Trosglwyddiad Symud Ysgol

Materion ar Gyfer Gweithredu - Mater Allweddol 1
Mae angen i ni resymoli'r trefniadau profi a argymhellir ac a ariennir gan yr AALl, gan gydnabod y dylid defnyddio profion at ddibenion ymyrryd yn hytrach nag fel mesur a yrrir gan baratoi ystafell ddosbarth.

Ar hyn o bryd mae Mathemateg NFER yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol mewn ysgolion cynradd i nodi meysydd i'w gwella ar lefel ysgol, dosbarth ac unigol; defnyddir Prawf Darllen Saesneg yr NFER fel mecanwaith cyllido AAA a rhagfynegydd ar gyfer profion diwedd CA2 (Ein Stori Ni mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg). Nid yw'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn defnyddio prawf di-eiriau i nodi galluoedd a photensial gwybyddol y disgyblion. Ar yr un pryd, nid yw defnydd data CAT yn gyson ar draws yr awdurdod.

Mae rhai ysgolion uwchradd yn defnyddio'r data fel rhagfynegydd TGAU tra bo eraill yn gwneud defnydd mwy soffistigedig o'r data i ddylanwadu ar arddulliau dysgu ac addysgu. Cyfaddefodd un pennaeth uwchradd er bod ysgolion wedi bod yn ddata-gyfoethog am bedair i bum mlynedd, mai dim ond ers y flwyddyn ddiwethaf y maent wedi bod yn ddata-ddeallus.

Mae mwyafrif helaeth yr ysgolion uwchradd yn frwd o blaid gweinyddu profion CAT ym Mlwyddyn 5 i gynhyrchu data o safon uwch sy'n gysylltiedig ag anghenion dysgu'r disgyblion hynny sy'n trosglwyddo o CA2 i CA3. Byddai cyflwyno prawf di-eiriau yn CA2 ynghyd ag arfarnu gwerth prawf Darllen cyfredol yr NFER i gyd-fynd â phrawf Mathemateg yr NFER a dderbyniwyd yn dda ac a ddefnyddir yn effeithiol yn sicrhau bod pob ysgol yn cael proffil cynhwysfawr o alluoedd disgyblion unigol a chyfeiriad ar gyfer ymyrraeth a gwella.

Er y cydnabyddir bod yr holl grwpiau partner wedi sefydlu strwythurau cydlynol ar gyfer trosglwyddo data mae angen gwneud ychydig o fân waith atgyweirio mewn rhai clystyrau (a chan yr AALl yn achos data NFER) i sicrhau cysondeb gan yr holl bartneriaid ac ystyriaeth ar gyfer graddfeydd amser cytûn. Mae hefyd angen mynd i'r afael â dealltwriaeth y partneriaid cynradd o sut y defnyddir y data a drosglwyddir ac, yn fwy penodol, effeithlonrwydd lledaenu a defnydd y data hwn ar lefel ysgol uwchradd.

Am fod yr ysgolion uwchradd yn ymddiried mwy mewn asesiadau gan athrawon, dylai'r wybodaeth hon gael ei throsglwyddo dros dro yn gynnar yn ystod tymor yr haf i roi cyfle i gydweithwyr uwchradd ystyried a lledaenu'r wybodaeth yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae angen cytuno ar brotocoliau trosglwyddo a'u rhoi ar waith gyda phartneriaid clwstwr.

(Mae cynllun peilot y System Drosglwyddo Gyffredin bellach ar waith yng Nghymru. Mae cyfranogiad yn y cynllun peilot ar sail wirfoddol. Mae dogfen ymgynghori ffurfiol yn cael ei pharatoi i gael barn am gyflwyno'r SDG ar sail orfodol. Gweler www.learning.wales.gov.uk)

Argymhelliad Personel Allweddol Graddfa Amser
  • Sefydlu graddfa amser ddiffiniedig a chytûn ar gyfer trosglwyddo data CA2/3
  • Sefydlu protocol cytûn ar gyfer swm y data i'w drosglwyddo
  • Defnydd awdurdod cyfan o'r SDG a gynhyrchwyd gan Assessment Manager
  • Gweinyddu prawf di-eiriau ym Ml5 – CATS?
  • Ailasesu gwerth Prawf Darllen yr NFER
  • Defnyddio data yn effeithiol i gefnogi strategaethau ymyrraeth

SGE: mewn perthynas â chyllid

MH: mewn perthynas â defnydd data

GH/JT: mewn perthynas â chefnogaeth dechnegol

JR/MT/CJ/ZD: mewn perthynas â phrofion llythrennedd/rhifedd

Cytuno a chychwyn ar y camau gweithredu mewn perthynas â'r holl faterion erbyn Ebrill 2005.


.