AsesuCelf

Lefel 1
Mae'r disgyblion yn dechrau gwneud cysylltiad rhwng eu gwaith eu hunain a gwaith gan eraill, maent yn siarad am y rhain mewn termau syml. Maent yn defnyddio defnyddiau ac offer i wneud delweddau ac arteffactau ac arbrofant yn ymarferol ac yn ddychmygus gyda iaith weledol sylfaenol celf, crefft a dylunio. Maent yn cofnodi eu syniadau a'u teimladau trwy dynnu lluniau a thrwy ddulliau eraill ar sail arsylwi, profiad a'r dychymyg.

Lefel 2
Mae'r disgyblion yn adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng eu gwaith ymarferol eu hunain a gwaith gan eraill; maent yn ymateb i'r rhain drwy siarad amdanynt mewn termau syml a gallant ddisgrifio yr hyn y maent yn ei deimlo a'i feddwl amdanynt. Maent yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau i wneud delweddau ac arteffactau; maent yn archwilio nodweddion gweledol yn ymarferol ac yn ddychmygus, gan wneud newidiadau i'w gwaith pan deimlant fod eu hangen. Maent yn cofnodi delweddau a syniadau ar sail arsylwi, profiad, y cof a'r dychymyg gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau y maent wedi eu casglu a'u trefnu.

Lefel 3
Mae'r disgyblion yn disgrifio'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng eu gwaith eu hunain a gwaith gan eraill ac yn dechrau dod yn ymwybodol o ddulliau a phwrpasau gwaith artistiaid, crefftwyr a dylunwyr, gan ymateb yn
ddychmygus iddynt. Maent yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau, offer a thechnegau i gael gwahanol ganlyniadau ac maent yn arbrofi gyda nodweddion gweledol gan wneud newidiadau addas i'r gwaith pan welant
fod angen gwneud hynny. Maent yn dethol a chofnodi eu syniadau a'u teimladau trwy dynnu lluniau a thrwy ddulliau eraill ar sail arsylwi, profiad a'r dychymyg, gan ddewis o blith amrywiaeth o adnoddau y maent wedi eu
casglu a'u trefnu fel sail ar gyfer eu gwaith eu hunain.

Lefel 4
Mae'r disgyblion yn cymharu eu gwaith eu hunain â gwaith gan eraill o wahanol ddiwylliannau ac maent yn trafod eu syniadau a'u teimladau'n ddychmygus gan ddangos ymwybyddiaeth o'r dulliau a ddefnyddir gan eraill, a chan ddangos eu bod yn deall gwahanol bwrpas eu gwaith. Maent yn medru rheoli amrywiaeth o ddefnyddiau, offer a thechnegau er mwyn cael gwahanol ganlyniadau. Maent yn cymhwyso eu dealltwriaeth o nodweddion gweledol ac maent yn adolygu a newid eu gwaith pan welant fod angen gwneud hynny. Maent yn dewis ac yn cofnodi delweddau a syniadau ar sail arsylwi, profiad a'r dychymyg ac maent yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a dulliau i gefnogi datblygiad eu gwaith. Maent yn paratoi ac yn datblygu syniad neu thema ar gyfer eu gwaith trwy gasglu a threfnu adnoddau gweledol ac adnoddau eraill.

Lefel 5
Mae'r disgyblion yn cymharu'r dulliau a'r technegau a ddefnyddir yn eu gwaith eu hunain a gwaith gan eraill, gan drafod eu syniadau a'u teimladau'n ddychmygus a chan ddangos yn glir eu bod yn deall y dulliau a'r pwrpasau a ddefnyddir gan eraill o wahanol ddiwylliannau. Maent yn arbrofi'n ymarferol ac yn ddychmygus gydag amrywiaeth o ddulliau gan gymhwyso gwybodaeth eang o nodweddion gweledol a chan adolygu a newid eu gwaith er mwyn cyflawni bwriadau. Maent yn tynnu lluniau ac yn defnyddio dulliau eraill yn ddethol i archwilio, dehongli a chofnodi eu syniadau a'u teimladau ar sail arsylwi, profiad a'r dychymyg. Maent yn trefnu eu gwaith, gan gasglu a defnyddio deunyddiau cyfeiriol i ddatblygu syniad neu thema.

Mae'r dudalen hon ar gael fel taflen waith a gellir ei lawrlwytho isod. Sut ydw i'n lawrlwytho'r ffeiliau hyn?

Fersiwn Word (27k) Fersiwn PDF (22k)
Asesu - Celf

.