AsesuTechnoleg Gwybodaeth

Lefel 1
Mae'r disgyblion yn defnyddio TGCh i gydosod testun a symbolau, i'w helpu i gyfathrebu syniadau. Maent yn archwilio gwybodaeth a gedwir ar systemau TGCh, gan ddangos ymwybyddiaeth bod gwybodaeth yn bod mewn amryw o ffurfiau.

Lefel 2
Mae'r disgyblion yn defnyddio TGCh i'w helpu i gynhyrchu a chyfathrebu syniadau mewn gwahanol ffurfiau, megis testun, tablau, lluniau a sain. Gyda pheth cefnogaeth, maent yn adfer a chadw gwaith. Maent yn defnyddio TGCh i ddidoli a dosbarthu gwybodaeth ac i gyflwyno eu darganfyddiadau. Maent yn defnyddio modelau neu efelychiadau, seiliedig ar TGCh, i ymchwilio i wahanol ddewisiadau, wrth iddynt archwilio agweddau ar sefyllfaoedd real a dychmygol.

Lefel 3
Mae'r disgyblion yn defnyddio TGCh i gynhyrchu, addasu, trefnu a chyflwyno syniadau. Maent yn defnyddio TGCh i gadw a chyrchu gwybodaeth a storiwyd, gan ddilyn llwybrau ymholi uniongyrchol. Maent yn defnyddio modelau neu efelychiadau, seiliedig ar TGCh, i'w helpu i wneud penderfyniadau, ac maent yn ymwybodol o ganlyniadau eu dewisiadau. Maent yn disgrifio eu defnydd o TGCh a'r defnydd a wneir ohono yn y byd allanol.

Lefel 4
Mae'r disgyblion yn defnyddio TGCh i rannu, cyfnewid, a chyfuno gwahanol ffurfiau ar wybodaeth, ac yn dangos ymwybyddiaeth o gynulleidfa. Maent yn ychwanegu at, yn addasu ac yn holi gwybodaeth sydd wedi ei storio. Deallant fod angen llunio cwestiynau yn ofalus wrth gasglu, cyrchu a holi gwybodaeth. Mae'r disgyblion yn dehongli eu darganfyddiadau, yn cwestiynu hygrededd ac yn sylweddoli bod gwybodaeth o ansawdd gwael yn cynhyrchu canlyniadau annibynadwy. Maent yn defnyddio modelau ac efelychiadau, seiliedig ar TGCh, i archwilio patrymau a pherthnasoedd, ac yn gwneud rhagfynegiadau syml ynghylch canlyniadau eu penderfyniadau. Maent yn cymharu eu defnydd o TGCh gyda dulliau eraill.

Lefel 5
Mae'r disgyblion yn defnyddio TGCh i drefnu, mireinio, rhannu, cyfnewid a chyflwyno gwybodaeth mewn gwahanol ffurfiau ac arddulliau ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd penodol. Maent yn dethol y wybodaeth sydd ei hangen at wahanol ddibenion, yn gwirio ei chywirdeb ac yn ei threfnu a'i pharatoi mewn ffurf addas i'w phrosesu gan ddefnyddio TGCh. Maent yn archwilio effeithiau newid y newidynnau mewn model cyfrifiadurol. Maent yn cyfathrebu eu gwybodaeth a'u profiad o ddefnyddio TGCh, ac yn asesu eu defnydd o TGCh yn eu harferion gwaith.

Mae'r dudalen hon ar gael fel taflen waith a gellir ei lawrlwytho isod. Sut ydw i'n lawrlwytho'r ffeiliau hyn?

Fersiwn Word (26k) Fersiwn PDF (20k)
Asesu - Technoleg Gwybodaeth

.