddyn 6 ac yn aml Blwyddyn 5. Mae'r holl drefniadau hyn yn cael effaith fuddiol ar leddfu unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion Blwyddyn 6 cyn trosglwyddo. Maent yn cael eu trefnu'n dda iawn ac yn sicrhau bod disgwyliadau clir yn cael eu sefydlu ar y pwynt cyswllt cynharaf rhwng y disgyblion a'u hathrawon newydd.
- Mae rhai ysgolion uwchradd yn cyfaddef bod disgyblion Blwyddyn 7 yn gadael amgylchedd lle y'u hystyrir fel arweinwyr ac yn aml lle mae ganddynt rolau a chyfrifoldebau penodol a ddatblygwyd yn dda i sefyllfa lle y maent yn dechrau o'r newydd mewn amgylchedd lle mae'r rolau a'r cyfrifoldebau hynny'n llawer llai diffiniedig ac, yn amlach na pheidio, yn cael eu colli'n llwyr.
- Mae ysgolion uwchradd yn defnyddio cynllunwyr i sicrhau bod y disgyblion yn datblygu i fod yn fwy annibynnol ac wedi'u paratoi'n well ar gyfer bywyd yn yr ysgol uwchradd. Disgwylir i'r plant fod yn gyfrifol am drefnu eu hamser, eu hadnoddau a'u pethau personol. Fe allai fod yn ddefnyddiol petai disgyblion Bl6 yn cael Cynllunwyr/Dyddiaduron Disgyblion sy'n debyg i'r rheiny a ddefnyddir yn yr ysgol uwchradd.
- Mae'r llif data rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd wedi'i sefydlu'n dda ac yn gyffredinol mae'n sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n effeithiol. Ym mron pob achos, mae'r partneriaid cynradd yn darparu:
- canlyniadau TASau (sgorau crai ym mhob pwnc fel arfer) ac asesiadau gan athrawon
- data NFER o'r profion darllen a mathemateg
- dogfennaeth CAU lle y bo'n berthnasol
- Ond teimlwyd y gellid gwella effeithlonrwydd trosglwyddo data drwy fynd i'r afael â'r materion canlynol:
- fformat electronig cyffredin ar gyfer trosglwyddo data.
- yr amserlen ar gyfer trosglwyddo data – yn ddelfrydol hoffai'r ysgolion uwchradd gael yr holl ddata erbyn diwedd mis Mehefin i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei lledaenu'n effeithiol i'r rheiny y mae angen iddynt wybod neu i'w defnyddio at ddibenion setio.
- mae dau grŵp partner yn trosglwyddo canlyniadau lefel TASau yn unig yn hytrach na'r union sgorau. Mae llawer yn trosglwyddo sgorau cyfansawdd yn hytrach na manylion am sgorau'r profion cydran, h.y. sillafu, darllen, ysgrifennu a llawysgrifen mewn Saesneg.
- Mae angen trosglwyddo asesiadau gan athrawon.
- Bu raid i'r ysgol uwchradd ofyn yn barhaus i'r ysgolion cynradd drosglwyddo data yn achos gormod o grwpiau partner.
- Nododd un ysgol uwchradd nad oedd ychydig o ddata wedi cyrraedd tan yn hwyr ym mis Medi ac ni throsglwyddwyd CAU y disgyblion o gwbl.
- Mae'r holl grwpiau partner hefyd wedi sefydlu fformatau cytûn ar gyfer rhannu gwybodaeth o ran manylion personol ar gyfer disgyblion gan gynnwys eu datblygiad cymdeithasol / diwylliannol, manylion am bresenoldeb, materion ymddygiad ac ati.
- Mewn un grŵp partner mae'r ysgol uwchradd yn tueddu i roi blaenoriaeth i asesiadau athrawon Blwyddyn 6 pan fyddant yn llunio setiau ym Mlwyddyn 7. Mynegodd ysgolion uwchradd fwy o ymddiriedaeth mewn asesiadau athrawon cynradd na sgorau TASau.
- Mae un ysgol uwchradd o leiaf yn trefnu disgyblion Bl7 yn ôl eu sgorau crai yn y TASau.
- Nid yw bob amser yn glir sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei lledaenu i athrawon Blwyddyn 7 – os o gwbl. Mae angen i bob ysgol uwchradd sefydlu llinellau cyfathrebu clir i sicrhau bod data rhifiadol a 'meddal' yn cael ei rannu'n effeithiol ac mewn da bryd er mwyn iddo gael effaith gadarnhaol ar brofiadau ystafell ddosbarth y disgyblion yn ystod wythnos gyntaf Blwyddyn 7 a'u dysgu dilynol.
