Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Daearyddiaeth
Dadansoddi Gwaith y Disgyblion
Sefydlwch linell sylfaen ar gyfer barnu perfformiad y disgyblion yn ei herbyn drwy ganolbwyntio ar gyrhaeddiad ar fynediad i Flwyddyn 1.
Beth yw graddau gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o'r byd? Ydy'r disgyblion yn cyrraedd neu'n gwneud yn well na'r nodau neu'r safonau disgwyliedig erbyn iddynt ddechrau ym Mlwyddyn 1? Barnwch i ba raddau y bydd y disgyblion yn cyflawni neu'n cyflawni'n well na disgrifiadau lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6.
Archwiliwch unrhyw brosiectau neu waith maes y mae'r disgyblion wedi ymgymryd â hwy. Edrychwch ar arddangosfeydd, modelau, tystiolaeth ffotograffig ac unrhyw bortffolios disgyblion neu hunanasesiadau i farnu'r safonau ac a yw cynnydd y disgyblion yn ddigon da. Cadwch rai cwestiynau mewn cof pan fyddwch yn adolygu'r dystiolaeth. Er enghraifft:
- 'Ydy lefel y gwaith yn cyfateb yn addas i lefel cyrhaeddiad y disgyblion?'
- 'Ydy'r maes astudio'n ddigon eang i sgiliau ymholi ddatblygu'n gynyddol?'
- 'Beth yw'r cryfderau a'r gwendidau yn y gwaith a welwyd?'
- 'Ydy ystod y gwaith y mae'r disgyblion yn ei wneud yn caniatáu iddynt arddangos eu galluoedd?'
Siarad â'r Disgyblion
Trafodwch waith gyda'r disgyblion yn unigol ac mewn grwpiau. Defnyddiwch y wybodaeth hon o lygad y ffynnon i gael dealltwriaeth o'u gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiadau o ddaearyddiaeth. Barnwch allu cyfredol y plant yn y pwnc, yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a'r hyn y gallent ei wneud yn well. Gofynnwch gwestiynau, yn enwedig i ddisgyblion Blynyddoedd 2 a 6, am eu gwaith cyfredol a blaenorol. Gofynnwch iddynt esbonio sut y gwnaed tasgau, beth y maent yn ei gofio a pha gasgliadau a gafwyd o'r gweithgaredd.
Gallai cwestiynau i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys:
- 'Ble rydych chi'n byw?'
- 'Sut le ydyw?'
- 'Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw newidiadau'n ddiweddar?', 'Pa fath o newidiadau?'
- 'Pa leoedd eraill rydych chi wedi bod iddynt?', 'Ble mae'r lleoedd hyn?'
- 'Sut maen nhw'n debyg neu'n wahanol i ble rydych chi'n byw?'
Gofynnwch gwestiynau tebyg i'r canlynol i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2:
- 'Ble mae'r lle hwn?'
- 'Allwch chi ddod o hyd iddo ar fap neu mewn atlas?'
- 'Sut le ydyw?'
- 'Sut mae'n wahanol i ble rydych chi'n byw?'
- 'Sut y daeth i fod fel hyn?'
- 'Sut a pham mae'n newid?'
- 'Beth allai ddigwydd nesaf?'
Defnyddiwch gwestiynau tebyg sy'n ymwneud ag agweddau eraill ar ddaearyddiaeth i ddarparu tystiolaeth bellach o wybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion, eu gallu i adnabod patrymau a phrosesau ac i ofyn ac ateb cwestiynau daearyddol. Cofnodwch unrhyw gryfderau a gwendidau o ran gwybodaeth a dealltwriaeth ddaearyddol a gallu'r disgyblion i gyfathrebu neu gyflwyno eu casgliadau. Gwiriwch pa mor dda y mae'r disgyblion yn defnyddio geirfa ddaearyddol.
Dylech drafod y gwaith sydd wedi'i gofnodi yn llyfrau'r disgyblion gan ofyn iddynt gyfeirio at ei gynnwys a'i gyd-destun.
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |