Materion ar Gyfer Gweithredu - Mater Allweddol 2
Gall unedau dilyniant neu bontio a baratowyd ac a reolwyd yn dda wneud cyfraniad sylweddol at y syniad o drosglwyddo di-fwlch. Rydym hefyd yn cydnabod bod unedau a luniwyd yn wael ac a reolwyd yn frysiog yn gallu cael effaith yr un mor wael ar drosglwyddo.
- Er bod ychydig o fudd yn gysylltiedig ag ystyried datblygu cynlluniau gwaith ar y cyd rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd, teimlir y gellir cael mwy o fudd a manteision sy'n para'n hirach trwy ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ymagweddau dysgu ac addysgu effeithiol a phriodol.
- Rydym yn credu y gallai datblygu ymagweddau cyffredin at hyrwyddo sgiliau allweddol ar draws y cwricwlwm wneud cyfraniad sylweddol at wella safonau a pharhad.
- Gellid gwneud mwy i ganiatáu i staff rannu ymagweddau at brosesau asesu a phennu targedau, a safoni gwaith (yn enwedig neu'n hanfodol o fewn continwwm lefel 4-5).
- Mae angen dirprwyo ffynonellau cyllid o'r AALl a anelir at ddatblygu parhad a dilyniant neu drosglwyddo yn gynt nag yn flaenorol er mwyn i'r ysgolion partner gynllunio gweithgareddau â ffocws a'u rhoi ar waith yn seiliedig ar y bwriadau y cytunwyd arnynt trwy eu cyfarfodydd grŵp clwstwr. Mae angen sefydlu safbwynt tymor hir o ran swm yr arian y mae ei angen i fuddsoddi mewn trosglwyddo a pharhad a dilyniant er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio er lles yr holl 'fuddiolwyr'.
Argymhelliad | Personel Allweddol | Graddfa Amser |
|
AH |
Cytuno ar gamau gweithredu a'u rhoi ar waith mewn perthynas â phwyntiau bwled 1 a 2 erbyn Ebrill 2005. Grwpiau partner unigol i fynd i'r afael â phwynt bwled 3. |
Parhau: Materion ar Gyfer Gweithredu - Mater Allweddol 3 |