Ffeil yr Arweinydd Pwnc

Monitro Pynciau, Mesur Safonau

Cyflwyniad
Bwriad y ddogfen hon yw i gynnig arweiniad pellach i ysgolion wrth iddynt fynd ati i fonitro safonau fel rhan o'r broses hunanarfarnu. Seiliwyd y ddogfen ar gyhoeddiad Ofsted, 'Inspecting Subjects' sydd ar gael yn rhad ac am ddim o'u gwefan (ofsted.gov.uk).

Er bod y cyhoeddiad hwnnw yn ymwneud â'r gyfundrefn arolygu yn Lloegr mae llawer o'r wybodaeth yr un mor berthnasol i ni yma yng Nghymru.

Fel y gwelwch, prif ffocws y ddogfen hon, 'Monitro Pynciau, Mesur Safonau', yw datblygu dulliau monitro drwy siarad gyda disgyblion a mesur eu cyflawniad drwy arsylwi arnynt o fewn sefyllfaoedd dysgu. Yn arweiniad Estyn ar wrando ar ddysgwyr, dywedir bod 'trafodaeth gyda dysgwyr yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth am eu cyflawniad a'u hagweddau'.

Ar draws gwricwlwm yr ysgol dylech arfarnu pa mor dda y mae disgyblion yn datblygu'r medrau canlynol:

Dylech hefyd arfarnu pa mor dda y mae disgyblion yn cyflawni:

Er yr holl gyfeiriadau at ddogfennaeth arolygu carwn bwysleisio yr anelir y ddogfen hon at hwyluso'r broses hunanarfarnu mewn ysgolion ac nid at ddiben hunanarolygu. Proses barhaus a datblygol yw hunanarfarniad sy'n galluogi ysgol i gywain gwybodaeth am ei chryfderau a'i gwendidau a fydd yn arwain y Cynllun Datblygu Ysgol neu Gynlluniau Datblygu Pwnc mewn modd strategol.

Ni fwriedir i'r ddogfen hon gymryd lle yr un ddogfen arall a gyhoeddwyd gennym fel Gwasanaeth Datblygu Addysg yn ymwneud â hunanarfarniad. Dylid ei defnyddio fel chwaer ddogfen i'r proffiliau pwnc a'r proffil cwestiynau allweddol a ddosbarthwyd i ysgolion yn ystod tymor yr haf, 2003. Bydd rhan helaetha'r wybodaeth a gesglir drwy ddefnyddio'r arweiniad hwn yn berthnasol i GwA 1.

Aled Evans
Swyddog Datblygu Cynradd

Dewiswch bwnc isod:

.   .
.   .
.   .
.   .
.   .