AsesuCerddoriaeth

Lefel 1
Mae disgyblion yn canu ag ynganiad clir, gan berfformio'n gryf neu'n dawel yn ôl y cyfarwyddyd. Maent yn clapio neu'n tapio â churiad cyson mewn amseriad ag eraill. Wedi archwilio amrywiaeth o ffynonellau sain, mae disgyblion yn dewis seiniau addas mewn ymateb i symbyliad penodol. Maent yn adnabod ac yn ymateb i seiniau a cherddoriaeth, yn nhermau elfennau fel dynameg, cyflymder, parhad ac ansawdd.

Lefel 2
Mae disgyblion yn canu caneuon sy'n cynnwys amrediad cyfyngedig o nodau, gan gadw mewn tiwn ar y cyfan. Maent yn chwarae patrwm syml ar offeryn taro gan gadw amser i guriad cyson. Maent yn dewis ac yn trefnu seiniau mewn ymateb i symbyliad penodol ac yn creu patrymau alawol byr, gan ddangos rhywfaint o reolaeth ar elfennau cerddorol. Maent yn gwahaniaethu'n fras o fewn elfennau cerddorol ac yn defnyddio termau syml i ddisgrifio sut y defnyddir hwy i ddibenion mynegi.

Lefel 3
Mae disgyblion yn canu caneuon mewn tiwn ac yn rheoli eu hanadlu er mwyn gwella eu perfformiad. Maent yn chwarae rhan offerynnol gan ddefnyddio amrediad cyfyngedig o nodau. Maent yn gweithio ag eraill i greu cyfansoddiadau sydd â ffurf gerddorol syml gan adolygu eu syniadau pan fo angen. Maent yn gwahaniaethu o fewn elfennau cerddorol ac yn trafod pa mor effeithiol y defnyddir yr elfennau hyn.

Lefel 4
Mae disgyblion yn canu a chwarae, gan arddangos rheolaeth ar elfennau cerddorol; maent yn cynnal rhan fel aelod o grwp mewn rhan-gân syml ac yn cynnal rhan offerynnol unigol mewn darn ar gyfer grwp. Gan weithio ag eraill, maent yn dyfeisio ac yn ymgymryd â datblygiadau syml ar syniadau cerddorol i gynhyrchu cyfansoddiadau, gan arddangos dealltwriaeth a defnydd priodol o elfennau cerddorol. Maent yn gwahaniaethu o fewn elfennau cerddorol o ran disgrifio, cymharu a gwerthuso gwahanol fathau o gerddoriaeth a dynnwyd o Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 2.

Lefel 5
Mae disgyblion yn dangos rhugledd wrth ganu a chwarae repertoire eang; maent yn cynnal rhan fel aelod o grwp mewn rhan-gân ac yn cynnal rhan offerynnol unigol mewn darn ar gyfer grwp. Gan weithio ag eraill, maent yn datblygu a threfnu deunydd o fewn strwythurau cerddorol priodol ac maent yn gwerthuso ac yn mireinio eu cyfansoddiadau. Maent yn gwahaniaethu o fewn elfennau cerddorol ac yn adnabod prif nodweddion gwahanol fathau o gerddoriaeth a dynnwyd o Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 2.

Mae'r dudalen hon ar gael fel taflen waith a gellir ei lawrlwytho isod. Sut ydw i'n lawrlwytho'r ffeiliau hyn?

Fersiwn Word (29k) Fersiwn PDF (21k)
Asesu - Cerddoriaeth

.