Datblygiad Proffesiynol

Yr Hyn y Gallai Eich Portffolio Gynnwys

Manylion Personol:

Cerrig milltir arwyddocaol o ran yr ysgol neu'r gwasanaeth (diweddar a pherthnasol):

Yna gallech drefnu eich profiadau datblygiad i'r adrannau canlynol:

Adran Bortffolio Ffynonellau Tystiolaeth Posib
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Meddu ar wybodaeth drylwyr a diweddar o addysgu eich pwnc/pynciau ac ystyried datblygiadau'r cwricwlwm ehangach sy'n berthnasol i'ch gwaith.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Monitro data (cofnodion cynllunio, arsylwi ar wersi)
Tystiolaeth arfarnu
Tystiolaeth allanol – Estyn / AALl
Trafodaethau gydag arweinwyr tîm, uwch staff
Cynlluniau gwaith yn gysylltiedig â'r CDY, e.e. yn dangos defnydd o TGCh
Cofnodion DPP gan gynnwys ffurflenni gwerthuso

Addysgu ac Asesu

  • cynllunio gwersi'n gyson ac yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion dysgu'r disgyblion
  • defnyddio amrywiaeth o strategaethau priodol yn gyson ac yn effeithiol ar gyfer addysgu a rheoli'r ystafell ddosbarth
  • defnyddio gwybodaeth am gyflawniad blaenorol yn gyson ac yn effeithiol er mwyn gosod disgwyliadau cadarn ar gyfer myfyrwyr a monitro cynnydd, gan roi adborth clir ac adeiladol.
Addysgu ac Asesu
Monitro data (gan gynnwys arsylwi ar wersi)
Tystiolaeth arfarnu
Tystiolaeth allanol - Estyn/AALl
Cofnodion cynllunio sy'n dangos cefnogaeth briodol/Estyn/defnydd o CAU
Trafodaethau gydag arweinwyr tîm, uwch staff
Cofnodion DPP
Cynnydd Disgyblion
Tystiolaeth o gynnydd disgyblion – perfformiad eich disgyblion chi mewn profion neu arholiadau cenedlaethol, neu asesiadau'r ysgol (dylai'r dystiolaeth gyfeirio at gynnydd a wnaed o'i gymharu â chyflawniad blaenorol y disgyblion, gan nodi cynnydd yn dda neu'n well na disgyblion tebyg yn genedlaethol. Dylid dangos hyn o ran marciau neu raddau mewn unrhyw brofion neu arholiadau cenedlaethol, neu asesiadau'r ysgol lle nad yw profion neu arholiadau cenedlaethol yn cael eu cynnal.)
Cynnydd Disgyblion
Data perfformiad yr ysgol
Data perfformiad y dosbarth, asesiadau'r athro/athrawes
Dadansoddiadau'r AALl o ddata
Adroddiadau disgyblion, proffiliau disgyblion
Cyfraddau symudedd, presenoldeb
Adborth o arsylwi ar wersi
Tystiolaeth arfarnu
Asesiad sylfaen
Effeithiolrwydd Proffesiynol Ehangach
Canlyniadau datblygiad proffesiynol a wnaed o ran gwelliannau addysgu neu ddisgyblion yn dysgu
Cyfraniadau at bolisiau a dyheadau'r ysgol
Cyfrifoldebau rheoli
Effeithiolrwydd Proffesiynol Ehangach
Cofnodion DPP
Ymchwil bersonol / defnydd o fwrsariaethau proffesiynol
HMS yn yr ysgol ac allanol, cofnodion cyfarfodydd staff
Nodiadau hyfforddi / mentora
Arsylwi ar wersi (gan gynnwys gwersi model)
Defnyddio mentrau cenedlaethol a lleol (o ran e.e. llythrennedd, rhifedd, TGCh etc)
Gwaith cysgodi
Tystiolaeth arfarnu
Cyfrannu at weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol (e.e. nosweithiau rhieni, gweithgorau, ymweliadau ysgol)
CDY, cynlluniau gweithredu, dogfennau SSE
Nodweddion Proffesiynol
Ennyn ymddiriedolaeth a hyder
Datblygu ymroddiad tîm
Cymell disgyblion a'u hysgogi
Meddwl yn ddadansoddol
Cymryd camau cadarnhaol er mwyn gwella dysgu disgyblion
Nodweddion Proffesiynol
Monitro data (gan gynnwys arsylwi ar wersi)
Tystiolaeth arfarnu
Tystiolaeth allanol – Estyn / AALl
Cynlluniau gwersi
Trafodaethau gyda staff, disgyblion a rhieni
Cofnodion DPP

Gallai pob adran gynnwys blaenddalen sy'n cyfeirio at gyfres o daflenni gwerthuso neu dystiolaeth arall.

.