Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Hanes
Mae cwestiynau fel:
- 'Beth ddigwyddodd nesaf?'
- 'Sut roedd pethau'n wahanol bryd hynny?'
- 'Allwch chi ddweud pam yr oeddent yn wahanol?'
- 'Sut yr effeithiodd hynny ar fywydau pobl ?', yn profi gwybodaeth a defnydd y plant o derminoleg a'u dealltwriaeth o newid dros amser.
Bydd cwestiynau fel:
- 'Sut rydym yn gwybod hynny?'
- 'Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym?'
- 'Ble gallem chwilio i ddarganfod mwy am hyn?'
yn galluogi'r disgyblion i ddangos eu dealltwriaeth o natur a defnydd tystiolaeth hanesyddol a'u gallu i ddefnyddio ffynonellau cynyddol gymhleth.
Mae cwestiynau fel:
- 'Ydy pethau'n wahanol iawn yn (y cyfnod sy'n cael ei astudio) i'r hyn yr oeddent (yn y cyfnod a astudiwyd yn flaenorol)?'
- 'A ddigwyddodd unrhyw beth mor bwysig â hyn cyn/ar ôl?'
- 'Allwch chi feddwl am enghraifft arall o ... ?'
yn dangos pa mor dda y gall y disgyblion wneud cysylltiadau hanesyddol drwy gysylltu eu gwybodaeth newydd â dysgu blaenorol yn ogystal â dangos eu dealltwriaeth o syniadau newydd.
Llwybr arall i'w ddilyn yw gofyn i'r disgyblion beth yw'r cwestiynau nesaf y dylent eu gofyn i'w hunain, fel:
- 'Pam y gwnaeth ef/hi ymddwyn yn y ffordd honno?'
- 'Onid yw hyn yr un peth â phan ……?'
Gallai cwestiynau i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys:
- 'Beth ddigwyddodd pan...?'
- 'Pam rydym ni'n cofio...?'
- 'Pam rydych chi wedi gosod y ffotograffau/pethau hyn yn y drefn hon?'
- 'Beth ydych chi'n meddwl yw (arteffact) hwn?; A yw'n hen iawn?; Beth oedd ei ddiben?; Pwy wnaeth yr arteffact?; a Pham?'
- 'Sut gallwn ni wybod a yw'r stori hon yn wir?'
- Ble a sut roedd pobl yn byw (bryd hynny)?'
- 'Pam dewisoch chi ddarganfod gwybodaeth yn y ffordd hon?'
- Pha wahaniaeth y gwnaeth hyn i fywydau pobl?'
Ac ar gyfer y rheiny sydd ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2:
- 'Beth sy'n wahanol nawr i sut roedd pethau bryd hynny?'
- 'Pam rydych chi'n meddwl y newidiodd pethau yn y ffordd hon?'
- 'Pam y digwyddodd (y digwyddiad) hwn, beth y'i achosodd?'
- 'Sut roedd pobl yn cadw'u hunain yn fyw ac yn iach?'
- 'Nodwch dri o'r pethau pwysicaf a ddigwyddodd bryd hynny.'
- 'A oedd gan bawb yr un farn ynglŷn â hyn ar y pryd (neu ers hynny)?'
- 'Ydy pobl heddiw yn cytuno ar yr hyn a ddigwyddodd/sut oedd e?'
- 'Pam roedd (ef/hi) mor bwysig/bwerus ar y pryd?'
- 'O ble y cawsoch chi eich gwybodaeth?', 'Ydych chi'n credu y gallwch ddibynnu ar rai mathau o dystiolaeth yn fwy nag eraill?', 'Pa un oedd yn fwyaf defnyddiol?'
- 'Pa gwestiynau newydd y mae angen i chi ddarganfod atebion iddynt?'
Dylech drafod y gwaith sydd wedi'i gofnodi yn llyfrau'r disgyblion gan ofyn iddynt gyfeirio at ei gynnwys a'i gyd-destun.
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |