Arfer Da
O'n hadolygiad o arferion cyfredol o fewn yr AALl teimlir bod parhad a dilyniant y cwricwlwm yn gweithio orau pan fydd:
- strwythurau sefydledig a ddiffiniwyd yn glir ar gyfer rhannu gwybodaeth
- dealltwriaeth grŵp partner cyfan o nodau ac amcanion y strwythurau trosglwyddo hyn
- datganiad o fwriad cytûn i archwilio ymagwedd gyson o ran arddulliau dysgu ac addysgu o fewn y grŵp partner
- unedau pontio wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â'r holl bartneriaid perthnasol
- ffocws penodol i gyfarfodydd trosglwyddo a rhoddir argymhellion ar waith, gan ledaenu gwybodaeth yn effeithiol i'r holl aelodau staff
- cytundeb i werthuso effeithiolrwydd arferion cyfredol mewn ffordd agored ac onest
- safon y cyfathrebu rhwng holl aelodau'r grŵp partner yn seiliedig ar siarad a gwrando ar ei gilydd
- ysgolion uwchradd yn buddsoddi llawer o amser, arian ac egni i sicrhau llwyddiant ac yn meddwl yn ofalus am yr hyn y maent am ei gael o'r buddsoddiad a sut y bydd y buddsoddiad hwnnw'n codi safonau yn y pen draw
- manteision i bartneriaid cynradd, e.e. rhannu arfer da, mwy o ymwybyddiaeth am arddulliau dysgu ac addysgu
- arsylwi ar wersi cyfoedion yn cynyddu ymwybyddiaeth athrawon CA3 am safonau cyflawniad disgyblion Bl6 ac yn cynyddu eu dealltwriaeth am sut mae pynciau a sgiliau'n cael eu haddysgu;
- arsylwi ar wersi cyfoedion wedi cynyddu ymwybyddiaeth athrawon CA2 am sut y gallant baratoi'r disgyblion ar gyfer CA3
- polisi cytûn gan y grŵp partner sy'n amlinellu nodau/dibenion cyswllt ac yn nodi rolau a chyfrifoldebau
- trosglwyddo'n seiliedig ar wneud y pethau syml yn effeithiol ac yn effeithlon, lle mae ymrwymiad i ymagwedd gydlynol y gellir ei chynnal. Nid ydym yn credu bod 'gweithred fawr'nac ymagwedd 'ychwanegiadau' sy'n seiliedig ar brosiectau yn gynaliadwy nac yn effeithiol yn y tymor hir
Parhau: Materion ar Gyfer Gweithredu - Mater Allweddol 1 |