- Er ein bod yn cydymdeimlo i raddau â'r farn a fynegwyd gan lawer o benaethiaid uwchradd, sef bod canlyniadau TASau yn rhoi darlun chwyddedig neu anghynrychioliadol o gyrhaeddiad disgyblion Bl6, mae'n rhy hawdd dweud bod hyn yn gyfrifol am ostyngiad Bl7. Gallai'r sylwadau hyn fod yn fwy o fwch dihangol na dadansoddiad sgeptigol, ac nid ydynt yn gwneud llawer i amlygu'r gwir faterion o ran aneffeithiolrwydd defnydd data wrth i ddisgyblion drosglwyddo i'w dosbarthiadau Bl7.
- Nid yw athrawon Blwyddyn 7 yn gwneud digon o ddefnydd o'r data diagnostig a gynhyrchwyd gan brawf Mathemateg yr NFER ym Ml6.
- Mae rhai ysgolion cynradd yn defnyddio profion CAT ym Mlwyddyn 5 ac mae'r data hwn hefyd yn cael ei drosglwyddo pan fydd y disgyblion yn gadael am eu hysgolion uwchradd. Mae un grŵp clwstwr yn yr awdurdod sy'n gweinyddu profion CAT yn CA2 (Bl5). Defnyddir y canlyniadau'n effeithiol i ddarparu ar gyfer anghenion y disgyblion wrth iddynt gychwyn yn yr ysgol uwchradd yn ogystal ag yn ystod eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd.
- Mewn pob grŵp partner mae'r ysgolion uwchradd yn teimlo bod y cyfarfodydd 'casglu gwybodaeth' gyda'u cydweithwyr cynradd yn werthfawr iawn ac yn aml yn dylanwadu ar sefyllfaoedd dosbarth.
- Mae arferion amrywiol o ran trosglwyddo enghreifftiau o waith y disgyblion. Mae rhai ysgolion uwchradd yn teimlo eu bod wedi diffinio'n glir yr hyn y maent yn meddwl sy'n ddymunol ac mae eu cydweithwyr cynradd wedi ymateb yn briodol, tra bo rhai yn teimlo bod angen mwy o drafod i sicrhau nad yw llawer o wybodaeth ddiangen yn cael ei throsglwyddo. Mewn un achos teimlwyd bod ysgolion cynradd yn dueddol o anfon gormod o waith y disgyblion a bod y rhan fwyaf ohono'n cael ei daflu heb edrych arno. Mewn achos arall trosglwyddwyd ffeiliau ROPA a oedd yn cynnwys enghreifftiau o waith y disgyblion wrth gael eu derbyn i'r ysgol gynradd. Unwaith eto, teimlwyd bod gormod o'r wybodaeth hon yn amherthnasol.
- Roedd nifer o ysgolion uwchradd o'r farn na ddylai amrediad y gwaith a drosglwyddir fod yn fwy nag un enghraifft ddiweddar o waith cwrs y disgyblion mewn Saesneg, gwyddoniaeth a'r dyniaethau.
- Mae rhai grwpiau partner wedi sefydlu unedau pontio mewn meysydd pwnc penodol – gan fwyaf yn y pynciau craidd a/neu Gymraeg 2il Iaith. Teimlir bod yr unedau hyn yn ddefnyddiol ar y cyfan, er y codwyd cwestiynau ynghylch safon y dogfennau a gynhyrchwyd mewn rhai achosion a phriodolrwydd rhai o'r tasgau. Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid i ni gofio bod disgyblion Blwyddyn 6 wedi cael eu trochi'n llwyr mewn Saesneg a Mathemateg yn ystod y ddau dymor cyntaf a gall disgwyl iddynt wneud yr un math o beth unwaith eto arwain at ymatebion negyddol yn aml. Nid oes amheuaeth os yw ysgolion partner yn mynd i archwilio a datblygu'r defnydd o unedau pontio ymhellach, bydd angen cyfnewid sylwadau'n onest, yn agored ac yn ddi-flewyn-ar-dafod.
- Mewn lleiafrif o achosion mae aelodau o staff o'r ysgolion uwchradd yn cael eu rhyddhau i gyflwyno neu gefnogi hwyluso'r unedau parhad.
- Mae un grŵp partner yn ystyried datblygu ymagwedd fwy thematig at unedau pontio a fyddai'n ceisio rhoi pwyslais ar allu'r disgyblion wrth gymhwyso sgiliau allweddol llythrennedd, rhifedd a TGCh.
- Mae materion yn codi ynghylch rheoli unedau dilyniant o fewn y dosbarthiadau cynradd hynny sy'n bwydo mwy nag un ysgol uwchradd. Yn amlwg, mae'r union faterion hyn yn achosi anawsterau tebyg pan fydd disgyblion o wahanol ddalgylchoedd yn trosglwyddo i ysgol uwchradd.
