Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Dylunio a Thechnoleg
Gwerthuswch safonau, drwy farnu gallu'r disgyblion i:
- ymchwilio, datblygu, cynllunio a chyfleu syniadau dylunio
- gwybod am a gweithio gydag offer, deunyddiau a chydrannau wrth wneud cynhyrchion a systemau
- gwerthuso'r prosesau y maent yn eu defnyddio a'r cynhyrchion y maent yn eu gwneud
- ystyried anghenion a dymuniadau pobl a'r cyfleoedd ar gyfer gwneud cynhyrchion ar eu cyfer
Ydyn nhw'n gallu gwerthuso'u gwaith wrth iddynt fynd ymlaen:
- profi eu cynhyrchion a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i'w gwella
- siarad yn hyderus am eu syniadau technegol a chyflwyno gwybodaeth a syniadau drwy ysgrifennu a lluniadu, gan gynnwys defnyddio TGCh
- gweithio'n annibynnol ac ar y cyd
Erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd dylai'r disgyblion wybod:
- anghenion defnyddiwr olaf y cynhyrchion y maent yn eu dylunio
- sut mae cynhyrchion yn cael eu gwneud
- bod swyddogaeth a golwg cynnyrch yn bwysig
- pha offer a deunyddiau i'w defnyddio a sut i'w defnyddio'n ddiogel
Dylent ddeall:
- bod dylunio'n ymwneud â datrys gofynion gwrthdrawiadol (er enghraifft: 'Mae angen i'r barcud hwn fod yn ysgafn ond mae angen iddo fod yn gryf hefyd.')
- pam mae un deunydd yn gweddu'n well i swyddogaeth benodol nag un arall
- sut i gynnal profion cyn ceisio gwella'u cynhyrchion
- pam mae'n bwysig i drin bwyd yn ddiogel ac yn lanwaith
- y gallai mynediad i adnoddau ddylanwadu ar y broses o'u dylunio a'u gwneud
Dylai'r disgyblion fedru dangos eu sgiliau yn y ffordd y maent yn:
- datblygu manyleb ddylunio
- trin offer lluniadu fel pensiliau, ysgrifbinnau ac adnoddau TGCh
- lluniadu syniadau dylunio gan ddefnyddio brasluniau â nodiadau
- defnyddio offer, fel siswrn a thyllwr yng Nghyfnod Allweddol 1 ac offer mesur, haclifiau, driliau a chyllyll torri i blant yng Nghyfnod Allweddol 2, yn ddiogel ac yn gywir
- modelu syniadau gyda chitiau adeiladu, cerdyn a phlastig dalennog ac, yng Nghyfnod Allweddol 2, defnyddio caledwedd rheoli cyfrifiadurol
- defnyddio offer megis cloriannau; a chymhwyso'r wybodaeth y maent wedi'i ddysgu ym meysydd eraill y cwricwlwm
Gofynnwch gwestiynau wrth ddadansoddi'r gwaith, fel:
- 'Ydy'r disgyblion yn dysgu sgiliau, prosesau a gwybodaeth benodol a pherthnasol drwy dasgau ymarferol â ffocws iddynt?'
- 'Ydy'r disgyblion yn ymchwilio ac yn gwerthuso amrywiaeth o gynhyrchion cyfarwydd – a sut maent yn defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgwyd o'r gweithgaredd hwn?'
- 'Ydy'r disgyblion yn ymgymryd ag amrywiaeth cynyddol gymhleth o aseiniadau dylunio a gwneud dros amser?'
- 'Ydy'r disgyblion yn cynhyrchu ac yn datblygu eu syniadau eu hunain ar gyfer cynhyrchion neu a ydyn nhw bob amser yn dilyn dyluniad rhywun arall?'
- 'Ydy creadigrwydd yn cael ei feithrin?'
- 'Ydy'r disgyblion yn defnyddio amrywiaeth cynyddol o offer a deunyddiau i wneud cynhyrchion neu ydy'r disgyblion yn cael eu gororfodi gan adnoddau cyfyngedig, gorddefnydd o daflenni gwaith neu dempledau sy'n cyfyngu ar eu gwaith?'
- 'Ydy'r disgyblion yn gwerthuso canlyniadau eu cynhyrchion yn effeithiol, gan nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y mae angen ei wella?'
- 'Pha mor dda mae'r disgyblion yn cyfleu eu syniadau a'u cynlluniau mewn gwahanol ffyrdd?', 'A roddir sylw priodol i iechyd a diogelwch?'.
Gallai cwestiynau i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys:
- 'Beth rydych chi wedi'i wneud?'
- 'Pa offer a deunyddiau a ddefnyddioch chi?'
- 'Pam penderfynoch chi ei wneud fel hyn?'
- 'Sut gallech chi wneud hwn yn gryfach?'
- 'Sut unoch chi hwn â hwn?', 'Pa ffordd arall y gallech chi fod wedi'i wneud?'
- 'Sut mae'n gweithio?'
- 'Beth fyddai'n digwydd petaech yn gwneud hwn o ffabrig yn hytrach na cherdyn?'
- 'Dangoswch i mi/dywedwch wrthyf sut y gwnaethoch...'
- 'Rwy'n gweld eich bod wedi cymharu gwahanol fathau o gynwysyddion llaeth. Pa un fyddai'r gorau i fynd ag ef ar drip ysgol?'
Gofynnwch gwestiynau tebyg i'r canlynol i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2:
- 'I bwy mae hwn ar ei gyfer?' 'Beth maen nhw wedi'i ddweud amdano?' 'I ba raddau rydych chi'n cytuno â nhw?'
- 'Sut y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio?'
- 'Ym mha ffyrdd rydych chi wedi defnyddio cyfrifiaduron mewn D&T i'ch helpu chi i ddylunio?'
- 'Pam rydych chi wedi defnyddio'r deunyddiau a'r cydrannau hyn?'
- 'Pa fathau o switshis rydych chi'n gwybod amdanynt?' 'Pam y defnyddioch chi'r un hwn yn yr achos hwn?'
- 'Sut gallech chi wneud hwn yn fwy anystwyth?'
- 'Beth fyddai'n digwydd petai hwn yn gwlychu?'
- 'Beth sy'n gweithio'n dda a beth y gellid ei wella?'
- 'Beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gweithgaredd hwn?'
Dylech drafod y gwaith sydd wedi'i gofnodi yn llyfrau'r disgyblion gan ofyn iddynt gyfeirio at ei gynnwys a'i gyd-destun.
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |