Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Saesneg/Cymraeg
Dylech fesur safonau yn erbyn disgrifiadau lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol. Wrth werthuso cyflawniad, barnwch a yw'r disgyblion yn cyrraedd y safonau y byddech yn eu disgwyl oddi wrthynt, gan ystyried eu hamgylchiadau penodol.
Wrth werthuso safonau a chyflawniad yn Saesneg/Cymraeg, edrychwch am alluoedd cynyddol y disgyblion i:
- ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu â brwdfrydedd, hyder, rhuglder, cywirdeb a dealltwriaeth
- defnyddio amrywiaeth llawn o giwiau darllen, er enghraifft ffonig, graffig, gramadegol, cyd-destunol
- deall y system seineg a sillafu i'w helpu i ddarllen a sillafu'n gywir
- dangos llawysgrifen rugl a darllenadwy a gyflwynwyd yn dda
- defnyddio geirfa gynyddol
- atalnodi'n gywir
- cynllunio, drafftio, diwygio a golygu eu gwaith ysgrifennu eu hunain
- dewis ffurf ac arddull ysgrifennu briodol sy'n addas i'r dasg
- defnyddio geirfa sy'n benodol i'r pwnc i drafod eu darllen a'u hysgrifennu
- dangos diddordeb mewn llyfrau, darllen er mwynhad a chyfiawnhau eu hoffterau a'u anhoffterau
- defnyddio eu dychymyg, dyfeisgarwch ac ymwybyddiaeth feirniadol wrth ddarllen ac ysgrifennu
- gwrando'n astud a chyda dealltwriaeth
- defnyddio TGCh i ymchwilio i'w gwaith a'i gynhyrchu ar brosesydd geiriau
- chymhwyso eu sgiliau darllen ac ysgrifennu'n briodol ac yn effeithiol ym mhynciau eraill y cwricwlwm
Siarad â'r Disgyblion
Aseswch gyflawniadau'r disgyblion drwy ddefnyddio cwestiynau i werthuso cyfyngiadau eu dealltwriaeth ac a yw'r galwadau arnynt yn ddigonol. Trafodwch â'r disgyblion i ddarganfod eu chwaeth o ran darllen, sut maent yn mynd ati i wneud darn o waith ysgrifennu, eu defnydd o eirfa, eu sgiliau ymchwilio a'u gallu i fynegi eu hunain yn glir. Siaradwch â hwy am weithgareddau a diddordebau eraill, gan gynnwys drama a defnyddio TGCh, i gael syniad o'u sgiliau cyfathrebu. Lle y bo'n bosib, ceisiwch achub ar gyfleoedd i drafod darn o waith ysgrifennu â'i awdur i ddarganfod sut, a than ba amgylchiadau, y'i cynhyrchwyd. Ceisiwch sicrhau bod eich cwestiynau'n gweddu i gyd-destun gwaith y disgyblion.
Gallai cwestiynau i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys, er enghraifft:
- 'Allwch chi adrodd cerdd/hwiangerdd rydych yn ei gwybod?'
- 'Ydych chi'n gwybod unrhyw eiriau sy'n odli â...?'
- 'Beth rydych chi'n ei wneud os nad ydych chi'n gwybod gair pan fyddwch yn darllen neu'n ysgrifennu?'
- 'Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu stori ac ysgrifennu rhestr?'
- 'Dangoswch i mi sut rydych chi'n uno'ch llythrennau.'
- 'Sut rydych chi'n mynd ati i ysgrifennu stori?'
- 'Dywedwch wrthyf am eich hoff stori.', 'Pam mae'n stori dda?'
Gallai cwestiynau i'w gofyn i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 gynnwys, er enghraifft:
- 'Oes gennych chi hoff awdur/bardd?', 'Beth rydych chi'n ei hoffi am ei lyfrau/cerddi ef/hi?'
- 'Pa fath o lyfrau ffeithiol rydych chi'n mwynhau eu darllen?'
- 'Ydych chi'n mynd i'r llyfrgell?', 'Sut byddech chi'n mynd ati i ddod o hyd i lyfr am bysgota/cwningod/person enwog?' (Rhywbeth sy'n gysylltiedig â'r pwnc cyfredol)
- 'Beth rydych chi'n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi am y llyfr rydych chi'n ei ddarllen?', 'Disgrifiwch y cymeriadau i mi.', 'Ym mha ffordd y maen nhw'n wahanol i'w gilydd?'
- 'Sut rydych chi'n mynd ati i ysgrifennu stori ar bapur neu ar y sgrîn?'
- 'Sut byddech chi'n crynhoi rhan o lyfr?'
- 'Pam rydych chi'n defnyddio paragraffau wrth ysgrifennu?'
- 'Ydych chi'n gwybod unrhyw ddiarhebion, limrigau neu bosau?'
- 'Beth wnewch chi os byddwch yn dod ar draws gair nad ydych yn ei ddeall wrth ddarllen?'
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |