Materion ar Gyfer Gweithredu - Mater Allweddol 3
Mae angen i Swyddogion Datblygu Cynradd a Swyddogion Datblygu'r Cwricwlwm gymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp partner yn systematig i gyfryngu ar gyfer arfer da, cynrychioli safbwynt yr AALl a chynnal cysylltiad uniongyrchol rhwng y grwpiau partner a'r Gwasanaeth Datblygu Addysg.
- Mewn lleiafrif arwyddocaol o grwpiau partner roedd canfyddiad hynod wrthdrawiadol rhwng penaethiaid cynradd ac uwchradd o ran safon y trefniadau trosglwyddo. Mae cyfathrebu o'r safon uchaf a'r cywirdeb mwyaf posib yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod yr holl broses drosglwyddo yn cael ei rheoli a'i datblygu'n effeithiol.
- Dylem ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd am sefyllfa gyfredol y grwpiau partner unigol i gefnogi a herio trefniadau trosglwyddo ysgolion a'r cynnydd y maent yn ei wneud yn ystod y 12 – 18 mis nesaf. Dylid adrodd am a thrafod gweithgareddau'r grwpiau partner yn flynyddol yn ystod cyfarfod Tymor yr Haf yr UDRh/GDA.
Argymhelliad | Personel Allweddol | Graddfa Amser |
|
Swyddogion Datblygu Cynradd |
I'w roi ar waith o fis Medi 2004 ymlaen. |
Parhau: Arolwg Trosglwyddo (CA2-3) |