Arferion Cyfredol o Fewn Grwpiau Partner Castell-Nedd Port Talbot
- Mae enghreifftiau o'r materion yr aethpwyd i'r afael â nhw yn ystod cyfarfodydd rhwng athrawon Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7 yn cynnwys:
- trafod samplau o waith y disgyblion, i ddod i gyd-ddealltwriaeth o'r safonau
- ystyried cynlluniau gwaith mewn perthynas â phwnc penodol
- ystyried grwpiau gallu a'r canlyniadau a ddisgwylir, e.e. ystyried lle y gallai cyfleoedd am weithgareddau atgyfnerthu fod yn ddefnyddiol a lle y dylid cyflwyno'r disgyblion i wybodaeth, cysyniadau a sgiliau newydd
- datblygu prosiectau 'pontio' ar y cyd
- olrhain cynnydd disgyblion a darparu adborth am gynnydd
- ystyried gwahanol arddulliau a strategaethau addysgu ar ddysgu'r disgyblion
- trafod parhad o ran arddulliau addysgu, e.e. defnyddio gwaith pâr mewn darllen, cynnal sgiliau pen mewn mathemateg, gwaith arbrofi ac archwilio mewn gwyddoniaeth
- defnyddio deunyddiau prawf (NFER/CATS) i archwilio cyrhaeddiad disgwyliedig disgyblion wrth ac ar ôl trosglwyddo a goblygiadau'r canlyniadau
- Mae un grŵp partner wedi sefydlu patrwm lle mae Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu yn dilyn disgyblion o'r sector cynradd i'r sector uwchradd gan sicrhau cyfraniad da at brosesau ymgartrefu'r disgyblion yn ogystal â pharhad cefnogaeth. Teimlwyd mai'r math o ddisgyblion sy'n cael cefnogaeth CCD yn aml yw'r rheiny sydd yn y perygl mwyaf yn ystod proses drosglwyddo Bl6/Bl7 yn academaidd a chymdeithasol.
- Yn gyffredinol ystyriwyd bod diwrnodau HMS ar y cyd yn beth da, ac mae rhai grwpiau wedi cytuno i hwyluso diwrnodau HMS ar y cyd blynyddol yn rheolaidd a pharhaol. Teimlwyd bod y diwrnodau hyn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ansawdd y berthynas a'r ymddiriedaeth rhwng cydweithwyr cynradd ac uwchradd. Fodd bynnag, nid oedd y diwrnodau hyn bob amser yn cael eu gwerthuso'n ffurfiol a lle y cawsant eu gwerthuso nid oedd y casgliadau bob amser yn cael eu rhannu â phob aelod o staff. Rydym hefyd yn cyfaddef bod lefel ostyngol o ddiddordeb yn anochel ymhlith cydweithwyr cynradd mewn gweithgareddau HMS a anelir at hwyluso trosglwyddo.
- Nododd lleiafrif o ysgolion cynradd nad oes ganddynt fawr i'w ennill o drefniadau trosglwyddo. Mae hyn yn adleisio'r adroddiad 'Ysgolion sy'n Newid' (Ofsted, 2002), lle y rhoddwyd blaenoriaeth isel i'r trefniadau gan fwyafrif yr ysgolion cynradd a adolygwyd.
- Defnyddiodd o leiaf un ysgol uwchradd ddiwrnod cau yn effeithiol i gynnwys holl ddisgyblion Blwyddyn 6 mewn gweithgareddau pwnc digraidd gyda phwyslais ar y celfyddydau mynegiadol a oedd yn caniatáu iddynt gynhyrchu drama i'w rhieni erbyn diwedd y diwrnod hwnnw. Ystyriwyd bod hwn yn ymarfer 'bondio' da. Mae'r un ysgol yn cynnal cyfres o glybiau ar ôl ysgol y Gronfa Cyfleoedd Newydd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 mewn meysydd fel gwyddoniaeth, TGCh, addysg gorfforol a Tang Soo Doo. Unwaith eto teimlwyd y byddai'r gweithgareddau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar safonau yn y pen draw. Canlyniad hyn oedd gosod disgwyliadau uwch trwy fwy o gysylltiad a chysylltiad cynharach rhwng y disgybl a'r athro / athrawes, er bod hyn hefyd wedi arwain at berthynas agosach ac nid oedd pob athro/athrawes yn ystyried bod hyn yn agwedd dda. Mae'r ysgol uwchradd hon hefyd yn gosod pwyslais ar ddatblygu ymagwedd 'gwaith cwrs' at ddysgu ym Mlwyddyn 7 sy'n caniatáu i'r disgyblion 'raddio' yn seiliedig ar safon a swm y gwaith a gynhyrchir. Teimlwyd bod hyn yn datblygu sgiliau dysgu'r disgyblion o'r cychwyn ac yn eu paratoi'n dda ar gyfer y sgiliau dysgu annibynnol y mae eu hangen i lwyddo ar lefel TGAU. Gellid trosglwyddo'r ymagwedd hon i Flwyddyn 6 trwy bwyslais ar waith prosiect sy'n datblygu sgiliau dysgu'r disgyblion.
- Roedd nifer sylweddol o ysgolion yn siarad am yr angen am gyflwyno cyswllt cynradd / uwchradd ym Mlwyddyn 5 ac roedd nifer eisoes yn gwneud hyn i raddau mwy neu lai.
- Mae un ysgol uwchradd yn sicrhau bod yr holl ANC yn cael eu hanfon i'r ysgolion cynradd am gyfnod penodol yn ystod eu blwyddyn gyntaf fel rhan o'r broses datblygiad proffesiynol a chynefino.
- Mae'r grwpiau partner hynny sydd wedi sefydlu rhaglen arsylwi cyfoedion yn teimlo bod y manteision yn aruthrol ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at barhad y cwricwlwm yn ogystal â pheri i gydweithwyr adfyfyrio ar eu harferion eu hunain yn yr ystafell ddosbarth. Roedd llawer o benaethiaid yn ystyried y mecanwaith hwn fel cyfrwng i rannu arfer da.
- Roedd nifer o benaethiaid uwchradd yn teimlo bod braidd dim dilyniant yn y pynciau digraidd. Crybwyllodd rhai bod 'ymwybyddiaeth gyffredinol' o'r cynlluniau gwaith a ddefnyddir gan athrawon ym Mlynyddoedd 6 a 7 ond nad oedd hyn wedi'i datblygu. Soniodd un pennaeth am raglen gytûn i ystyried dilyniant y cwricwlwm yn y pynciau digraidd dros gyfnod o amser gan roi cyfle i arweinwyr pwnc a phenaethiaid adran gynnal cyfarfodydd. Cyfaddefwyd bod diffygion i'r mecanwaith hwn yn yr ystyr nad oedd y prosesau lledaenu bob amser yn effeithiol, ond teimlwyd bod hyn yn well na gwneud dim. Yn ogystal ag ystyried cynnwys, teimlwyd bod angen trafod a deall meddyliau ac ymagweddau ei gilydd o ran disgrifwyr lefel (yn enwedig lefelau 4, 5 a 6) oherwydd dyma'r llinynnau parhad presennol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Mae un grŵp partner wedi sicrhau cyllid dros ddwy flynedd gan CILT Cymru i roi prosiect Ieithoedd Tramor Modern ar waith yn CA2. Er y gallai hyn greu problemau gwahaniaethu posib yn CA3, mae'r manteision yn sylweddol. Y gobaith yw y bydd yn dwysáu sgiliau dysgu iaith y disgyblion wrth gychwyn yn yr ysgol uwchradd a gallai olygu bod disgyblion yn cael cyfle i ennill cymhwyster TGAU ym Mlwyddyn 9 (neu Flwyddyn 10).
- Mae nifer cynyddol o grwpiau partner yn ymwneud â phrosiectau partneriaeth Comenius sy'n seiliedig ar glystyrau gydag ysgolion Ewropeaidd eraill sy'n eu hariannu eu hunain. Mae'r rhain yn cyfrannu'n dda at ddatblygu cydweithredu a pherthynas dda rhwng ysgolion ac yn aml maent yn cynyddu dealltwriaeth o ddarpariaeth y cwricwlwm ymhlith athrawon o'r sectorau perthnasol.
• Roedd un pennaeth yn teimlo y dylai prosbectysau ysgolion cynradd gynnwys datganiad am ddalgylchoedd a'r llwybr trosglwyddo traddodiadol i addysg uwchradd. Teimlwyd hefyd y dylai prosbectysau gynnwys manylion am y trefniadau trosglwyddo a bod rhieni'n ystyried y berthynas cynradd/uwchradd fel pecyn addysg i'w plant. - Mae un ysgol uwchradd yn darparu llawer o gefnogaeth i ddisgyblion y nodwyd eu bod yn perfformio'n is na'u lefel ddisgwyliedig trwy ymyrraeth gan diwtor Cyfeiriad i Ddysgu sy'n cwrdd â'r disgyblion yn rheolaidd i drafod agweddau a strategaethau. Mae'r gefnogaeth yn dechrau ym Ml7 yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd o'r ysgolion cynradd bwydo. Datblygir yr ymagwedd hon trwy gydol y cyfnod uwchradd fel bod disgyblion ar y ffin C/D ym Mlynyddoedd 10/11 yn cael eu tiwtora gan aelodau'r UDRh.
- Teimlodd un pennaeth bod angen i'r grŵp partner rannu ymagweddau ar strategaethau disgyblu. Byddai ymagwedd gyffredin at ddatblygu llythrennedd emosiynol y disgyblion yn fuddiol hefyd. Mae lle hefyd i gydweithwyr cynradd ac uwchradd drafod ymagweddau at waith cartref, oherwydd bernir bod hyn yn rhan bwysig o barhad CA2/3.
- Mae presenoldeb ysgol uwchradd ar rai neu holl Gyrff Llywodraethu ysgolion cynradd mewn o leiaf dau grŵp partner. Mae o leiaf un ysgol uwchradd wedi sicrhau bod aelodau staff uwch yn rhan o Gyrff Llywodraethu'r holl ysgolion cynradd bwydo craidd.
- Nid ydym yn ymwybodol bod unrhyw grŵp partner yn llunio cynllun datblygu ar y cyd sy'n amlinellu amcanion a chanlyniadau mesuradwy y grŵp dros gyfnod o amser. Rydym yn gwybod am awdurdodau yn Lloegr sy'n annog disgyblion i fynd â chynllun trosglwyddo gyda nhw o'r cynradd i'r uwchradd, ac mae'r cynllun hwn yn cynnwys mewnbwn gan y disgybl ei hun, rhieni a'r athro / athrawes ddosbarth. Rhoddir y cynllun i diwtor dosbarth neu athro / athrawes ddosbarth y disgybl ac fe'i trafodir yn ystod un o'r diwrnodau trosglwyddo.
- Mae'r Gwasanaeth Datblygu Addysg wedi cychwyn rhaglen o adolygiadau pwnc trawsgyfnod, awdurdod cyfan a gynhelir yn nhymor yr haf yn ystod pob blwyddyn academaidd. Anelir yr adolygiadau hyn at werthuso safon dilyniant y cwricwlwm rhwng CA2 a CA3.
- Mae'r Gwasanaeth Datblygu Addysg hefyd wedi hwyluso nifer o gynadleddau a sesiynau hyfforddi trawsgyfnod sy'n gwneud llawer i hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth o arferion. Mae angen darparu mwy o gyfleoedd am hyfforddiant trawsgyfnod (yn enwedig ar gyfer athrawon disgyblion Bl5-Bl8) ar agweddau trawsgwricwlaidd a dargedwyd fel sgiliau allweddol, asesu, AAA, disgyblaeth bendant, arddulliau dysgu ac addysgu, sgiliau meddwl ac ati.
- Mae nifer fach o ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio rhaglenni Cyflymu Gwybyddol trwy Addysg Wyddoniaeth (CASE) ar draws cyfnodau allweddol 2 a 3. Fel a nodwyd mewn cyhoeddiad Estyn diweddar (gweler y llyfryddiaeth), 'mae'r gweithio ar y cyd hwn yn gwella sgiliau ymholi gwyddonol trwy annog y disgyblion i fynd i'r afael â thasgau penagored ac archwilio dewisiadau eraill'. Er ein bod wedi cychwyn strategaeth 'Sgiliau Meddwl' o fewn yr awdurdod rydym yn credu bod lle i ddatblygu'r strategaeth hon ymhellach gyda'r nod o wella sgiliau meddwl a dysgu'r disgyblion wrth iddynt ddatblygu o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3 a'r tu hwnt.
Mae canlyniadau astudiaeth achos o ysgol yn Lloegr yn dangos bod CASE yn ychwanegu gradd at berfformiad gwyddoniaeth ac yn ychwanegu hanner gradd ar sgorau Saesneg a mathemateg yn CA3.
- Mae'r rhan fwyaf o benaethiaid uwchradd yn ystyried bod datblygu gweithdrefnau ac arferion trosglwyddo effeithiol ac effeithlon yn ffactor allweddol sy'n cyfrannu at wella ysgolion.
- Roedd pob pennaeth uwchradd yn cytuno bod lle i wella a datblygu'r trefniadau trosglwyddo cyfredol o fewn eu grwpiau partner perthnasol.
Parhau: Arfer Da |