- Cyfaddefwyd mewn un grŵp partner o leiaf bod diffyg dealltwriaeth glir o alluoedd y disgyblion wrth iddynt gael eu derbyn i Flwyddyn 7 yn golygu bod y disgyblion mwy galluog ('lefel 5 diogel') yn troedio'n ansicr yn ystod eu tymor cyntaf yn yr ysgol uwchradd. Dylid ychwanegu bod astudiaeth ddiweddar gan Maurice Galton, John Gray a Jean Ruddock o Brifysgol Caergrawnt wedi dod i'r casgliad nad oedd disgyblion yn teimlo bod Blwyddyn 7 yn ddigon heriol neu wahanol i Flwyddyn 6, er bod hyn yn amrywio yn ôl y pwnc.
- Nid oedd lefel y gwahaniaethu'n amlwg mewn unedau pontio, na chwaith eu bod wedi'u gwahaniaethu o gwbl. Er mwyn i'r unedau fod yn effeithiol mae angen iddynt gynnwys gweithgareddau sy'n rhychwantu amrediad lefel 3-5 y CC. Ni ddylid defnyddio'r unedau hyn i ddarparu gweithgareddau ôl-TASau i ddisgyblion Bl6 ond yn hytrach i sicrhau bod gan athrawon Bl7 fewnwelediad goddrychol i alluoedd disgyblion unigol.
- Mewn rhai grwpiau partner mae'r ysgol uwchradd yn darparu adborth i'r ysgolion cynradd perthnasol ar gynnydd disgyblion mewn profion CAT a TASau CA3 a chanlyniadau TGAU. Mae'r rhan fwyaf o bartneriaid cynradd yn croesawu hyn.
- Yn y rhan fwyaf o'r grwpiau partner, ond nid pob un ohonynt, teimlwyd bod safon yr ymddiriedaeth rhwng cydweithwyr cynradd ac uwchradd yn ddiogel iawn.
- Roedd nifer o benaethiaid o'r farn fod seibiant 15 wythnos o ran dwysedd profiadau dysgu ac addysgu'r disgyblion rhwng diwedd y TASau a'u dechrau ym mlwyddyn 7 (er nad o ran safon o reidrwydd, byddem ninnau'n dadlau). Canfyddwyd bod hyn yn aml yn cael effaith wael ar safonau ac yn cyfrannu at y gostyngiad ymddangosiadol ym Ml6/Bl7. Unwaith eto, yn ôl yr astudiaeth ddiweddar gan Maurice Galton, John Gray a Jean Ruddock o Brifysgol Caergrawnt, "mae athrawon uwchradd bellach yn fwy gwybodus am raglenni astudio cyfnod allweddol 2, ond mae barn llawer ohonynt ynghylch arfer cynradd yn dal i fod yn oroptimistaidd. Y realiti i lawer o ddisgyblion yw bod rhan helaeth o Flwyddyn 6 yn arwain at y profion yn cynnwys adolygu gyda phwyslais ar gyfarwyddyd uniongyrchol dosbarth cyfan."
- Safonau llythrennedd y disgyblion wrth drosglwyddo yw'r prif bryder yn y rhan fwyaf o'r grwpiau partner.
- Mae llawer o ysgolion uwchradd yn cynnig defnydd adnoddau dynol ac ymarferol i'w partneriaid cynradd, fel arfer mewn meysydd arbenigol fel cerddoriaeth, dylunio a thechnoleg neu lle mae gan yr ysgol uwchradd ragoriaeth gydnabyddedig neu adnoddau llawer gwell fel addysg gorfforol neu dechnoleg gwybodaeth.
- Mae'r holl grwpiau partner wedi sefydlu cyfarfodydd clwstwr rheolaidd. Mae'r cyfarfodydd hyn yn dilyn y fformat canlynol:
- Cyfarfodydd penaethiaid bob tymor neu hanner tymor (ym mhob grŵp)
- Cyfarfodydd arweinwyr pwnc craidd bob tymor neu ddwywaith y flwyddyn (yn y rhan fwyaf o grwpiau)
- Cyfarfodydd CAAA bob tymor neu ddwywaith y flwyddyn (ym mhob grŵp)
Mewn llawer o achosion mynegodd y pennaeth y farn y byddai'n ddymunol petai cynrychiolwyr yr AALl (Swyddog Datblygu Cynradd / Swyddog Datblygu'r Cwricwlwm) yn mynychu'r cyfarfodydd penaethiaid, ac mewn un enghraifft nododd y pennaeth bod absenoldeb cynrychiolydd yr AALl wedi golygu colli symbyliad o ran gweithgareddau'r grwpiau. Roedd un pennaeth uwchradd yn teimlo'n gryf nad yw cyswllt mewn gormod o feysydd pwnc yn gweithio am ei fod yn gosod baich anghyfartal ar yr athro/athrawes Blwyddyn 6.
Parhau: Arferion Cyfredol o Fewn Grwpiau Partner Castell-Nedd Port Talbot |