Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Addysg Gorfforol
Safonau a Chyflawniad
Er mwyn gwerthuso safonau yn addysg gorfforol barnwch a yw'r disgyblion yn cyflawni'n gydradd â'r disgwyliadau am eu hoedran. Defnyddiwch eich profiad i wneud hyn ac hefyd ystyriwch y disgrifiadau lefel yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Dewch at farn ynglŷn â'r modd mae disgyblion yn:
- meddu a datblygu eu medrau
- dewis a chymhwyso'u medrau, tactegau a syniadau cyfansoddi (e.e. wrth greu symudiad mewn gymnasteg neu ddawns)
- gwerthuso a gwella'u perfformiad
- meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o ffitrwydd a chadw'n iach
Gwerthuswch eu cyflawniad drwy benderfynu a yw'r disgyblion yn dysgu i'w llawn gallu.
Gallai cwestiynau i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys:
- 'Pa rannau o'ch corff a ddefnyddioch chi i ddechrau/gorffen eich dilyniant gymnasteg?'
- 'A oedd eich dilyniant dawns chi neu'ch ffrind yn cynnwys pob rhan y gofynnwyd i chi ei chynnwys?'
- 'Beth oeddech chi'n ei hoffi am eich dilyniant chi neu ddilyniant eich ffrind?'
- 'Sut gallech chi neu ef/hi wella'r dilyniant ar gyfer y tro nesaf?'
- 'Pam penderfynoch chi ei wneud yn y ffordd honno?'
- 'Beth fyddai'n digwydd petai...?'
- 'Pha fathau eraill o dafliadau y gallech fod wedi rhoi cynnig arnynt...?'
Gallai cwestiynau i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 gynnwys:
- 'Pa ran o'r gerddoriaeth oedd yr hawsaf/anoddaf i'w defnyddio yn eich dawns?', 'Pam?'
- 'Pa syniadau da a gawsoch chi gan eich partner i'ch helpu chi gyda'ch dawns?'
- 'Pa mor dda rydych chi'n meddwl y gwnaeth eich tîm amddiffyn yn y gêm honno...?'
- 'Beth rydych chi'n meddwl y bydd yn rhaid i chi geisio'i wneud i fynd heibio iddo ef/iddi hi y tro nesaf?'
- 'Beth y mae angen i chi feddwl amdano i wella eich glaniad ar ôl naid?'
- 'Sut oeddech yn teimlo ar ôl gorffen cynhesu?', 'Pam mae angen i ni gynhesu? Beth sy'n digwydd i'ch corff?'
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |