Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Mathemateg
Gwerthuswch y canlynol:
- pa mor gywir y gallant ddarllen rhifau, cyfrif a threfnu rhifau a deall gwerth lle
- yr hyn y maent yn ei wybod ar eu cof a'r hyn y gallant ei gyfrifo'u hunain
- rhwyddineb trin rhifau yn y pen ac amrywiaeth y strategaethau cyfrifo y gallant eu defnyddio a'u cymhwyso
- pa mor dda y maent yn defnyddio termau a nodiant mathemategol
- pa mor dda y maent yn defnyddio ymagweddau safonol ac ansafonol at gyfrifo
- a allant amcangyfrif yn gall
- eu gallu i gofnodi datganiadau rhif, gan gynnwys ffracsiynau, degolion a chanrannau
- eu dulliau cyfrifiannu
- sut y maent yn cynrychioli ac yn dehongli data
- a allant adnabod ac enwi gwahanol siapiau, disgrifio eu lleoliad a'u symudiad, a nodi priodweddau
- pa mor dda y maent yn defnyddio ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddatrys problemau a rhesymu
Gallai cwestiynau i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys:
- 'Beth sy'n 10 yn fwy na 63, 10 yn llai na 38?'
- 'Darllenwch y rhifau hyn: 19, 32, 50, 94, 700?'
- 'Cyfrifwch i fyny neu'n ôl fesul un o 33, fesul 2 o 12?
- 'Nodwch wahanol ffyrdd o wneud 10 drwy adio neu dynnu rhifau?'
- 'Beth sydd tua 1cm, 10cm, 100cm o hyd/taldra/lled/dyfnder?'
- 'Beth yw'r arwydd sydd ar goll, 18 = 23 ? 5?'
- 'Beth mae'r graff hwn yn ei ddweud wrthym am y maint esgidiau mwyaf cyffredin?'
- 'Beth yw siâp y gwrthrych hwn?', 'Sawl ymyl, wyneb etc?'
- 'Rwy'n meddwl am rif ac yna'i haneru a'r ateb yw 9.', 'Beth yw'r rhif?'
- 'Aeth Manon ar y bws am 9.00. Hyd y daith oedd hanner awr. Pa amser yr aeth hi oddi ar y bws?'
Ac ar gyfer disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2:
- 'Darllenwch y rhifau hyn: 2,537; 620,002; 24,890?'
- 'Sawl 7 sydd yn 35?'
- 'Dyblwch 372 , 1.8?'
- 'Beth yw chwarter 2?', 'Dewch o hyd i 10 y cant o 60; 15 y cant o 60?'
- 'Beth yw 51 x 47 yn fras?'
- 'Beth yw perimedr yr ystafell ddosbarth mewn metrau?'
- 'Pa unedau fyddech chi'n eu defnyddio wrth fesur perimedr llyfr/yr iard chwarae/trwch darn o bapur y pellter rhwng Abertawe a Chastell-nedd?', 'Sut byddech chi'n mesur y pellteroedd hyn?'
- 'Sawl ochr sydd gan bentagon?', 'Disgrifiwch byramid?'
- (i ddisgyblion sy'n dehongli graff o sgorau prawf) 'Beth oedd y sgôr fwyaf cyffredin yn y prawf?', 'Sawl un gafodd lai na hanner marciau?', 'Pa ffracsiwn gafodd fwy na hanner marciau?'
- 'Torrais 65cm oddi ar raff 3.5m.', 'Faint sydd ar ôl?'
Gofynnwch 'Sut y cyfrifoch chi hynny?' i'r disgyblion yn rheolaidd i werthuso pa mor llwyddiannus y maent yn:
- defnyddio iaith fathemategol
- gwybod a chofio ffeithiau mathemategol
- cymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau
- defnyddio gwahanol strategaethau pen
- dewis a defnyddio offer mathemategol
- rhesymu a meddwl yn fathemategol
- mesur, cyfrifo a lluniadu
- defnyddio dulliau a gweithdrefnau priodol i ddatrys problemau'n ysgrifenedig neu yn y pen
- gwybod a defnyddio priodweddau siapiau
- esbonio a dehongli graffiau a thablau
Dylech drafod y gwaith sydd wedi'i gofnodi yn llyfrau'r disgyblion gan ofyn iddynt gyfeirio at ei gynnwys a'i gyd-destun.
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |