Ffeil yr Arweinydd Pwnc

Monitro Pynciau, Mesur Safonau

DisgyblionGwyddoniaeth
Barnwch safonau drwy werthuso gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion a'r hyn y gallant ei wneud yn erbyn disgrifiadau lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol. Canolbwyntiwch ar safonau'r disgyblion hŷn ym mhob cyfnod allweddol. Gwerthuswch gyflawniad drwy bennu a yw'r disgyblion yn gweithio ac yn dysgu hyd eithaf eu gallu.

Gwerthuswch safonau ym mhedair adran y rhaglen astudio: ymholiad gwyddonol; prosesau bywyd a phethau byw; defnyddiau a'u priodweddau; a phrosesau ffisegol. Mae'r disgyblion yn dysgu sgiliau ymholi gwyddonol drwy gymryd rhan mewn casglu tystiolaeth ac ymchwilio o fewn y tri maes arall.

Yn y ddau gyfnod allweddol gwerthuswch pa mor dda y mae'r disgyblion yn:

Yn ogystal â hyn, yng Nghyfnod Allweddol 2, gwerthuswch pa mor dda y mae'r disgyblion yn gallu:

Seiliwch eich barn ar ganlyniadau profion cenedlaethol, arsylwi mewn gwersi, dadansoddi gwaith a siarad â'r disgyblion.

Dadansoddi Gwaith y Disgyblion
Archwiliwch waith y disgyblion mewn llyfrau, ffeiliau a ffynonellau eraill, fel gwaith cartref ac arddangosfeydd, i ddatblygu darlun llawn o waith y disgyblion mewn gwyddoniaeth. Ceisiwch gael darlun clir o'r safonau ar ddiwedd pob cyfnod allweddol a syniad o gynnydd y disgyblion dros amser, gan nodi lle mae'r cryfderau a'r gwendidau.

Wrth archwilio gwaith y disyblion mewn gwyddoniaeth, ystyriwch:

Aseswch gyflawniad mewn perthynas â'r hyn y gofynnwyd i'r plant ei wneud. Cadarnhewch a yw'r disgyblion yn dilyn cwricwlwm gwyddoniaeth eang a chytbwys.

Siarad â'r Disgyblion
Siaradwch â'r disgyblion yn ystod gwersi, pryd bynnag y mae'n gyfleus, i gael syniad o'r hyn y maent yn ei wybod a'i ddeall, eu hagweddau at wyddoniaeth, ac a yw eu gwaith yn ddigon heriol. Aseswch gyflawniad gan ddefnyddio cwestiynau i brofi terfynau eu dealltwriaeth ac a yw'r galwadau arnynt yn herio'r terfynau hyn. Pan fydd y disgyblion yn gwneud ymchwiliadau ymarferol, gwrandewch ar eu sgyrsiau i bennu lefel eu meddwl gwyddonol. Anogwch y disgyblion i eirio'u hymatebion eu hunain i roi cyfle iddynt esbonio pethau a defnyddio'r derminoleg wyddonol briodol. Profwch eu dealltwriaeth drwy ofyn cwestiynau 'Beth fyddai'n digwydd petai...?'.

Gallai cwestiynau i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys:

Gallai cwestiynau arferol i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 gynnwys:

Defnyddiwch wahanol strategaethau i werthuso gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion sydd ag anawsterau iaith a chyfathrebu. Gofynnwch iddynt ddangos i chi yr hyn y maent yn ei wneud. Er enghraifft, gallai'r disgyblion deimlo ei bod yn haws i wneud cylchedau trydanol na'u disgrifio.

Os cyfyngir arsylwi ar wersi i un neu ddau faes gwyddoniaeth, trafodwch y lleill gyda'r disgyblion i wybod yr hyn y maent yn ei ddeall am y gwaith a wnaed yn flaenorol.

Dylech drafod y gwaith sydd wedi'i gofnodi yn llyfrau'r disgyblion gan ofyn iddynt gyfeirio at ei gynnwys a'i gyd-destun.

Dewiswch bwnc arall isod:

.   .
.   .
.   .
.   .
.   .