AsesuDaearyddiaeth

Lefel 1
Mae disgyblion yn defnyddio'r adnoddau a ddarperir yn ogystal â'u harsylwadau eu hunain er mwyn ymateb i gwestiynau am leoedd. Maent yn adnabod ac yn gwneud sylwadau am nodweddion ffisegol a dynol lleoedd penodol. Maent yn mynegi eu safbwyntiau am nodweddion amgylcheddol cymdogaeth sydd iddyn nhw naill ai'n ddeniadol neu'n anneniadol.

Lefel 2
Mae disgyblion yn dewis gwybodaeth o'r adnoddau a ddarperir. Defnyddiant y wybodaeth hon a'u harsylwadau eu hunain i ofyn ac i ymateb i gwestiynau am leoedd. Disgrifiant nodweddion ffisegol a dynol, gan adnabod y rhai hynny sy'n rhoi cymeriad i leoedd. Dangosant ymwybyddiaeth o leoedd y tu allan i'w cymdogaeth eu hunain. Mynegant farn ar nodweddion deniadol ac anneniadol amgylchedd cymdogaeth.

Lefel 3
Mae disgyblion yn defnyddio sgiliau a ffynonellau tystiolaeth i ymateb i nifer o wahanol gwestiynau daearyddol. Disgrifiant a gwnânt gymariaethau rhwng nodweddion ffisegol a dynol gwahanol gymdogaethau. Cynigiant esboniadau am leoliad rhai o'r nodweddion hyn. Dangosant ymwybyddiaeth y gall fod gan leoedd gwahanol nodweddion tebyg a gwahanol. Cynigiant resymau am rai o'u harsylwadau a'u barn am leoedd.

Lefel 4
Mae disgyblion yn dangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn perthynas â nifer o wahanol leoedd ac amgylcheddau ar fwy nag un raddfa. Defnyddiant eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth i awgrymu cwestiynau daearyddol addas y gellid eu hastudio. Defnyddiant ystod o sgiliau daearyddol o Raglenni Astudio Cyfnod Allweddol 2 neu Gyfnod Allweddol 3, a thystiolaeth i ymchwilio i leoedd a themâu. Maent yn dechrau disgrifio patrymau daearyddol ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd lleoliad wrth ddeall lleoedd. Maent yn adnabod ac yn disgrifio prosesau ffisegol a dynol. Maent yn dechrau dangos dealltwriaeth o sut y gall y prosesau hynny newid nodweddion lleoedd ac y gall y newidiadau hynny effeithio ar fywydau a gweithgareddau'r bobl sy'n byw yno. Disgrifiant sut y gall pobl wella a niweidio'r amgylchedd.

Lefel 5
Mae disgyblion yn dangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn perthynas ag astudiaeth o nifer o wahanol leoedd ac amgylcheddau ar fwy nag un raddfa. Maent yn adnabod cwestiynau daearyddol perthnasol. Gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, dewisant a defnyddiant sgiliau priodol o Raglenni Astudio Cyfnod Allweddol 2 neu Gyfnod Allweddol 3, a thystiolaeth i'w helpu i ymchwilio i leoedd a themâu. Cyrhaeddant gasgliadau rhesymol ac fe gyflwynant eu casgliadau ar ffurf graffeg ac yn ysgrifenedig. Disgrifiant a dechreuant gynnig esboniadau am batrymau daearyddol ac am ystod o brosesau ffisegol a dynol. Disgrifiant sut y mae'r prosesau hyn yn newid yr amgylchedd a sut y gallant arwain at debygrwydd a gwahaniaethau rhwng lleoedd. Mae disgyblion yn disgrifio sut y caiff lleoedd eu cysylltu â'i gilydd trwy symudiadau nwyddau a phobl. Cynigiant esboniadau am ffyrdd y mae gweithgareddau dynol yn effeithio ar yr amgylchedd gan gydnabod fod pobl yn ceisio rheoli a gwella amgylcheddau.

Mae'r dudalen hon ar gael fel taflen waith a gellir ei lawrlwytho isod. Sut ydw i'n lawrlwytho'r ffeiliau hyn?

Fersiwn Word (26k) Fersiwn PDF (22k)
Asesu - Daearyddiaeth

.