Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Celf
Edrychwch am allu cynyddol y disgyblion i:
- archwilio, casglu ac ymateb i syniadau esthetig i'w defnyddio fel mannau cychwyn ar gyfer eu gwaith
- defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, offer a thechnegau wrth greu celfwaith
- gwerthuso a datblygu eu gwaith
- gwybod am arlunwyr a chrefftwyr o wahanol gyfnodau a diwylliannau
- cymysgu paent yn llwyddiannus
- defnyddio gwahanol gyfryngau i ddarlunio cysgod ac arlliw
- deall lliw, patrwm, arlliw, llinell, siâp, ffurf a lle a defnyddio'r geiriau hyn i ddisgrifio eu gwaith
- gweithio mewn 2D a 3D ac mewn gwahanol raddfeydd
- dangos dyfnder a phellter yn eu gwaith
- darlunio cysgodion, goleuni a thywyllwch yn eu gwaith; tynnu llun pobl o wahanol onglau
- gweithio'n drefnus ac yn daclus
- dewis technegau ac offer sy'n briodol at y diben
- gweithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau, er enghraifft: clai, print, gwehyddu, batic, clymliwio, collage, cerfio, cyfrifiaduron, stensiliau
- tynnu lluniau o'r cof, arsylwadau a'r dychymyg
- edrych ar ddelweddau'n ofalus a sylwi ar elfennau pwysig
- arbrofi'n hyderus â gwahanol gyfryngau
- defnyddio TGCh i gynhyrchu syniadau ar gyfer celfwaith i ddysgu mwy am gelf ac arlunwyr ac i gynhyrchu delweddau celf
- dangos gofal ac aeddfedrwydd priodol o ran arteffactau a chelfweithiau gorffenedig
- dangos sgiliau llythrennedd a rhifedd cynyddol lle y bo'n briodol, er enghraifft mewn ymatebion ysgrifenedig mewn llyfrau braslunio
Gallai cwestiynau i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 gynnwys:
- 'Ydych chi'n gwybod enwau unrhyw arlunwyr?', 'Dywedwch wrthyf beth rydych chi'n ei wybod amdanyn nhw a'u gwaith'
- 'Disgrifiwch y gwaith a beth rydych wedi'i ddysgu'
- 'Ydych chi wedi edrych ar gelf o wledydd eraill?'
- 'Disgrifiwch sut y cymysgoch chi'r lliw hwn.' (nad yw'n un o'r prif liwiau)
- 'Sut rydych chi'n cymysgu arlliwiau goleuach a thywyllach?'
- 'Ydych chi wedi bod i oriel gelf?', 'Beth rydych chi'n ei gofio?'
- 'Beth yw eich barn chi am eich gwaith?', 'Beth rydych chi'n ei hoffi a ddim yn ei hoffi amdano?', 'Beth fyddech chi'n ei newid?'
Gofynnwch gwestiynau tebyg i'r canlynol i'r disgyblion ar ddiwedd neu'n agos at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2:
- 'Beth y mae angen i chi ei wneud i wella'ch gwaith?'
- 'Ydych chi'n defnyddio'ch llyfr braslunio'n rheolaidd? Beth rydych chi'n ei gofnodi ynddo?'
- 'Ym mha ffordd rydych chi wedi defnyddio'r cyfrifiadur i ddod o hyd i wybodaeth am gelf neu eich helpu chi gyda'ch dyluniadau?'
- 'Disgrifiwch y gwahanol ffyrdd rydych chi wedi dysgu i ddefnyddio paent/clai/tecstilau yn eich celfwaith.'
- 'Beth oedd eich man cychwyn ar gyfer creu'r darlun/cerflun/model hwn?'
- 'Disgrifiwch i mi pam y dewisoch chi brintio/collage/paent/clai ar gyfer y prosiect hwn.'
- 'Gwaith pa arlunydd rydych chi'n ei hoffi/ddim yn ei hoffi?', 'Pa nodweddion sydd o ddiddordeb i chi?'
Dylech drafod y gwaith sydd wedi'i gofnodi yn llyfrau braslunio'r disgyblion neu at waith creadigol arall gan ofyn iddynt gyfeirio at ei gynnwys a'i gyd-destun.
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |