Monitro Pynciau, Mesur Safonau
Technoleg Gwybodaeth
Yng Nghyfnod Allweddol 1, dylai'r disgyblion fedru siarad am eu profiadau o TG y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol. Gallai cwestiynau i gael y wybodaeth hon gynnwys:
- 'Beth rydych chi'n hoffi ei wneud gyda chyfrifiaduron/PCs?, 'Beth yw eich hoff raglen/gêm?', 'Beth rydych chi'n ei hoffi amdano?'
- 'Pa raglenni rydych chi wedi'u defnyddio eleni/y tymor hwn?', 'Beth oeddent yn ei wneud?', 'Beth wnaethant eich helpu chi i'w wneud neu ei ddysgu?'
- 'Sut rydych chi'n dysgu i ddefnyddio rhaglenni/offer newydd?', 'Pwy sy'n esbonio pethau newydd i chi?', 'Sut rydych chi'n cael help pan rydych yn cael trafferth?', 'Ydych chi'n helpu disgyblion eraill?', 'Ydy disgyblion eraill yn eich helpu chi?'
- 'Dangoswch rywbeth i mi a wnaethoch chi ar gyfrifiadur yn ddiweddar.', 'Beth oedd ei ddiben?', 'Beth mae'n ei ddangos?', 'Pa ffordd arall y gallech fod wedi gwneud hyn?', 'A oedd angen i chi newid unrhyw beth?', 'Pam?', 'Sut?'
- 'Sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio y tu allan i'r ysgol?', 'Pam maen nhw'n ddefnyddiol?', 'Beth maen nhw'n ein helpu ni i'w wneud?'
Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 dylai'r disgyblion fedru siarad yn ehangach am gyfrifiaduron, eu defnyddiau a'u cymwysiadau.
Gallai cwestiynau i'w gofyn i ddisgyblion Blwyddyn 6 gynnwys:
- 'Pa eitemau pob dydd sy'n defnyddio cyfrifiadur/microbrosesydd/microsglodyn?', 'Sut maen nhw'n gwella ein bywydau?', 'A oes unrhyw bryderon am dechnoleg o'r fath?'
- 'Ydych chi'n defnyddio e-bost?', 'Pa mor aml?', 'Ydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer anfon neu dderbyn?', 'Pryd mae e-bost yn well na phost arferol?', 'Pryd mae post arferol yn well nag e-bost?'
- 'Beth rydych chi'n defnyddio cyfrifiadur ar ei gyfer?', 'Yn yr ysgol?', 'Gartref?', 'Ydych chi'n trafod neu'n defnyddio cyfrifiaduron gydag eraill?', 'Ffrindiau?','Teulu?', 'Defnyddwyr eraill?', 'Beth rydych chi'n ei drafod?', 'Ydych chi'n rhannu syniadau?', 'Pryd mae cyfrifiaduron yn ddefnyddiol iawn?', 'A oes adegau pan nad yw cyfrifiaduron yn ddefnyddiol?'
- 'Ydych chi wedi defnyddio'r Rhyngrwyd?', 'Am beth?', 'Pryd?', 'A allai ffordd arall fod yn well?'
- 'Pa bynciau eraill rydych chi'n defnyddio cyfrifiadur ynddynt?', 'Allwch chi ddangos peth o'r gwaith hwnnw i mi?', 'Beth wnaeth y cyfrifiadur eich helpu chi i'w wneud/dysgu amdano yn y pwnc hwnnw?', 'Ydych chi'n ei ddefnyddio i ddarganfod gwybodaeth?', 'Sut?', 'Ydych chi'n lawrlwytho gwybodaeth?', 'Pa fath?', 'Pam mae chwiliadau'n arafach ar rai adegau nag eraill?'
- 'Ydych chi wedi defnyddio dyfeisiau cyfrifiadurol eraill: sganwyr/camerâu digidol/dyfeisiau synhwyso neu reoli/CD-ROM/rhaglenni adalw gwybodaeth?', 'Beth mae'r rhain yn ei wneud?', 'Beth yw manteision/anfanteision y rhain?'
- 'Pa raglenni rydych chi wedi'u defnyddio yn yr ysgol?', 'Ar gyfer ysgrifennu/cyfathrebu?', 'Storio data?', 'Darganfod pethau?', 'Creu rhywbeth artistig neu gerddorol?', 'Pa ddyfeisiau ychwanegol y mae eu hangen arnoch i wneud y defnydd gorau o'r rhain?'
Dewiswch bwnc arall isod:
Addysg Gorfforol | Addysg Grefyddol | |||
Celf | Daearyddiaeth | |||
Dylunio a Thechnoleg | Gwyddoniaeth | |||
Hanes | Mathemateg | |||
Saesneg/Cymraeg | Technoleg Gwybodaeth |