AsesuDylunio a Thechnoleg

Lefel 1
Wrth ddylunio a gwneud, bydd y disgyblion yn siarad am gynhyrchion cyfarwydd, yn arbennig am yr hyn y maent yn ei hoffi, neu ddim yn ei hoffi ynglyn â hwy. Mewn adeiladweithiau syml byddant yn cydosod ac yn ad-drefnu defnyddiau a chydrannau a roddwyd. Byddant yn defnyddio offer syml i helpu lle bo'n briodol ac yn siarad am yr hyn y maent yn mynd i'w wneud neu wedi'i wneud.

Lefel 2
Wrth ddylunio a gwneud, bydd y disgyblion yn gofyn cwestiynau ac yn awgrymu syniadau ar gyfer gwneud pethau, a hynny ar sail eu harsylwadau o gynhyrchion cyfarwydd a'u profiad o ddefnyddiau a thechnegau. Defnyddiant luniau a geiriau i gyfleu'r hyn y dymunant ei wneud. Byddant yn trin offer syml yn ddiogel ac yn cydosod ac yn uno defnyddiau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd y disgyblion yn siarad am yr hyn y maent yn ei hoffi, neu ddim yn ei hoffi, ynglyn â'r hyn y maent wedi'i wneud.

Lefel 3
O gael canllawiau, bydd y disgyblion yn casglu gwybodaeth i ategu eu syniadau wrth ddylunio a gwneud. Fe dynnant ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r rhaglen astudio briodol i ddatblygu eu syniadau a defnyddiant frasluniau â labeli arnynt i ddangos manylion eu dyluniadau. Gall y disgyblion siarad am eu dewis o ddefnyddiau a chydrannau a defnyddiant ddulliau priodol i dorri, siapio ac uno defnyddiau. Bydd eu cynhyrchion yn debyg i'w bwriadau dylunio ac fe nodir unrhyw newidiadau.

Lefel 4
Wrth ddylunio a gwneud, bydd y disgyblion yn casglu gwybodaeth yn annibynnol ac yn ei defnyddio i helpu i gynhyrchu nifer o syniadau. Bydd y syniadau a ddatblygant ar gyfer cynhyrchion yn cydnabod bod gan
ddefnyddwyr farn a hoffterau. Darluniant ddewisiadau eraill gan ddefnyddio brasluniau a/neu fodelau, a dewisant rhyngddynt. Bydd y disgyblion yn cynllunio'r hyn y maent yn mynd i'w wneud a sut y maent yn mynd i'w
wneud. Dewisant a defnyddiant offer a chyfarpar priodol wrth weithio gydag ystod o ddefnyddiau, gan roi sylw i ansawdd y gorffeniad ac i'r swyddogaeth. Byddant yn gwerthuso'u gwaith wrth iddo ddatblygu, gan gadw eu bwriadau gwreiddiol mewn cof.

Lefel 5
Wrth ddylunio a gwneud, bydd y disgyblion yn tynnu ar amrywiaeth o ffynonellau i gynhyrchu ystod o syniadau. Datblygant eu syniadau drwy drafod, lluniadu a modelu a thrwy eu dealltwriaeth o nodweddion cynhyrchion cyfarwydd. Bydd y disgyblion yn cynhyrchu lluniadau ac arnynt ddimensiynau, ac yn nodi gam wrth gam yr hyn y maent yn mynd i'w wneud. Defnyddiant ystod o offer, defnyddiau a phrosesau yn ddiogel a chan arfer mwy a mwy o fanwl-gywirdeb a rheolaeth. Byddant yn defnyddio gweithdrefnau mesur a gwirio wrth i'w gwaith ddatblygu, ac yn addasu eu hymdriniaeth os bydd eu hymdrechion cyntaf yn methu. Gwerthusant eu cynhyrchion drwy eu cymharu a'u bwriadau dylunio, ac awgrymant ffyrdd o'u gwella.

Mae'r dudalen hon ar gael fel taflen waith a gellir ei lawrlwytho isod. Sut ydw i'n lawrlwytho'r ffeiliau hyn?

Fersiwn Word (26k) Fersiwn PDF (22k)
Asesu - Dylunio a Thechnoleg

.