Datblygiad Proffesiynol

Cofnodi Cyflawniadau – Ffynonellau Tystiolaeth
Os cofnodion neu ddogfennau ysgol gyfan yw'r ffynonellau tystiolaeth nid oes angen cynnwys y rhain mewn portffolio, yn hytrach mae'n well cyfeirio atynt a lle y gellir dod o hyd iddynt. Os ydych yn symud i ysgol newydd mae'n bosib y bydd angen i chi gael copiau at ddibenion cyfeirio.

Egwyddorion Sylfaenol:

  1. Egluro'r diben. Bydd dyluniad penodol y portffolio – y ffordd y mae wedi'i drefnu a'i lunio – yn cael ei bennu gan greadigrwydd / blaenoriaethau'r unigolyn neu'r ysgol a beth yw diben ei lunio.
  2. Dewis y dystiolaeth Mae angen i'r athro/athrawes ddewis yn ofalus gan ystyried diben y portffolio. Bydd rhai mathau o dystiolaeth yn ailadroddus ac weithiau bydd angen cyfeirio at leoliad y dystiolaeth. Dylid ystyried trefniadaeth gronolegol y dystiolaeth.
  3. Ychwanegu adroddiad beirniadol Weithiau mae'n bosib y bydd yn ddefnyddiol ychwanegu dehongliad neu ddadansoddiad o'r dystiolaeth.

Sut ydw i'n lawrlwytho'r ffeiliau hyn?

Fersiwn Word (51k) Fersiwn PDF (35k)
Portffolio Tystiolaeth