Ffeil yr Arweinydd Pwnc

Monitro Pynciau, Mesur Safonau

DisgyblionAddysg Grefyddol
Barnwch safonau a dysgu mewn addysg grefyddol (Add.Gr.) mewn perthynas â gofynion y maes llafur cytunedig. Seiliwch eich barn ar ba mor dda y mae'r disgyblion yn cyflawni mewn perthynas â'r safonau disgwyliedig. Chwiliwch am wahaniaethau o ran dysgu rhwng gwahanol grwpiau o ddisgyblion a gofynnwch i'ch hun a yw cyflawniad y disgyblion mor dda ag y dylsai fod ar gyfer eu hoedran, eu gallu a'u hamgylchiadau.

I lunio barn am gyflawniadau'r disgyblion bydd angen i chi ganolbwyntio ar:

Dadansoddi Gwaith y Disgyblion
Nid ydych yn debygol o ddod ar draws lawer o waith Add.Gr. a gofnodwyd gan ddisgyblion iau. Edrychwch ar waith ar draws yr ysgol gyda phwyslais ar Flynyddoedd 2 a 6 gan ganolbwyntio ar gyfraddau dysgu pob disgybl. Defnyddiwch dystiolaeth o waith y disgyblion i gyfrannu at eich barn am safonau yn y rhan fwyaf o agweddau ar Add.Gr. Mae fel arfer yn fwy effeithiol os gofynnir cwestiynau i'r disgyblion am ychydig o'r gwaith rydych yn ei ddadansoddi. Barnwch pa mor dda y mae'r disgyblion yn defnyddio iaith briodol ac archwiliwch dyfnder eu dealltwriaeth drwy drafod. Er enghraifft, yn saith oed, gallai'r disgyblion fod yn ysgrifennu termau fel Qur'an, Beibl a Tora ar gyfer llyfrau arbennig. Drwy siarad â hwy, barnwch i ba raddau y maent yn deall y termau hyn ac yn cydnabod beth yw'r 'llyfrau arbennig' hyn.

AG Statudol
Rhaid dysgu AG i bob plentyn yn yr ysgol (onibai bod plentyn yn cael ei eithrio yn ôl dymuniad ei rieni) gan gynnwys y rheiny yn y dosbarth derbyn; nid yw'n orfodol yn nosbarthiadau'r meithrin. Mae'n rhaid i AG anenwadol ddilyn y maes llafur cytun lleol.

Dylid seilio pob barn ar gyflawniad y disgyblion a'u safonau dysgu ar amcanion a chynnwys y maes llafur cytun.

AG a Chyd-Addoli
Peidiwch â defnyddio tystiolaeth o weithgareddau addoli ar y cyd i ddod at farn ynglŷn ag AG am y rhesymau canlynol:

Dylai cyd-addoli gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. Gall hyn gadarnhau eu dysgu o fewn pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac AG ond ni all cyd-addoli gael ei ddefnyddio yn lle unrhyw bwnc, gan gynnwys AG.

Dylech drafod y gwaith sydd wedi'i gofnodi yn llyfrau'r disgyblion gan ofyn iddynt gyfeirio at ei gynnwys a'i gyd-destun.

Dewiswch bwnc arall isod:

.   .
.   .
.   .
.   .
.   .